Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 23 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Legislation Crest

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

2015 dccc 1

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch ffioedd myfyrwyr sy’n daladwy i sefydliadau penodol sy’n darparu addysg uwch; i wneud darpariaeth ynghylch ansawdd yr addysg a ddarperir gan ac ar ran y sefydliadau hynny ac ynghylch eu rheoli’n ariannol; ac at ddibenion cysylltiedig.

[12 Mawrth 2015]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1LL+CCYFLWYNIAD

1Trosolwg o’r Ddeddf honLL+C

(1)Mae wyth Rhan i’r Ddeddf hon.

(2)Mae’r Rhan hon yn cynnwys trosolwg o’r Ddeddf.

(3)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ffioedd a mynediad. Mae’n ymdrin â—

(a)cynnwys cynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys terfyn ffioedd;

(b)methiant i gydymffurfio â therfyn ffioedd neu â gofyniad arall sydd wedi ei gynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad;

(c)dilysrwydd contractau penodol;

(d)monitro cynlluniau ffioedd a mynediad.

(4)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y pwerau sydd ar gael at ddibenion asesu;

(b)y camau y caiff CCAUC eu cymryd mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol.

(5)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch llunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)cydymffurfedd â’r cod;

(b)y pwerau sydd ar gael at ddibenion monitro cydymffurfedd â’r cod, ac mewn achos o fethu â chydymffurfio â’r cod.

(6)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau—

(a)pan gaiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd ar gyfer sefydliad;

(b)pan fo rhaid i CCAUC, neu pan gaiff CCAUC, dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad sefydliad.

(7)Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiadau a chyfarwyddydau a roddir gan CCAUC (gan gynnwys darpariaeth ynghylch adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol).

(8)Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch swyddogaethau CCAUC, gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chanllawiau, adroddiadau, gwybodaeth a chyngor.

(9)Mae Rhan 8 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch⁠—

(a)arfer pwerau i wneud rheoliadau;

(b)dehongli’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf.

(10)Mae’r Rhan honno hefyd yn cyflwyno Atodlen sy’n cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau presennol a darpariaeth drosiannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(1)(a)

RHAN 2LL+CCYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediadLL+C

2Cais gan sefydliad am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediadLL+C

(1)Caiff corff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (3) wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad.

(2)Mae cynllun ffioedd a mynediad yn gynllun sy’n cydymffurfio ag adrannau 4 i 6.

(3)Mae sefydliad o fewn yr is-adran hon yn sefydliad yng Nghymru—

(a)sy’n darparu addysg uwch, a

(b)sy’n elusen.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I3A. 2(1)-(3) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(a)

I4A. 2(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(a)

I5A. 2(4) mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(a)

3Dynodi darparwyr addysg uwch eraillLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg uwch o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.

(2)Mae darparwr addysg uwch o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—

(a)sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen, ond

(b)na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (4)(d), mae darparwr addysg uwch a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, fel pe bai’n sefydliad.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwneud cais am ddynodiad;

(b)gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);

(c)tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);

(d)effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel sefydliad at ddibenion rhagnodedig).

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I7A. 3(1)-(3) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(a)

I8A. 3(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(b)

I9A. 3(4) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(a)

Cynnwys cynllun ffioedd a mynediadLL+C

4Y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag efLL+C

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad bennu cyfnod y mae i gael effaith mewn cysylltiad ag ef.

(2)Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir fod yn hwy na dwy flynedd.

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) i roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a grybwyllir am y tro yn yr is-adran honno.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)CCAUC,

(b)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, ac

(c)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef yn gyfeiriadau at y cyfnod a bennir ynddo o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I11A. 4(1)(2)(5) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(b)

I12A. 4(3)(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(c)

I13A. 4(3)(4) mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(b)

5Terfyn ffioeddLL+C

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad—

(a)pennu terfyn ffioedd, neu

(b)darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd,

mewn perthynas â phob cwrs cymhwysol ac mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd berthnasol (ac at y diben hwn caiff bennu terfynau ffioedd gwahanol neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd gwahanol mewn perthynas â chyrsiau gwahanol ac mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd perthnasol gwahanol).

(2)At y diben hwn—

(a)mae terfyn ffioedd, mewn perthynas â chwrs, yn derfyn na chaniateir i’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol, mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â’r cwrs, fynd uwch ei law;

(b)mae cwrs cymhwysol yn gwrs, o unrhyw ddisgrifiad rhagnodedig, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(c)mae blwyddyn academaidd berthnasol, mewn perthynas â chwrs, yn flwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs, ac y mae ffioedd yn daladwy i’r sefydliad mewn cysylltiad â hi, ac sy’n dechrau o fewn y cyfnod y mae’r cynllun ffioedd a mynediad yn ymwneud ag ef.

(3)Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn pennu terfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, ni chaniateir i’r terfyn ffioedd a bennir fynd uwchlaw pa swm bynnag a ragnodir at ddibenion yr adran hon (“yr uchafswm”).

(4)Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, rhaid i’r cynllun bennu nad yw’r terfyn ffioedd y penderfynir arno yn unol â’r cynllun i fynd uwchlaw’r uchafswm.

(5)Mae person cymhwysol, at ddibenion is-adran (2)(a), yn berson—

(a)nad yw’n fyfyriwr rhyngwladol, a

(b)sy’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion yr adran hon.

(6)Ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn rhagnodi cwrs ôl-radd, oni bai ei fod yn gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(7)Yn ogystal, ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn gwahaniaethu—

(a)mewn perthynas â chyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, rhwng cyrsiau gwahanol ar sail y pynciau y rhoddir yr hyfforddiant hwnnw arnynt;

(b)mewn perthynas â chyrsiau eraill, rhwng cyrsiau gwahanol ar yr un lefel neu ar lefel gyffelyb ar sail y meysydd astudio neu ymchwil y maent yn ymwneud â hwy.

(8)Mae myfyriwr rhyngwladol yn berson nad yw’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (codi ffioedd uwch yn achos myfyrwyr nad oes ganddynt gysylltiad rhagnodedig â’r Deyrnas Unedig) at ddibenion is-adran (1) neu (2) o’r adran honno.

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo ffioedd sy’n daladwy i berson, mewn cysylltiad â pherson cymhwysol yn ymgymryd â chwrs, neu â rhan o gwrs, a ddarperir ar ran sefydliad, i’w trin at ddibenion is-adran (2)(a) fel pe baent yn daladwy i’r sefydliad hwnnw mewn cysylltiad â’r person cymhwysol yn ymgymryd â’r cwrs.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I15A. 5(1)(2)(a)(c)(4) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(c)

I16A. 5(2)(b)(3)(5)-(9) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(d)

I17A. 5(2)(b)(3)(5)-(9) mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(c)

6Hybu cyfle cyfartal ac addysg uwchLL+C

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys unrhyw ddarpariaethau a ragnodir sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.

(2)Caiff cynllun ffioedd a mynediad hefyd gynnwys darpariaethau pellach sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.

