xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CHYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC

Darpariaethau cyffredinol ynghylch cyfarwyddydau a roddir gan CCAUCLL+C

45Cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodiLL+C

(1)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Ddeddf hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(2)Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan CCAUC.

(3)Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i CCAUC roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw wedi ei fodloni ei fod wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 45 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(l)

46Cyfarwyddydau: cyffredinolLL+C

O ran cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I4A. 46 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(l)