xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(cyflwynwyd gan adran 13(1))

ATODLEN 1ADRODDIADAU BLYNYDDOL GAN GYRFF CYHOEDDUS ERAILL

Cyrff cyhoeddus: cyffredinol

1(1)Rhaid i gorff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu gorff a grybwyllir yn is-baragraff (3)) gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad am y cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG (am hynny, gweler paragraff 2);

(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru (am hynny, gweler paragraff 3).

Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG

2(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn gyfrifyddu, adroddiad o’r cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(3)Yn y paragraff hwn, mae i “blwyddyn gyfrifyddu” mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG yr ystyr a roddir gan y gorchymyn—

(a)a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, sy’n sefydlu’r Bwrdd, neu

(b)a wnaed o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

3(1)Yn yr Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Dynol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy.230)), ym mharagraff 22(1)(a), ar ôl “honno” mewnosoder “gan gynnwys adroddiad am y cynnydd sydd wedi ei wneud gan yr awdurdod tuag at gyflawni ei amcanion llesiant a gyhoeddir o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)”.

(2)Nid yw’r diwygiad a wnaed gan is-baragraff (1) yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn pellach o dan adrannau 13 a 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24) i ddiwygio neu ddirymu darpariaeth a wnaed gan y diwygiad hwnnw.