(3)Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (1) i’w cynnwys mewn cynllun yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu—

(a)cymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);

(b)cymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);

(c)darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr (neu sicrhau bod cymorth o’r fath yn cael ei ddarparu);

(d)rhoi gwybodaeth ar gael i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ffynhonnell (neu sicrhau bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhoi ar gael).

(4)Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi i’w cynnwys mewn cynllun hefyd yn cynnwys darpariaethau—

(a)sy’n nodi amcanion sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(b)sy’n nodi gwybodaeth am wariant mewn cysylltiad â’r amcanion hynny;

(c)sy’n ymwneud â’r monitro gan y corff llywodraethu o—

(i)cydymffurfedd â darpariaethau’r cynllun;

(ii)y cynnydd sydd wedi ei wneud i gyflawni unrhyw amcanion a nodir yn y cynllun yn rhinwedd paragraff (a).

(5)Ond ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi darpariaethau i’w cynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad gael ei arfer er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gynllun sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n cyfeirio at gyrsiau penodol neu at y dull o addysgu, goruchwylio neu asesu cyrsiau,

(b)sy’n ymwneud â’r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliad fynd i wariant, mewn unrhyw flwyddyn academaidd, o swm sy’n mynd uwchlaw swm incwm ffioedd cymhwysol y sefydliad y gellir ei briodoli i’r flwyddyn academaidd honno.

(6)At ddibenion yr adran hon—

(a)swm incwm ffioedd cymhwysol sefydliad y gellir ei briodoli i flwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd hynny sy’n daladwy i’r sefydliad, mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno, y mae terfyn ffioedd a bennir yn y cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn gymwys mewn perthynas ag ef, neu y mae’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu arno;

(b)“grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol”, mewn perthynas â chynllun ffioedd a mynediad, yw grwpiau nad oes ganddynt, ar ddyddiad cymeradwyo’r cynllun o dan adran 7, gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.

(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ofynion cyffredinol cynllun ffioedd a mynediad yn gyfeiriadau at ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun yn rhinwedd yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud (neu beidio â gwneud) pethau penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I19A. 6(1)(3)-(6) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(e)

I20A. 6(1)(3)-(6) mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(d)

I21A. 6(2)(7) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(d)

I22A. 6(7) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(a)

Cymeradwyo etc cynllun ffioedd a mynediadLL+C

7Cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediadLL+C

(1)Os gwneir cais i CCAUC i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad o dan adran 2, rhaid i CCAUC drwy roi hysbysiad i’r corff llywodraethu o dan sylw naill ai—

(a)cymeradwyo’r cynllun, neu

(b)gwrthod y cynllun.

(2)Ond ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef o fewn adran 2(3).

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun o dan yr adran hon.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, y cyfnod pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad ac sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon mewn grym yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y’i cymeradwyir o dan yr adran hon, ac sy’n dod i ben ar ba un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—

(a)y diwrnod y daw’r cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i ben;

(b)os caiff cymeradwyaeth CCAUC i’r cynllun ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a roddir o dan adran 38 neu 39, dyddiad yr hysbysiad.

(5)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at gynllun a gymeradwywyd yn gyfeiriadau at gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon ac sydd mewn grym ar hyn o bryd;

(b)mae cyfeiriadau at sefydliad rheoleiddiedig yn gyfeiriadau at sefydliad y mae cynllun a gymeradwywyd yn ymwneud ag ef (ond gweler adrannau 26 a 27(8)).

(6)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 37(5) (peidio â chymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd).

(7)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan is-adran (1)(b), gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I24A. 7(1)(2)(4)-(7) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(e)

I25A. 7(3) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(f)

I26A. 7(3) mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(e)

I27A. 7(5) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(b)

8Cyhoeddi cynllun a gymeradwywydLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig gyhoeddi cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae cynllun i’w gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I29A. 8 mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(g)

9Amrywio cynllun a gymeradwywydLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n caniatáu i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig amrywio cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu mai dim ond os caiff amrywiad ei gymeradwyo gan CCAUC y mae i gymryd effaith.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth i amrywiad a phenderfynu ar y ceisiadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I31A. 9 mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(h)

Cydymffurfio â’r terfyn ffioeddLL+C

10Terfynau ar ffioedd myfyrwyrLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (2) sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

(2)Mae sefydliad yn dod o fewn yr is-adran hon os yw cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud ag ef wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).

(3)“Ffioedd cwrs rheoleiddiedig” yw’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol—

(a)mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, a

(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs hwnnw, pan fo’r flwyddyn honno yn dechrau ar adeg o fewn y cyfnod a bennir o dan adran 4 yng nghynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).

(4)Cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yw’r cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar o dan adran 7 mewn perthynas â’r sefydliad.

(5)Y terfyn ffioedd cymwys yw—

(a)mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn pennu terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw;

(b)mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw fel y penderfynir arno yn unol â’r cynllun.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I33A. 10 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(b)

11Cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-daluLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad wedi methu â chydymffurfio ag adran 10(1).

(2)Caiff CCAUC gyfarwyddo’r corff llywodraethu i wneud naill ai un o’r canlynol neu’r ddau—

(a)cydymffurfio ag adran 10(1);

(b)ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r sefydliad.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon (“cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu”) bennu⁠—

(a)y camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at y diben o gydymffurfio ag adran 10(1);

(b)y modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y gall gael ei roi ar waith.

(4)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (4).

(6)Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 10(1) y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I35A. 11(1)-(4)(6) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(c)

I36A. 11(5) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(i)

I37A. 11(5) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(c)

12Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-daluLL+C

(1)Caiff CCAUC ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd at y diben o gydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC ymgynghori â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig; a chaiff ymgynghori â chorff llywodraethu unrhyw sefydliad arall o fewn adran 2(3) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu y mae cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu wedi ei roi iddo, wrth gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

(4)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu, gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I39A. 12 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(d)

Cydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywydLL+C

13Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywydLL+C

(1)Os yw’r amod yn is-adran (2) neu (3) wedi ei ddiwallu, caiff CCAUC roi cyfarwyddyd o fewn is-adran (4) i gorff llywodraethu sefydliad.

(2)Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni—

(a)bod methiant wedi bod gan y corff llywodraethu i gydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad, a

(b)ar adeg y methiant, fod y cynllun ffioedd a mynediad wedi ei gymeradwyo o dan adran 7.

(3)Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu yn debygol o fethu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(4)Mae cyfarwyddyd o fewn yr is-adran hon yn gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.

(5)Ond ni chaiff CCAUC roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.

(6)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I41A. 13 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

ContractauLL+C

14Dilysrwydd contractauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gontract sy’n darparu ar gyfer talu ffioedd cwrs rheoleiddiedig i sefydliad, gan berson cymhwysol ac mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

(2)At ddibenion unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi o dan y contract, ac unrhyw drafodion mewn cysylltiad â’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai’n darparu ar gyfer talu ffioedd mewn swm sy’n gyfatebol i’r terfyn ffioedd cymwys.

