xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn ddilys o 20/05/2015
(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.
(2)O ran CCAUC—
(a)rhaid iddo adolygu’r datganiad yn gyson;
(b)caiff ei ddiwygio.
(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)llunio’r datganiad (gan gynnwys o ran ei ffurf a’i gynnwys);
(b)ei gyhoeddi;
(c)yr ymgynghoriad sydd i’w gynnal o dan is-adran (3).
(5)Swyddogaethau ymyrryd CCAUC yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn—
(a)adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);
(b)adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);
(c)adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);
(d)adran 20(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);
(e)adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);
(f)adran 34(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);
(g)adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);
(h)adrannau 38 a 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
Yn ddilys o 01/09/2015
(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(2)Caiff CCAUC roi i Weinidogion Cymru wybodaeth a chyngor arall sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
Yn ddilys o 25/05/2015
(1)Caiff CCAUC—
(a)adnabod arfer da sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch, a
(b)rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch yr arfer hwnnw i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig, neu i gyrff llywodraethu sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol.
(2)Wrth arfer ei swyddogaethau, mae corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig i ystyried unrhyw wybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC iddo ef, neu i gyrff llywodraethu yn gyffredinol, o dan is-adran (1)(b).
(3)Caiff CCAUC ddarparu unrhyw wybodaeth a chyngor arall sy’n briodol yn ei farn ef gan roi sylw i’w swyddogaethau a swyddogaethau sefydliadau rheoleiddiedig (ymhlith pethau eraill).
(4)Caiff yr wybodaeth a’r cyngor hynny (ymhlith pethau eraill) ymwneud â’r canlynol—
(a)pwerau a dyletswyddau sefydliadau rheoleiddiedig;
(b)trefnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig;
(c)effaith cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)