xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CHYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC

Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodolLL+C

41Cymhwyso adrannau 42 i 44LL+C

(1)Mae adrannau 42 i 44 yn gymwys i—

(a)hysbysiad o dan adran 7(1)(b) (gwrthod cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig),

(b)cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,

(c)cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(d)cyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol),

(e)cyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod),

(f)hysbysiad o dan adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd), ac

(g)hysbysiad o dan adran 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl).

(2)Ond nid yw’r adrannau hynny yn gymwys i gyfarwyddyd nad yw’n darparu ond ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach (gweler adran 46).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 41(1)(a) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(f)

I3A. 41(1)(b)(d)(2) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(j)

I4A. 41(1)(c)(e)-(g) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

42Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddioLL+C

(1)Os yw CCAUC yn bwriadu rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i CCAUC roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.

(2)Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—

(a)nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(b)datgan rhesymau CCAUC dros fwriadu ei roi;

(c)hysbysu’r corff llywodraethu y caiff gyflwyno sylwadau am yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(d)pennu, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau, y cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio.

(4)Os yw CCAUC, ar ôl ystyried y sylwadau hynny, yn penderfynu peidio â rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid iddo roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i’r corff llywodraethu.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I6A. 42(1)(2)(a)-(c)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

I7A. 42(2)(d) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(o)

I8A. 42(2)(d) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

43Gwybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydauLL+C

Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid iddo ar yr un pryd roi i’r corff llywodraethu ddatganiad—

(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd,

(b)sy’n hysbysu’r corff llywodraethu y caiff wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd o dan adran 44, ac

(c)sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth ragnodedig arall.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I10A. 43(a)(b) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

I11A. 43(c) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(p)

I12A. 43(c) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

44Adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydauLL+C

(1)Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir fel y’i disgrifir yn is-adran (4)(a)) wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.

(2)Mae adolygiad i’w gynnal gan berson, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru; a chaiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan yr is-adran hon.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan yr adran hon.

(4)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch y seiliau y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud arnynt;

(b)ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny;

(c)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan berson neu banel sy’n cynnal adolygiad;

(d)ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan CCAUC yn dilyn adolygiad;

(e)i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi hyd nes bod unrhyw gamau a bennir yn y rheoliadau wedi eu cymryd, neu hyd nes bod unrhyw gyfnod a bennir yn y rheoliadau wedi dod i ben.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I14A. 44(1)(2) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

I15A. 44(3)(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(q)

I16A. 44(3)(4) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)

Darpariaethau cyffredinol ynghylch cyfarwyddydau a roddir gan CCAUCLL+C

45Cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodiLL+C

(1)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Ddeddf hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(2)Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan CCAUC.

(3)Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i CCAUC roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw wedi ei fodloni ei fod wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I18A. 45 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(l)

46Cyfarwyddydau: cyffredinolLL+C

O ran cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I20A. 46 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(l)