(3)Ac eithrio fel y darperir yn is-adran (2), nid yw’r contract yn ddi-rym nac yn anorfodadwy o ganlyniad i ddarparu ar gyfer talu ffioedd sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I43A. 14 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(e)

Cynlluniau a gymeradwywyd: cydymffurfedd ac effeithiolrwyddLL+C

15Dyletswydd CCAUC i fonitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwyddLL+C

(1)Rhaid i CCAUC—

(a)monitro cydymffurfedd ag adran 10(1);

(b)monitro cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd;

(c)gwerthuso effeithiolrwydd pob cynllun a gymeradwywyd;

(d)gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol.

(2)At ddibenion yr adran hon, effeithiolrwydd cynllun a gymeradwywyd yw ei effeithiolrwydd o ran hybu—

(a)cyfle cyfartal, a

(b)addysg uwch.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I45A. 15(1)(a) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(f)

I46A. 15(1)(b)-(d)(2) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Rhagolygol

16Monitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd: dyletswydd i gydweithreduLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i CCAUC unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan CCAUC at ddiben ei swyddogaethau o dan adran 15.

(2)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn ys is-adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

RHAN 3LL+CANSAWDD YR ADDYSG

Asesu ansawdd yr addysgLL+C

17Asesu ansawdd yr addysgLL+C

(1)Rhaid i CCAUC asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru—

(a)gan bob sefydliad rheoleiddiedig;

(b)ar ran pob sefydliad rheoleiddiedig (pa un ai gan sefydliad rheoleiddiedig arall neu gan ddarparwr allanol).

(2)At ddibenion is-adran (1), mae addysg a ddarperir y tu allan i Gymru i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu yng Nghymru os y’i darperir fel rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.

(3)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at ddarparwr allanol yn gyfeiriadau at berson—

(a)nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig, ond

(b)sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs addysg cyfan, neu ran ohono, ar ran sefydliad rheoleiddiedig.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b)—

(a)caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel person sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs (neu ran ohono);

(b)nid yw cwrs (neu ran ohono) i’w drin fel cwrs a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig os y’i darperir o dan drefniadau gyda’r sefydliad hwnnw a wnaed cyn i’r adran hon ddod i rym.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I49A. 17 mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(g)

I50A. 17(4)(a) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(j)

Pwerau mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonolLL+C

18Addysg o ansawdd annigonol: cyffredinolLL+C

(1)Mae adrannau 19 ac 20 yn gymwys os, o ganlyniad i arfer ei swyddogaethau o dan adran 17, mae CCAUC wedi ei fodloni—

(a)bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig, neu

(b)bod ansawdd cwrs addysg penodol a ddarperir felly,

yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, mae ansawdd yr addysg neu gwrs addysg yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rhai hynny sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I52A. 18 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)

19Cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonolLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o—

(a)gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu

(b)atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.

(2)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I54A. 19 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)

20Mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonolLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i gorff llywodraethu’r sefydliad gyda golwg ar—

(a)gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu

(b)atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.

(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad.

(3)Rhaid i gorff llywodraeth ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I56A. 20 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)

Cydweithredu o ran asesu ansawdd etcLL+C

21Asesu ansawdd etc: dyletswydd i gydweithreduLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).

(2)Rhaid i gorff llywodraethu darparwr allanol sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2) unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r darparwr allanol ag sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).

(3)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn is-adran (1) neu (2) (fel y bo’n briodol).

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I58A. 21 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)

Pwerau atodol at y diben o asesu ansawdd etcLL+C

22Asesu ansawdd etc: pwerau mynd i mewn ac arolyguLL+C

(1)At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol;

(b)edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(2)Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—

(a)dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(3)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.

(4)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol—

(a)i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol y mae’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer mewn perthynas â’i fangre, a

(b)corff llywodraethu unrhyw sefydliad rheoleiddiedig y mae’r sefydliad hwnnw neu’r darparwr allanol hwnnw yn darparu ar ei ran yr addysg y mae arfer y swyddogaeth o dan adran 17 neu 20(2) yn ymwneud â hi.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—

(a)bod yr achos yn achos brys, neu

(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.

(7)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).

(8)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—

(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;

(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.

(9)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I60A. 22 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)

Canllawiau sy’n ymwneud ag ansawdd yr addysgLL+C

23Canllawiau ynghylch materion sy’n berthnasol i ansawddLL+C

(1)Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch unrhyw fater sy’n berthnasol yn ei farn ef i wella neu gynnal ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig.

(2)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I62A. 23 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)

24Canllawiau ynghylch meini prawf ar gyfer asesu ansawddLL+C

(1)Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch—

(a)y meini prawf sydd i’w cymhwyso gan berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 wrth asesu ansawdd yr addysg;

(b)y materion y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth benderfynu a yw ansawdd yr addysg, neu gwrs addysg, yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.

(2)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I64A. 24 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)

Cyngor i CCAUC ynghylch swyddogaethau asesu ansawddLL+C

25Pwyllgor i gynghori CCAUC ynghylch arfer swyddogaethau asesu ansawddLL+C

(1)Rhaid i CCAUC sefydlu pwyllgor i’w gynghori ar arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff CCAUC roi i’r pwyllgor unrhyw swyddogaethau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i un aelod o’r pwyllgor fod yn berson yr ymddengys i CCAUC ei fod yn cynrychioli buddiannau personau y darperir addysg uwch yng Nghymru iddynt.

(4)O ran aelodau eraill y pwyllgor—

(a)rhaid i fwyafrif fod yn bersonau nad ydynt yn aelodau o CCAUC;

(b)rhaid i fwyafrif fod yn bersonau yr ymddengys i CCAUC fod ganddynt brofiad o ddarparu addysg uwch neu eu bod wedi dangos galluedd o ran darparu addysg uwch.

(5)Wrth benodi personau o fewn is-adran (4)(b) i’r pwyllgor, rhaid i CCAUC ystyried dymunoldeb penodi personau sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â darparu addysg uwch neu ag ymgymryd â chyfrifoldeb am ei darparu.

(6)Mae Atodlen 1 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gymwys o ran y pwyllgor fel y mae’n gymwys o ran pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan baragraff 8 o’r Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I66A. 25 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)

AtodolLL+C

26Cymhwyso’r Rhan hon pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywydLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad yn peidio â bod mewn grym, a

(b)pan na fo cynllun ffioedd a mynediad newydd mewn grym mewn perthynas â’r sefydliad.

(2)Mae’r Rhan hon yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad drwy gwrs dynodedig.

(3)At ddibenion cymhwyso’r Rhan hon yn rhinwedd is-adran (2), mae’r sefydliad i’w drin fel sefydliad rheoleiddiedig.

(4)Mae cwrs dynodedig yn gwrs sydd wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I68A. 26 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

RHAN 4LL+CMATERION ARIANNOL SEFYDLIADAU RHEOLEIDDIEDIG

Cod rheolaeth ariannolLL+C

27Dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi CodLL+C

(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Cod”).

(2)Caiff y Cod wneud darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn (ymhlith materion eraill)—

(a)yr amgylchiadau pan fo sefydliad rheoleiddiedig i ymrwymo i drafodiad o ddosbarth a bennir yn y Cod gyda chydsyniad CCAUC yn unig;

(b)trefniadau cyfrifyddu ac archwilio sefydliadau rheoleiddiedig;

(c)darparu gwybodaeth i CCAUC.

