58Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etcLL+C
(1)Am fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, gweler Rhan 1 o’r Atodlen.
(2)Am ddarpariaethau trosiannol, gweler Rhan 2 o’r Atodlen.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud—
(a)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol neu ganlyniadol, neu
(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed,
sy’n briodol yn eu barn hwy o ganlyniad i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu er mwyn rhoi effaith lawn i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 58(3)(4) mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(1)(e)
I2A. 58(1) mewn grym ar 1.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(r)
I3A. 58(1) mewn grym ar 1.8.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/239, ergl. 2
I4A. 58(2) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(s)
I5A. 58(2) mewn grym ar 1.8.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 4(a)
I6A. 58(2) mewn grym ar 1.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(t)