Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

14Dilysrwydd contractauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gontract sy’n darparu ar gyfer talu ffioedd cwrs rheoleiddiedig i sefydliad, gan berson cymhwysol ac mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

(2)At ddibenion unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi o dan y contract, ac unrhyw drafodion mewn cysylltiad â’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai’n darparu ar gyfer talu ffioedd mewn swm sy’n gyfatebol i’r terfyn ffioedd cymwys.

(3)Ac eithrio fel y darperir yn is-adran (2), nid yw’r contract yn ddi-rym nac yn anorfodadwy o ganlyniad i ddarparu ar gyfer talu ffioedd sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 14 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(e)