(3)Caiff darpariaeth yn y Cod fod ar ffurf gofyniad neu ganllawiau.

(4)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig—

(a)cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Cod;

(b)ystyried unrhyw ganllawiau sydd yn y Cod.

(5)Caiff CCAUC gyhoeddi’r Cod ym mha ffordd bynnag sy’n briodol yn ei farn ef.

(6)Rhaid i CCAUC—

(a)adolygu’r Cod yn gyson, a

(b)llunio a chyhoeddi Cod diwygiedig, os yw hynny’n briodol yn ei farn ef.

(7)Caiff y Cod wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer sefydliadau gwahanol a disgrifiadau gwahanol o sefydliad).

(8)At ddibenion y Rhan hon, nid yw’r Brifysgol Agored i’w thrin fel sefydliad rheoleiddiedig.

(9)Yn adrannau 28, 29 a 30, ystyr “y Cod cyntaf” yw’r Cod cyntaf i’w gyhoeddi o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I70A. 27(1) mewn grym ar 25.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(c)

I71A. 27(1) mewn grym ar 1.9.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/110, ergl. 4(a)

I72A. 27(2)(3)(7)(8) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(d)

I73A. 27(4) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

I74A. 27(5)(6) mewn grym ar 1.9.2016 gan O.S. 2016/110, ergl. 4(b)

I75A. 27(9) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(i)

28Y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo Cod gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Cyn cyhoeddi’r Cod cyntaf neu God diwygiedig, rhaid i CCAUC—

(a)llunio drafft o’r Cod cyntaf neu’r Cod diwygiedig, a

(b)cyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)Wrth lunio drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i ddrafft a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n nodi’r rhesymau dros delerau’r drafft, a

(b)sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (2) ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo CCAUC i gyflwyno drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig iddynt o dan yr adran hon cyn diwedd cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5)Rhaid i CCAUC gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I76A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I77A. 28 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(i)

29Y weithdrefn os na chymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, neu o God diwygiedig, a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i CCAUC ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o God diwygiedig, rhaid i CCAUC naill ai—

(a)cyflwyno drafft pellach o’r Cod diwygiedig i Weinidogion Cymru, neu

(b)rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru—

(i)yn datgan bod CCAUC wedi penderfynu peidio â pharhau â’r gwaith o ddiwygio’r Cod, a

(ii)yn nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(5)Caiff hysbysiad o dan is-adran (2) bennu cyfnod y mae rhaid, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, i CCAUC gydymffurfio ag is-adran (3) neu (4) (fel y bo’n briodol).

(6)Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.

(7)Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n esbonio sut y mae CCAUC, wrth lunio’r drafft, wedi ystyried y rhesymau a nodwyd yn yr hysbysiad a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),

(b)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, ac

(c)sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (6) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(8)Mae is-adrannau (2) i (7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I78A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I79A. 29 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(i)

30Y weithdrefn os cymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29, rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod—

(a)ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft;

(b)os drafft o’r Cod cyntaf yw’r drafft, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru;

(c)os drafft o God diwygiedig yw’r drafft, caiff CCAUC gyflwyno drafft pellach o God diwygiedig i Weinidogion Cymru.

(3)Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, a

(b)sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(5)Y “cyfnod o 40 niwrnod” yw’r cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 40 niwrnod, nid yw unrhyw gyfnod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fo ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.

(7)Os na chaiff penderfyniad ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn y cyfnod o 40 niwrnod fel a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i CCAUC gyhoeddi’r Cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.

(8)Os cyflwynir drafft pellach i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon—

(a)mae is-adrannau (1) i (7) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r drafft fel y maent yn gymwys os ydynt yn cymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29;

(b)mae adran 29 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft fel y mae’n gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

Monitro cydymffurfedd â’r CodLL+C

31Monitro cydymffurfedd â’r CodLL+C

Rhaid i CCAUC fonitro, neu wneud trefniadau ar gyfer monitro, cydymffurfedd gan bob sefydliad rheoleiddiedig â’r gofynion a osodir gan y Cod.

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I82A. 31 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Pwerau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

32Methiant i gydymffurfio â’r Cod: cyffredinolLL+C

Mae adrannau 33 a 34 yn gymwys os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y Cod.

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I84A. 32 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

33Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.

(2)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I86A. 33 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

34Mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i’r corff llywodraethu gyda golwg ar wella trefniadaeth neu reolaeth materion ariannol y sefydliad.

(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd y sefydliad â’r Cod.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I88A. 34 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Cydweithredu o ran monitro etcLL+C

35Rheolaeth ariannol: dyletswydd i gydweithreduLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 36).

(2)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn yr is-adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I89A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I90A. 35 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Pwerau atodol at y diben o fonitro etcLL+C

36Rheolaeth ariannol: pwerau mynd i mewn ac arolyguLL+C

(1)At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34(2), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig;

(b)edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(2)Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—

(a)dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(3)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.

(4)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—

(a)bod yr achos yn achos brys, neu

(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.

(7)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).

(8)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—

(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;

(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.

(9)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I91A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I92A. 36 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

RHAN 5LL+CCYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD: TYNNU CYMERADWYAETH YN ÔL ETC

Gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newyddLL+C

37Hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newyddLL+C

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (3) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Mae hysbysiad o dan yr adran hon yn hysbysiad na fydd CCAUC yn cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Yr amodau yw bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu â chydymffurfio—

(a)ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys),

(b)â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd,

(c)cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(d)â chyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol), neu

(e)â chyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod).

(4)Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (3)(b) fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.

(5)Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu sefydliad, ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(6)Pan fo CCAUC wedi rhoi hysbysiad o dan yr adran hon—

(a)caiff dynnu’r hysbysiad yn ôl, a

(b)os gwna hynny, mae’r cyfyngiad yn is-adran (5) yn peidio â bod yn gymwys.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y cyfnod y caniateir ei bennu mewn hysbysiad o dan yr adran hon;

(b)y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon neu ei dynnu’n ôl;

(c)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â thynnu hysbysiad yn ôl.

(8)Os yw corff llywodraethu sefydliad nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13, mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r sefydliad hwnnw fel y mae’n gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig.

(9)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I93A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I94A. 37(1)-(6)(8)(9) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

I95A. 37(7) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(k)

Tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôlLL+C

38Dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôlLL+C

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3), rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud penderfyniad at ddibenion yr adran hon;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.

(3)Caiff rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth fel y’i disgrifir yn is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I96A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I97A. 38(1) mewn grym ar 1.8.2016 gan O.S. 2016/110, ergl. 3(a)

I98A. 38(2) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(l)

I99A. 38(3) mewn grym ar 3.2.2016 gan O.S. 2016/110, ergl. 2(a)

39Pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôlLL+C

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (2) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu’n fynych â chydymffurfio ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys) neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,

(b)bod y corff llywodraethu wedi methu’n fynych â chydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun y sefydliad a gymeradwywyd neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(c)bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad yn ddifrifol o annigonol, neu

(d)bod methiant difrifol wedi bod gan gorff llywodraethu’r sefydliad i gydymffurfio â’r Cod.

(3)Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (2)(b) fel be bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon.

