xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CCOMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

AmcangyfrifonLL+C

19(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio’r un gyntaf, rhaid i’r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant y Comisiynydd a’i staff.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â’r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol gydag unrhyw addasiadau sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)