(5)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I100A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I101A. 39(1)-(3)(5) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

I102A. 39(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(m)

Cyhoeddi etc hysbysiad o dan y Rhan honLL+C

40Cyhoeddi etc hysbysiad o dan y Rhan honLL+C

(1)Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39, rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru, a

(b)cyhoeddi’r hysbysiad.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I103A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I104A. 40(1) mewn grym ar 1.8.2016 gan O.S. 2016/110, ergl. 3(b)

I105A. 40(2) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(n)

I106A. 40(2) mewn grym ar 1.8.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/110, ergl. 3(b)

RHAN 6LL+CHYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC

Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodolLL+C

41Cymhwyso adrannau 42 i 44LL+C

(1)Mae adrannau 42 i 44 yn gymwys i—

(a)hysbysiad o dan adran 7(1)(b) (gwrthod cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig),

(b)cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,

(c)cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(d)cyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol),

(e)cyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod),

(f)hysbysiad o dan adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd), ac

(g)hysbysiad o dan adran 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl).

(2)Ond nid yw’r adrannau hynny yn gymwys i gyfarwyddyd nad yw’n darparu ond ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach (gweler adran 46).

Gwybodaeth Cychwyn

I107A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I108A. 41(1)(a) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(f)

I109A. 41(1)(b)(d)(2) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(j)

I110A. 41(1)(c)(e)-(g) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

42Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddioLL+C

(1)Os yw CCAUC yn bwriadu rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i CCAUC roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.

(2)Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—

(a)nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(b)datgan rhesymau CCAUC dros fwriadu ei roi;

(c)hysbysu’r corff llywodraethu y caiff gyflwyno sylwadau am yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(d)pennu, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau, y cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio.

(4)Os yw CCAUC, ar ôl ystyried y sylwadau hynny, yn penderfynu peidio â rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid iddo roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i’r corff llywodraethu.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I111A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I112A. 42(1)(2)(a)-(c)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

I113A. 42(2)(d) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(o)

I114A. 42(2)(d) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

43Gwybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydauLL+C

Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid iddo ar yr un pryd roi i’r corff llywodraethu ddatganiad—

(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd,

(b)sy’n hysbysu’r corff llywodraethu y caiff wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd o dan adran 44, ac

(c)sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth ragnodedig arall.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I115A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I116A. 43(a)(b) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

I117A. 43(c) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(p)

I118A. 43(c) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

44Adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydauLL+C

(1)Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir fel y’i disgrifir yn is-adran (4)(a)) wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.

(2)Mae adolygiad i’w gynnal gan berson, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru; a chaiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan yr is-adran hon.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan yr adran hon.

(4)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch y seiliau y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud arnynt;

(b)ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny;

(c)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan berson neu banel sy’n cynnal adolygiad;

(d)ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan CCAUC yn dilyn adolygiad;

(e)i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi hyd nes bod unrhyw gamau a bennir yn y rheoliadau wedi eu cymryd, neu hyd nes bod unrhyw gyfnod a bennir yn y rheoliadau wedi dod i ben.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I119A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I120A. 44(1)(2) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

I121A. 44(3)(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(q)

I122A. 44(3)(4) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

Darpariaethau cyffredinol ynghylch cyfarwyddydau a roddir gan CCAUCLL+C

45Cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodiLL+C

(1)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Ddeddf hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(2)Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan CCAUC.

(3)Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i CCAUC roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw wedi ei fodloni ei fod wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).

Gwybodaeth Cychwyn

I123A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I124A. 45 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(l)

46Cyfarwyddydau: cyffredinolLL+C

O ran cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

Gwybodaeth Cychwyn

I125A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I126A. 46 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(l)

RHAN 7LL+CDARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC

Arfer swyddogaethau gan CCAUCLL+C

47Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu sefydliadauLL+C

(1)Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon yn rhoi pŵer i CCAUC i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—

(a)ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y sefydliad yn elusen, neu

(b)â dogfennau llywodraethu’r sefydliad.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b), dogfennau llywodraethu sefydliad yw—

(a)yn achos sefydliad a sefydlwyd drwy siarter Frenhinol—

(i)siarter y sefydliad, a

(ii)unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliad, y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor er mwyn gwneud neu ddiwygio’r offeryn hwnnw;

(b)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth ac erthyglau llywodraethu’r sefydliad;

(c)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth a’i herthyglau llywodraethu;

(d)yn achos sefydliad a ddynodwyd o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu’r sefydliad a’i erthyglau llywodraethu;

(e)yn achos sefydliad nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d) sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm y cwmni a’i erthyglau cymdeithasu.

Gwybodaeth Cychwyn

I127A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I128A. 47 mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(e)

48Dyletswydd i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaiddLL+C

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd gan gynnwys, yn benodol, rhyddid sefydliadau—

(a)i benderfynu ar gynnwys cyrsiau penodol a’r dull o’u haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,

(b)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, ac

(c)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I129A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I130A. 48 mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(e)

49Dyletswydd i ystyried canllawiau Gweinidogion CymruLL+C

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I131A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I132A. 49 mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(f)

Adroddiadau sydd i’w llunio gan CCAUCLL+C

50Adroddiadau blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i CCAUC gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar sut, yn ystod y cyfnod, y mae CCAUC wedi arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon.

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl cael adroddiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Rhaid i’r adroddiad gydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddyd i CCAUC.

(4)Caiff y gofynion hynny gynnwys gofynion o ran ffurf a chynnwys yr adroddiad.

(5)At ddibenion yr adran hon y cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a

(b)sy’n dod i ben ar ba ddiwrnod bynnag yw’r cynharach o flwyddyn ar ôl y diwrnod hwnnw, a diwrnod a bennir gan CCAUC mewn hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru.

(6)Y cyfnodau adrodd dilynol yw pob cyfnod olynol o 12 mis.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu gofynion y mae hysbysiad a roddir fel y’i disgrifir yn is-adran (5) i gydymffurfio â hwy (gan gynnwys o ran ffurf a chynnwys, a’r adeg y mae i’w roi); ac nid yw’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei roi at ddibenion is-adran (5) oni bai ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I133A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I134A. 50 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

51Adroddiadau arbennigLL+C

(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, adrodd i Weinidogion Cymru ar unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)cydymffurfedd ag adran 10(1) gan sefydliadau o fewn adran 10(2) yn gyffredinol neu gan sefydliad penodol;

(b)cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu â gofynion cyffredinol cynllun penodol a gymeradwywyd;

(c)effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu effeithiolrwydd cynllun penodol a gymeradwywyd, wrth hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(d)unrhyw faterion eraill a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch;

(e)ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig penodol;

(f)cydymffurfedd gan sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu gan sefydliad rheoleiddiedig penodol, â gofynion y Cod.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu—

(a)ffurf a chynnwys adroddiad a wneir at ddibenion yr adran hon;

(b)pryd y mae’r adroddiad i’w wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I135A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I136A. 51(1)(a)(e)(2) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(m)

I137A. 51(1)(b)-(d)(f) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Gwybodaeth arall etc sydd i’w rhoi gan CCAUCLL+C

52Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrrydLL+C

(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.

(2)O ran CCAUC—

(a)rhaid iddo adolygu’r datganiad yn gyson;

(b)caiff ei ddiwygio.

(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)llunio’r datganiad (gan gynnwys o ran ei ffurf a’i gynnwys);

(b)ei gyhoeddi;

(c)yr ymgynghoriad sydd i’w gynnal o dan is-adran (3).

(5)Swyddogaethau ymyrryd CCAUC yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn⁠—

(a)adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);

(b)adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);

(c)adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(d)adran 20(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(e)adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(f)adran 34(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(g)adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);

(h)adrannau 38 a 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl).

Gwybodaeth Cychwyn

I138A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I139A. 52(1) mewn grym ar 25.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(g)

I140A. 52(1) mewn grym ar 1.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(n)

I141A. 52(1) mewn grym ar 3.2.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/110, ergl. 2(b)

I142A. 52(2)(3) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(o)

I143A. 52(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(r)

I144A. 52(5) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(h)

53Gwybodaeth a chyngor sydd i’w rhoi gan CCAUC i Weinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff CCAUC roi i Weinidogion Cymru wybodaeth a chyngor arall sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch.

Gwybodaeth Cychwyn

I145A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I146A. 53 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(p)

54Gwybodaeth a chyngor arallLL+C

(1)Caiff CCAUC—

(a)adnabod arfer da sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch, a

(b)rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch yr arfer hwnnw i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig, neu i gyrff llywodraethu sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol.

(2)Wrth arfer ei swyddogaethau, mae corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig i ystyried unrhyw wybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC iddo ef, neu i gyrff llywodraethu yn gyffredinol, o dan is-adran (1)(b).

(3)Caiff CCAUC ddarparu unrhyw wybodaeth a chyngor arall sy’n briodol yn ei farn ef gan roi sylw i’w swyddogaethau a swyddogaethau sefydliadau rheoleiddiedig (ymhlith pethau eraill).

(4)Caiff yr wybodaeth a’r cyngor hynny (ymhlith pethau eraill) ymwneud â’r canlynol—

(a)pwerau a dyletswyddau sefydliadau rheoleiddiedig;

(b)trefnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig;

(c)effaith cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad.

Gwybodaeth Cychwyn

I147A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I148A. 54(2) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

I149A. 54(1) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(q)

I150A. 54(3)(4) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(i)

RHAN 8LL+CCYFFREDINOL

55RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) reoliadau o fewn is-adran (4) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Y rheoliadau o fewn yr is-adran hon yw—

(a)y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 2(4);

(b)rheoliadau o dan adran 3(4);

(c)rheoliadau o dan adran 4(3);

(d)y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 5(3);

(e)rheoliadau o dan adran 6(1);

(f)rheoliadau o dan adran 7(3);

(g)rheoliadau o dan adran 13;

(h)rheoliadau o dan adran 38(2) sy’n diwygio darpariaeth yn y Ddeddf hon;

(i)rheoliadau o dan adran 58 sy’n diwygio neu’n diddymu darpariaeth mewn—

(i)Deddf Seneddol, neu

(ii)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I151A. 55 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(1)(b)

56Cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion CymruLL+C

O ran cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

Gwybodaeth Cychwyn

I152A. 56 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(1)(c)

57DehongliLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;

  • mae i “annigonol” (“inadequate”), mewn perthynas ag ansawdd addysg neu gwrs, yr ystyr a roddir yn adran 18;

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw cyfnod o 12 mis;

  • mae i “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”), mewn perthynas â sefydliad y mae cynllun ffioedd a mynediad yn ymwneud ag ef, yr ystyr a roddir yn adran 5;

  • ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

  • mae “corff llywodraethu” (“governing body”) i’w ddehongli fel a ganlyn—

    (a)

    mewn perthynas â darparwr hyfforddiant na fyddai, oni bai am yr adran hon, yn cael ei ystyried yn sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

    (b)

    mewn perthynas â darparwr a ddynodir o dan adran 3, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

    (c)

    mewn perthynas ag unrhyw sefydliad arall, mae iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 90(2) o’r Ddeddf honno;

    (d)

    mewn perthynas â darparwr allanol nad yw’n sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

  • ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a ragnodir o dan adran 5;

  • mae i “cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu” (“compliance and reimbursement direction”) yr ystyr a roddir yn adran 11;

  • ystyr “cyfle cyfartal” (“equality of opportunity”) yw cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch;

  • mae i “cynllun a gymeradwywyd” (“approved plan”) yr ystyr a roddir yn adran 7;

  • mae i “cynllun ffioedd a mynediad” (“fee and access plan”) yr ystyr a roddir yn adran 2;

  • mae i “darparwr allanol” (“external provider”) yr ystyr a roddir yn adran 17;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (c)

    is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol neu o dan Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru);

  • ystyr “ffioedd” (“fees”) yw ffioedd ar gyfer neu fel arall mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs, gan gynnwys ffioedd derbyn, cofrestru, dysgu a graddio, a ffioedd sy’n daladwy i sefydliad am ddyfarnu neu achredu unrhyw ran o’r cwrs, ond ac eithrio—

    (a)

    ffioedd sy’n daladwy am fwyd neu lety;

    (b)

    ffioedd sy’n daladwy am wibdeithiau mae (gan gynnwys unrhyw elfen ddysgu o’r ffioedd hynny);

    (c)

    ffioedd sy’n daladwy am fod yn bresennol mewn unrhyw seremoni raddio neu seremoni arall;

    (d)

    unrhyw ffioedd eraill a ragnodir at ddibenion yr adran hon;

  • mae i “ffioedd cwrs rheoleiddiedig“ (“regulated course fees”) yr ystyr a roddir yn adran 10;

  • mae i “ffioedd uwchlaw’r terfyn” (“excess fees”) yr ystyr a roddir yn adran 11;

  • mae “gofynion cyffredinol” (“general requirements”) mewn perthynas â chynllun a gymeradwywyd, i’w ddarllen yn unol ag adran 6;

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

  • mae i “person cymhwysol” (“qualifying person”) yr ystyr a roddir yn adran 5;

  • ystyr “rhagnodedig” ac ”a ragnodir” (“prescribed”) yw rhagnodedig drwy reoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • mae “sefydliad” (“institution”) yn cynnwys unrhyw ddarparwr hyfforddiant (pa un a fyddai’r darparwr hyfforddiant fel arall yn cael ei ystyried yn sefydliad ai peidio);

  • mae i “sefydliad rheoleiddiedig” (“regulated institution”) yr ystyr a roddir yn adran 7;

  • mae i “terfyn ffioedd” (“fee limit”) yr ystyr a roddir yn adran 5;

  • mae i “terfyn ffioedd cymwys” (“applicable fee limit”) yr ystyr a roddir yn adran 10.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “darparwr hyfforddiant” yw person sy’n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005).

(3)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at sefydliad yng Nghymru—

(a)yn gyfeiriadau at sefydliad y mae ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, a

(b)yn cynnwys y Brifysgol Agored.

Gwybodaeth Cychwyn

I153A. 57 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(1)(d)

58Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etcLL+C

(1)Am fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, gweler Rhan 1 o’r Atodlen.

(2)Am ddarpariaethau trosiannol, gweler Rhan 2 o’r Atodlen.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol neu ganlyniadol, neu

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed,

sy’n briodol yn eu barn hwy o ganlyniad i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu er mwyn rhoi effaith lawn i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I154A. 58(3)(4) mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(1)(e)

I155A. 58(1) mewn grym ar 1.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(r)

I156A. 58(1) mewn grym ar 1.8.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/239, ergl. 2

I157A. 58(2) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(s)

I158A. 58(2) mewn grym ar 1.8.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 4(a)

I159A. 58(2) mewn grym ar 1.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(t)

59CychwynLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adran 55;

(c)adran 56;

(d)adran 57;

(e)adran 58(3) a (4);

(f)yr adran hon;

(g)adran 60.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol; a

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I160A. 59 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(1)(f)

60Enw byr etcLL+C

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

(2)Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I161A. 60 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(1)(g)

(a gyflwynwyd gan adran 58)

ATODLENLL+CDARPARIAETH GANLYNIADOL A THROSIANNOL ETC

RHAN 1LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992LL+C

1Mae Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I162Atod. para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I163Atod. para. 1 mewn grym ar 1.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(i)

I164Atod. para. 1 mewn grym ar 1.8.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/239, ergl. 2

2(1)Mae adran 70 (asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan sefydliadau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “Each council” rhodder “The Higher Education Funding Council for England”.

(3)Yn y teitl, yn lle “Assessment” rhodder “England: assessment”.

Gwybodaeth Cychwyn

I165Atod. para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I166Atod. para. 2 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(ii)

3Yn adran 83 (astudiaethau effeithlonrwydd), yn ail golofn y tabl yn is-adran (1B), ar ôl “An institution within the higher education sector” mewnosoder—

A regulated institution for the purposes of the Higher Education (Wales) Act 2015 (including a provider designated under section 3 of that Act which is treated as being a regulated institution for the purposes of that Act).

Gwybodaeth Cychwyn

I167Atod. para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I168Atod. para. 3 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

4(1)Mae adran 91 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (5), ar ôl paragraph (a) mewnosoder—

(aa)universities that are regulated institutions,.

(3)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)For the purposes of subsection (5)(aa), a regulated institution is an institution to which an approved plan, within the meaning given in section 7 of the Higher Education (Wales) Act 2015, relates.

Gwybodaeth Cychwyn

I169Atod. para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I170Atod. para. 4 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Deddf Addysg 1996LL+C

5Yn adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (ysgolion: cyffredinol), yn is-adran (4), ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder , or

(d)a university to which an approved plan, within the meaning given in section 7 of the Higher Education (Wales) Act 2015, relates.

Gwybodaeth Cychwyn

I171Atod. para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I172Atod. para. 5 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Deddf Addysg 2002LL+C

6Yn adran 140 o Ddeddf Addysg 2002 (addysg bellach: cyffredinol), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)For the purposes of section 138(3), a university to which an approved plan relates is to be treated (in any case where it would not be so treated but for this subsection) as being a higher education institution.

(5)“Approved plan”, in subsection (4), has the meaning given in section 7 of the Higher Education (Wales) Act 2015.

Gwybodaeth Cychwyn

I173Atod. para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I174Atod. para. 6 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Deddf Addysg Uwch 2004LL+C

7Mae Deddf Addysg Uwch 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I175Atod. para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I176Atod. para. 7 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii)

8Yn adran 22 (ystyr “cynllun” etc), ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “or a” i’r diwedd rhodder “is a reference to a plan approved under section 34.”

Gwybodaeth Cychwyn

I177Atod. para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I178Atod. para. 8 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii)

9Hepgorer adrannau 27 ac 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I179Atod. para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I180Atod. para. 9 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii)

10(1)Mae adran 29 (darpariaeth atodol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), hepgorer “or 28”.

(3)Yn is-adran (2), hepgorer “or 28(6)”.

(4)Yn is-adran (3)—

(a)yn y geiriau sy’n rhagflaenu paragraff (a)—

(i)yn lle “, the Education Act 2002 or the 2005 Act” rhodder “or the Education Act 2002”;

(ii)yn lle’r geiriau o “, the Assembly” i “for Wales” rhodder “or the Higher Education Funding Council for England”;

(b)hepgorer paragraff (b);

(c)ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “or 28” i “Councils” rhodder “imposed by the Higher Education Funding Council for England”.

(5)Yn y teitl, yn lle “28” rhodder “26”.

Gwybodaeth Cychwyn

I181Atod. para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I182Atod. para. 10 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii)

11(1)Mae adran 30 (ystyr “yr awdurdod perthnasol”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), hepgorer paragraff (b) (a’r “and” sy’n ei ragflaenu).

(3)Hepgorer is-adrannau (2) a (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I183Atod. para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I184Atod. para. 11 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii) (ynghyd ag erglau. 7-9)

12Yn adran 32 (dyletswyddau cyffredinol awdurdod perthnasol), hepgorer is-adran (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I185Atod. para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I186Atod. para. 12 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii) (ynghyd ag erglau. 7-9)

13(1)Mae adran 33 (cynnwys cynlluniau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), yn lle “In relation to England, a” rhodder “A”.

(3)Hepgorer is-adran (3).

(4)Yn is-adran (4), hepgorer “or (3)”.

(5)Yn is-adran (5)—

(a)yn y geiriau sy’n rhagflaenu paragraff (a), hepgorer “or (3)”;

(b)ym mharagraff (d), hepgorer y geiriau o “and” i ddiwedd y paragraff.

(6)Yn is-adran (6), hepgorer “or (3)”.

(7)Yn is-adran (7)—

(a)yn lle’r diffiniad o “the higher amount” rhodder—

  • “the higher amount” means the amount from time to time prescribed as the higher amount under section 24(6);;

(b)yn lle’r diffiniad o “qualifying course” a “qualifying person” rhodder—

  • “qualifying course” and “qualifying person” have the same meaning as in section 24;;

(c)yn lle’r diffiniad o “regulations” rhodder—

  • “regulations” means regulations made by the Secretary of State.

Gwybodaeth Cychwyn

I187Atod. para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I188Atod. para. 13 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii)

14(1)Mae adran 34 (cymeradwyo cynlluniau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)(a)—

(a)ar ôl “grants” mewnosoder “from the Higher Education Funding Council for England”;

(b)hepgorer “or section 86 of the 2005 Act”.

(3)Yn is-adran (7), yn lle’r geiriau o “made” i ddiwedd yr is-adran rhodder “made by the Secretary of State”.

Gwybodaeth Cychwyn

I189Atod. para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I190Atod. para. 14 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii) (ynghyd ag erglau. 7-9)

15Yn adran 35 (cyfnod para cynlluniau), yn is-adran (2) hepgorer paragraff (b) (a’r “or” sy’n ei ragflaenu).

Gwybodaeth Cychwyn

I191Atod. para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I192Atod. para. 15 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii) (ynghyd ag erglau. 8, 9)

16(1)Mae adran 36 (amrywio cynlluniau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), hepgorer “or a Welsh approved plan”.

(3)Yn is-adran (2), hepgorer paragraff (b) (a’r “or” sy’n ei ragflaenu).

Gwybodaeth Cychwyn

I193Atod. para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I194Atod. para. 16 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii) (ynghyd ag erglau. 7, 9)

17Yn adran 37 (gorfodi cynlluniau), yn y teitl hepgorer “: England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I195Atod. para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I196Atod. para. 17 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii)

18Hepgorer adran 38.

Gwybodaeth Cychwyn

I197Atod. para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I198Atod. para. 18 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii)

19Yn adran 39 (adolygu penderfyniadau)—

(a)yn y geiriau sy’n rhagflaenu paragraff (a), yn lle “, 37(3)(b) or 38(3)(b)” rhodder “or 37(3)(b)”;

(b)ym mharagraff (b), hepgorer is-baragraff (ii) (a’r “or” sy’n ei ragflaenu);

(c)ym mharagraff (c), hepgorer “or the Assembly”.

Gwybodaeth Cychwyn

I199Atod. para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I200Atod. para. 19 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii) (ynghyd ag erglau. 7, 9)

20Hepgorer adran 40A (darparu adroddiadau etc gan awdurdod perthnasol o ran Cymru).

Gwybodaeth Cychwyn

I201Atod. para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I202Atod. para. 20 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii)

21Yn adran 41 (dehongli Rhan 3), yn is-adran (1)—

(a)yn y diffiniad o “fees”, ym mharagraff (e), hepgorer is-baragraff (ii) (a’r “or” sy’n ei ragflaenu);

(b)hepgorer y diffiniad o “Welsh approved plan”.

Gwybodaeth Cychwyn

I203Atod. para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I204Atod. para. 21 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iii)

Deddf Addysg 2005LL+C

22Yn Atodlen 14 i Ddeddf Addysg 2005 (diwygiadau yn ymwneud â hyfforddi gweithlu’r ysgol), hepgorer paragraffau 27 i 29.

Gwybodaeth Cychwyn

I205Atod. para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I206Atod. para. 22 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(iv)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006LL+C

23Yn Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (darpariaethau trosiannol), ym mharagraff 35—

(a)yn is-baragraff (3), yn Nhabl 1 hepgorer y cofnod yn ymwneud ag adran 33(3)(a)(ii) o Ddeddf Addysg Uwch 2004;

(b)yn is-baragraff (4), yn Nhabl 2 hepgorer y cofnodion yn ymwneud ag adrannau 30(1)(b) a 38(2) o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I207Atod. para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I208Atod. para. 23 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(v)

Deddf Addysg 2011LL+C

24Mae Deddf Addysg 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I209Atod. para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I210Atod. para. 24 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(vi)

25(1)Mae adran 77 (terfyn ar ffioedd myfyrwyr: cyrsiau rhan-amser) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), ar y diwedd mewnosoder “by regulations made by the Secretary of State”.

(3)Hepgorer is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I210Atod. para. 24 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(vi)

I211Atod. para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I212Atod. para. 25 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(vi)

26(1)Mae Atodlen 5 (diddymu’r Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu: diwygiadau canlyniadol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer paragraffau 21 a 22.

(3)Ym mharagraff 23, hepgorer paragraffau (a) a (b).

(4)Hepgorer paragraff 27.

Gwybodaeth Cychwyn

I210Atod. para. 24 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(vi)

I213Atod. para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I214Atod. para. 26 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(s)(vi)

RHAN 2LL+CDARPARIAETH DROSIANNOL

Cynlluniau a gymeradwywyd o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004LL+C

27Mae paragraff 28 yn gymwys i’r graddau y mae cynllun o dan Ddeddf 2004 yn pennu terfyn nad yw’r ffioedd sy’n daladwy gan berson sy’n berson cymhwysol i fynd uwch ei law, neu’n darparu ar gyfer penderfynu ar y terfyn hwnnw—

(a)mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs sy’n gwrs cymhwysol, a

(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs ac sy’n dechrau yn ystod y cyfnod trosiannol (“blwyddyn academaidd drosiannol”).

Gwybodaeth Cychwyn

I215Atod. para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I216Atod. para. 27 mewn grym ar 1.8.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 4(b)(i)

28LL+CMae’r cynllun i’w drin yn ystod y cyfnod trosiannol fel pe bai’n gynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7, at ddibenion—

(a)adran 4(4)(b);

(b)adrannau 10 i 12, 14, 15(1)(a) ac 16;

(c)adrannau 17 i 23;

(d)adran 24(2)(a);

(e)adran 28(2);

(f)adrannau 51(1)(e), 52(3) a 54(1);

(g)unrhyw ddeddfiad arall, pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a bennir mewn rheoliadau (“deddfiad cymwysedig”).

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraff 30.

Gwybodaeth Cychwyn

I217Atod. para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I218Atod. para. 28(g) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(t)(i)

I219Atod. para. 28 (a)-(f) mewn grym ar 1.8.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 4(b)(ii)

29(1)At y diben hwn—LL+C

(a)mae’r cynllun i’w drin fel pe bai wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 ar y diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym;

(b)mae’r cyfnod, sef y cyfnod trosiannol (gweler is-baragraff (2)), i’w drin fel y cyfnod a bennir yn y cynllun o dan adran 4;

(c)mae’r terfyn a ddarperir gan y cynllun ar gyfer cwrs a blwyddyn academaidd drosiannol i’w drin fel y terfyn ffioedd cymwys ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn academaidd o dan sylw;

(d)mae’r sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i’w drin fel pe bai’n sefydliad rheoleiddiedig.

(2)Y cyfnod trosiannol yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2017.

(3)Mae “cynllun o dan Ddeddf 2004” yn gynllun a gymeradwywyd o ran Cymru, o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, cyn i’r paragraff hwn ddod i rym.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I220Atod. para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I221Atod. para. 29 mewn grym ar 1.8.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 4(b)(iii)

30(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 28(a) i (f), neu ddeddfiad cymwysedig, i gynllun o dan Ddeddf 2004 yn ystod y cyfnod trosiannol.LL+C

(2)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) ddarparu’r canlynol o ran darpariaeth neu ddeddfiad cymwysedig—

(a)nid yw i fod yn gymwys i gynllun o dan Ddeddf 2004 yn ystod y cyfnod trosiannol, neu

(b)mae i fod yn gymwys gydag addasiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I222Atod. para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I223Atod. para. 30 mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(t)(ii)

Aelodau’r Pwyllgor Asesu AnsawddLL+C

31(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd, yn union cyn i adran 25 ddod i rym, yn aelod o’r Pwyllgor Asesu Ansawdd a sefydlwyd gan CCAUC o dan adran 70(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“yr hen bwyllgor”).

(2)Pan ddaw adran 25 i rym, daw’r person yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan yr adran honno (“y pwyllgor newydd”).

(3)Mae aelodaeth y person o’r pwyllgor newydd—

(a)ar yr un telerau â phenodiad y person i’r hen bwyllgor, a

(b)am gyfnod sy’n gyfatebol i gyfnod y penodiad hwnnw sy’n parhau i fod pan ddaw adran 25 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I224Atod. para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I225Atod. para. 31 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(u)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill