xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg o’r Ddeddf hon

(1)Mae wyth Rhan i’r Ddeddf hon.

(2)Mae’r Rhan hon yn cynnwys trosolwg o’r Ddeddf.

(3)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ffioedd a mynediad. Mae’n ymdrin â—

(a)cynnwys cynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys terfyn ffioedd;

(b)methiant i gydymffurfio â therfyn ffioedd neu â gofyniad arall sydd wedi ei gynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad;

(c)dilysrwydd contractau penodol;

(d)monitro cynlluniau ffioedd a mynediad.

(4)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y pwerau sydd ar gael at ddibenion asesu;

(b)y camau y caiff CCAUC eu cymryd mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol.

(5)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch llunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)cydymffurfedd â’r cod;

(b)y pwerau sydd ar gael at ddibenion monitro cydymffurfedd â’r cod, ac mewn achos o fethu â chydymffurfio â’r cod.

(6)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau—

(a)pan gaiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd ar gyfer sefydliad;

(b)pan fo rhaid i CCAUC, neu pan gaiff CCAUC, dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad sefydliad.

(7)Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiadau a chyfarwyddydau a roddir gan CCAUC (gan gynnwys darpariaeth ynghylch adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol).

(8)Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch swyddogaethau CCAUC, gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chanllawiau, adroddiadau, gwybodaeth a chyngor.

(9)Mae Rhan 8 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch⁠—

(a)arfer pwerau i wneud rheoliadau;

(b)dehongli’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf.

(10)Mae’r Rhan honno hefyd yn cyflwyno Atodlen sy’n cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau presennol a darpariaeth drosiannol.

RHAN 2CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad

2Cais gan sefydliad am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad

(1)Caiff corff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (3) wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad.

(2)Mae cynllun ffioedd a mynediad yn gynllun sy’n cydymffurfio ag adrannau 4 i 6.

(3)Mae sefydliad o fewn yr is-adran hon yn sefydliad yng Nghymru—

(a)sy’n darparu addysg uwch, a

(b)sy’n elusen.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.

3Dynodi darparwyr addysg uwch eraill

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg uwch o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.

(2)Mae darparwr addysg uwch o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—

(a)sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen, ond

(b)na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (4)(d), mae darparwr addysg uwch a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, fel pe bai’n sefydliad.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwneud cais am ddynodiad;

(b)gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);

(c)tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);

(d)effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel sefydliad at ddibenion rhagnodedig).

Cynnwys cynllun ffioedd a mynediad

4Y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad bennu cyfnod y mae i gael effaith mewn cysylltiad ag ef.

(2)Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir fod yn hwy na dwy flynedd.

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) i roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a grybwyllir am y tro yn yr is-adran honno.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)CCAUC,

(b)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, ac

(c)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef yn gyfeiriadau at y cyfnod a bennir ynddo o dan yr adran hon.

5Terfyn ffioedd

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad—

(a)pennu terfyn ffioedd, neu

(b)darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd,

mewn perthynas â phob cwrs cymhwysol ac mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd berthnasol (ac at y diben hwn caiff bennu terfynau ffioedd gwahanol neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd gwahanol mewn perthynas â chyrsiau gwahanol ac mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd perthnasol gwahanol).

(2)At y diben hwn—

(a)mae terfyn ffioedd, mewn perthynas â chwrs, yn derfyn na chaniateir i’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol, mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â’r cwrs, fynd uwch ei law;

(b)mae cwrs cymhwysol yn gwrs, o unrhyw ddisgrifiad rhagnodedig, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(c)mae blwyddyn academaidd berthnasol, mewn perthynas â chwrs, yn flwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs, ac y mae ffioedd yn daladwy i’r sefydliad mewn cysylltiad â hi, ac sy’n dechrau o fewn y cyfnod y mae’r cynllun ffioedd a mynediad yn ymwneud ag ef.

(3)Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn pennu terfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, ni chaniateir i’r terfyn ffioedd a bennir fynd uwchlaw pa swm bynnag a ragnodir at ddibenion yr adran hon (“yr uchafswm”).

(4)Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, rhaid i’r cynllun bennu nad yw’r terfyn ffioedd y penderfynir arno yn unol â’r cynllun i fynd uwchlaw’r uchafswm.

(5)Mae person cymhwysol, at ddibenion is-adran (2)(a), yn berson—

(a)nad yw’n fyfyriwr rhyngwladol, a

(b)sy’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion yr adran hon.

(6)Ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn rhagnodi cwrs ôl-radd, oni bai ei fod yn gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(7)Yn ogystal, ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn gwahaniaethu—

(a)mewn perthynas â chyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, rhwng cyrsiau gwahanol ar sail y pynciau y rhoddir yr hyfforddiant hwnnw arnynt;

(b)mewn perthynas â chyrsiau eraill, rhwng cyrsiau gwahanol ar yr un lefel neu ar lefel gyffelyb ar sail y meysydd astudio neu ymchwil y maent yn ymwneud â hwy.

(8)Mae myfyriwr rhyngwladol yn berson nad yw’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (codi ffioedd uwch yn achos myfyrwyr nad oes ganddynt gysylltiad rhagnodedig â’r Deyrnas Unedig) at ddibenion is-adran (1) neu (2) o’r adran honno.

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo ffioedd sy’n daladwy i berson, mewn cysylltiad â pherson cymhwysol yn ymgymryd â chwrs, neu â rhan o gwrs, a ddarperir ar ran sefydliad, i’w trin at ddibenion is-adran (2)(a) fel pe baent yn daladwy i’r sefydliad hwnnw mewn cysylltiad â’r person cymhwysol yn ymgymryd â’r cwrs.

6Hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys unrhyw ddarpariaethau a ragnodir sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.

(2)Caiff cynllun ffioedd a mynediad hefyd gynnwys darpariaethau pellach sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.

(3)Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (1) i’w cynnwys mewn cynllun yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu—

(a)cymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);

(b)cymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);

(c)darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr (neu sicrhau bod cymorth o’r fath yn cael ei ddarparu);

(d)rhoi gwybodaeth ar gael i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ffynhonnell (neu sicrhau bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhoi ar gael).

(4)Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi i’w cynnwys mewn cynllun hefyd yn cynnwys darpariaethau—

(a)sy’n nodi amcanion sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(b)sy’n nodi gwybodaeth am wariant mewn cysylltiad â’r amcanion hynny;

(c)sy’n ymwneud â’r monitro gan y corff llywodraethu o—

(i)cydymffurfedd â darpariaethau’r cynllun;

(ii)y cynnydd sydd wedi ei wneud i gyflawni unrhyw amcanion a nodir yn y cynllun yn rhinwedd paragraff (a).

(5)Ond ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi darpariaethau i’w cynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad gael ei arfer er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gynllun sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n cyfeirio at gyrsiau penodol neu at y dull o addysgu, goruchwylio neu asesu cyrsiau,

(b)sy’n ymwneud â’r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliad fynd i wariant, mewn unrhyw flwyddyn academaidd, o swm sy’n mynd uwchlaw swm incwm ffioedd cymhwysol y sefydliad y gellir ei briodoli i’r flwyddyn academaidd honno.

(6)At ddibenion yr adran hon—

(a)swm incwm ffioedd cymhwysol sefydliad y gellir ei briodoli i flwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd hynny sy’n daladwy i’r sefydliad, mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno, y mae terfyn ffioedd a bennir yn y cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn gymwys mewn perthynas ag ef, neu y mae’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu arno;

(b)“grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol”, mewn perthynas â chynllun ffioedd a mynediad, yw grwpiau nad oes ganddynt, ar ddyddiad cymeradwyo’r cynllun o dan adran 7, gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.

(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ofynion cyffredinol cynllun ffioedd a mynediad yn gyfeiriadau at ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun yn rhinwedd yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud (neu beidio â gwneud) pethau penodedig.

Cymeradwyo etc cynllun ffioedd a mynediad

7Cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad

(1)Os gwneir cais i CCAUC i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad o dan adran 2, rhaid i CCAUC drwy roi hysbysiad i’r corff llywodraethu o dan sylw naill ai—

(a)cymeradwyo’r cynllun, neu

(b)gwrthod y cynllun.

(2)Ond ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef o fewn adran 2(3).

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun o dan yr adran hon.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, y cyfnod pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad ac sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon mewn grym yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y’i cymeradwyir o dan yr adran hon, ac sy’n dod i ben ar ba un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—

(a)y diwrnod y daw’r cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i ben;

(b)os caiff cymeradwyaeth CCAUC i’r cynllun ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a roddir o dan adran 38 neu 39, dyddiad yr hysbysiad.

(5)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at gynllun a gymeradwywyd yn gyfeiriadau at gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon ac sydd mewn grym ar hyn o bryd;

(b)mae cyfeiriadau at sefydliad rheoleiddiedig yn gyfeiriadau at sefydliad y mae cynllun a gymeradwywyd yn ymwneud ag ef (ond gweler adrannau 26 a 27(8)).

(6)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 37(5) (peidio â chymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd).

(7)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan is-adran (1)(b), gweler adrannau 41 i 44.

8Cyhoeddi cynllun a gymeradwywyd

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig gyhoeddi cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae cynllun i’w gyhoeddi.

9Amrywio cynllun a gymeradwywyd

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n caniatáu i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig amrywio cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu mai dim ond os caiff amrywiad ei gymeradwyo gan CCAUC y mae i gymryd effaith.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth i amrywiad a phenderfynu ar y ceisiadau hynny.

Cydymffurfio â’r terfyn ffioedd

10Terfynau ar ffioedd myfyrwyr

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (2) sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

(2)Mae sefydliad yn dod o fewn yr is-adran hon os yw cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud ag ef wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).

(3)“Ffioedd cwrs rheoleiddiedig” yw’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol—

(a)mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, a

(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs hwnnw, pan fo’r flwyddyn honno yn dechrau ar adeg o fewn y cyfnod a bennir o dan adran 4 yng nghynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).

(4)Cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yw’r cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar o dan adran 7 mewn perthynas â’r sefydliad.

(5)Y terfyn ffioedd cymwys yw—

(a)mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn pennu terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw;

(b)mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw fel y penderfynir arno yn unol â’r cynllun.

11Cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad wedi methu â chydymffurfio ag adran 10(1).

(2)Caiff CCAUC gyfarwyddo’r corff llywodraethu i wneud naill ai un o’r canlynol neu’r ddau—

(a)cydymffurfio ag adran 10(1);

(b)ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r sefydliad.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon (“cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu”) bennu⁠—

(a)y camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at y diben o gydymffurfio ag adran 10(1);

(b)y modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y gall gael ei roi ar waith.

(4)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (4).

(6)Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 10(1) y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).

12Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu

(1)Caiff CCAUC ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd at y diben o gydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC ymgynghori â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig; a chaiff ymgynghori â chorff llywodraethu unrhyw sefydliad arall o fewn adran 2(3) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu y mae cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu wedi ei roi iddo, wrth gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

(4)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu, gweler adrannau 41 i 44.

Cydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd

13Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd

(1)Os yw’r amod yn is-adran (2) neu (3) wedi ei ddiwallu, caiff CCAUC roi cyfarwyddyd o fewn is-adran (4) i gorff llywodraethu sefydliad.

(2)Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni—

(a)bod methiant wedi bod gan y corff llywodraethu i gydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad, a

(b)ar adeg y methiant, fod y cynllun ffioedd a mynediad wedi ei gymeradwyo o dan adran 7.

(3)Yr amod yw bod CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu yn debygol o fethu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(4)Mae cyfarwyddyd o fewn yr is-adran hon yn gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.

(5)Ond ni chaiff CCAUC roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.

(6)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Contractau

14Dilysrwydd contractau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gontract sy’n darparu ar gyfer talu ffioedd cwrs rheoleiddiedig i sefydliad, gan berson cymhwysol ac mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

(2)At ddibenion unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi o dan y contract, ac unrhyw drafodion mewn cysylltiad â’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai’n darparu ar gyfer talu ffioedd mewn swm sy’n gyfatebol i’r terfyn ffioedd cymwys.

(3)Ac eithrio fel y darperir yn is-adran (2), nid yw’r contract yn ddi-rym nac yn anorfodadwy o ganlyniad i ddarparu ar gyfer talu ffioedd sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

Cynlluniau a gymeradwywyd: cydymffurfedd ac effeithiolrwydd

15Dyletswydd CCAUC i fonitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd

(1)Rhaid i CCAUC—

(a)monitro cydymffurfedd ag adran 10(1);

(b)monitro cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd;

(c)gwerthuso effeithiolrwydd pob cynllun a gymeradwywyd;

(d)gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol.

(2)At ddibenion yr adran hon, effeithiolrwydd cynllun a gymeradwywyd yw ei effeithiolrwydd o ran hybu—

(a)cyfle cyfartal, a

(b)addysg uwch.

16Monitro a gwerthuso cydymffurfedd ac effeithiolrwydd: dyletswydd i gydweithredu

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i CCAUC unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan CCAUC at ddiben ei swyddogaethau o dan adran 15.

(2)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn ys is-adran honno.

RHAN 3ANSAWDD YR ADDYSG

Asesu ansawdd yr addysg

17Asesu ansawdd yr addysg

(1)Rhaid i CCAUC asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru—

(a)gan bob sefydliad rheoleiddiedig;

(b)ar ran pob sefydliad rheoleiddiedig (pa un ai gan sefydliad rheoleiddiedig arall neu gan ddarparwr allanol).

(2)At ddibenion is-adran (1), mae addysg a ddarperir y tu allan i Gymru i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu yng Nghymru os y’i darperir fel rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.

(3)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at ddarparwr allanol yn gyfeiriadau at berson—

(a)nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig, ond

(b)sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs addysg cyfan, neu ran ohono, ar ran sefydliad rheoleiddiedig.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b)—

(a)caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel person sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs (neu ran ohono);

(b)nid yw cwrs (neu ran ohono) i’w drin fel cwrs a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig os y’i darperir o dan drefniadau gyda’r sefydliad hwnnw a wnaed cyn i’r adran hon ddod i rym.

Pwerau mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol

18Addysg o ansawdd annigonol: cyffredinol

(1)Mae adrannau 19 ac 20 yn gymwys os, o ganlyniad i arfer ei swyddogaethau o dan adran 17, mae CCAUC wedi ei fodloni—

(a)bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig, neu

(b)bod ansawdd cwrs addysg penodol a ddarperir felly,

yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, mae ansawdd yr addysg neu gwrs addysg yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rhai hynny sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.

19Cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol

(1)Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o—

(a)gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu

(b)atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.

(2)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

20Mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol

(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i gorff llywodraethu’r sefydliad gyda golwg ar—

(a)gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu

(b)atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.

(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad.

(3)Rhaid i gorff llywodraeth ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).

Cydweithredu o ran asesu ansawdd etc

21Asesu ansawdd etc: dyletswydd i gydweithredu

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).

(2)Rhaid i gorff llywodraethu darparwr allanol sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2) unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r darparwr allanol ag sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).

(3)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn is-adran (1) neu (2) (fel y bo’n briodol).

Pwerau atodol at y diben o asesu ansawdd etc

22Asesu ansawdd etc: pwerau mynd i mewn ac arolygu

(1)At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol;

(b)edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(2)Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—

(a)dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(3)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.

(4)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol—

(a)i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol y mae’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer mewn perthynas â’i fangre, a

(b)corff llywodraethu unrhyw sefydliad rheoleiddiedig y mae’r sefydliad hwnnw neu’r darparwr allanol hwnnw yn darparu ar ei ran yr addysg y mae arfer y swyddogaeth o dan adran 17 neu 20(2) yn ymwneud â hi.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—

(a)bod yr achos yn achos brys, neu

(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.

(7)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).

(8)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—

(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;

(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.

(9)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.

Canllawiau sy’n ymwneud ag ansawdd yr addysg

23Canllawiau ynghylch materion sy’n berthnasol i ansawdd

(1)Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch unrhyw fater sy’n berthnasol yn ei farn ef i wella neu gynnal ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig.

(2)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir o dan yr adran hon.

24Canllawiau ynghylch meini prawf ar gyfer asesu ansawdd

(1)Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch—

(a)y meini prawf sydd i’w cymhwyso gan berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 wrth asesu ansawdd yr addysg;

(b)y materion y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth benderfynu a yw ansawdd yr addysg, neu gwrs addysg, yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.

(2)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

Cyngor i CCAUC ynghylch swyddogaethau asesu ansawdd

25Pwyllgor i gynghori CCAUC ynghylch arfer swyddogaethau asesu ansawdd

(1)Rhaid i CCAUC sefydlu pwyllgor i’w gynghori ar arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff CCAUC roi i’r pwyllgor unrhyw swyddogaethau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i un aelod o’r pwyllgor fod yn berson yr ymddengys i CCAUC ei fod yn cynrychioli buddiannau personau y darperir addysg uwch yng Nghymru iddynt.

(4)O ran aelodau eraill y pwyllgor—

(a)rhaid i fwyafrif fod yn bersonau nad ydynt yn aelodau o CCAUC;

(b)rhaid i fwyafrif fod yn bersonau yr ymddengys i CCAUC fod ganddynt brofiad o ddarparu addysg uwch neu eu bod wedi dangos galluedd o ran darparu addysg uwch.

(5)Wrth benodi personau o fewn is-adran (4)(b) i’r pwyllgor, rhaid i CCAUC ystyried dymunoldeb penodi personau sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â darparu addysg uwch neu ag ymgymryd â chyfrifoldeb am ei darparu.

(6)Mae Atodlen 1 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gymwys o ran y pwyllgor fel y mae’n gymwys o ran pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan baragraff 8 o’r Atodlen honno.

Atodol

26Cymhwyso’r Rhan hon pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad yn peidio â bod mewn grym, a

(b)pan na fo cynllun ffioedd a mynediad newydd mewn grym mewn perthynas â’r sefydliad.

(2)Mae’r Rhan hon yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad drwy gwrs dynodedig.

(3)At ddibenion cymhwyso’r Rhan hon yn rhinwedd is-adran (2), mae’r sefydliad i’w drin fel sefydliad rheoleiddiedig.

(4)Mae cwrs dynodedig yn gwrs sydd wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran honno.

RHAN 4MATERION ARIANNOL SEFYDLIADAU RHEOLEIDDIEDIG

Cod rheolaeth ariannol

27Dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi Cod

(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Cod”).

(2)Caiff y Cod wneud darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn (ymhlith materion eraill)—

(a)yr amgylchiadau pan fo sefydliad rheoleiddiedig i ymrwymo i drafodiad o ddosbarth a bennir yn y Cod gyda chydsyniad CCAUC yn unig;

(b)trefniadau cyfrifyddu ac archwilio sefydliadau rheoleiddiedig;

(c)darparu gwybodaeth i CCAUC.

(3)Caiff darpariaeth yn y Cod fod ar ffurf gofyniad neu ganllawiau.

(4)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig—

(a)cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Cod;

(b)ystyried unrhyw ganllawiau sydd yn y Cod.

(5)Caiff CCAUC gyhoeddi’r Cod ym mha ffordd bynnag sy’n briodol yn ei farn ef.

(6)Rhaid i CCAUC—

(a)adolygu’r Cod yn gyson, a

(b)llunio a chyhoeddi Cod diwygiedig, os yw hynny’n briodol yn ei farn ef.

(7)Caiff y Cod wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer sefydliadau gwahanol a disgrifiadau gwahanol o sefydliad).

(8)At ddibenion y Rhan hon, nid yw’r Brifysgol Agored i’w thrin fel sefydliad rheoleiddiedig.

(9)Yn adrannau 28, 29 a 30, ystyr “y Cod cyntaf” yw’r Cod cyntaf i’w gyhoeddi o dan yr adran hon.

28Y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo Cod gan Weinidogion Cymru

(1)Cyn cyhoeddi’r Cod cyntaf neu God diwygiedig, rhaid i CCAUC—

(a)llunio drafft o’r Cod cyntaf neu’r Cod diwygiedig, a

(b)cyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)Wrth lunio drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i ddrafft a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n nodi’r rhesymau dros delerau’r drafft, a

(b)sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (2) ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo CCAUC i gyflwyno drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig iddynt o dan yr adran hon cyn diwedd cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5)Rhaid i CCAUC gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).

29Y weithdrefn os na chymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion Cymru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, neu o God diwygiedig, a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i CCAUC ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o God diwygiedig, rhaid i CCAUC naill ai—

(a)cyflwyno drafft pellach o’r Cod diwygiedig i Weinidogion Cymru, neu

(b)rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru—

(i)yn datgan bod CCAUC wedi penderfynu peidio â pharhau â’r gwaith o ddiwygio’r Cod, a

(ii)yn nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(5)Caiff hysbysiad o dan is-adran (2) bennu cyfnod y mae rhaid, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, i CCAUC gydymffurfio ag is-adran (3) neu (4) (fel y bo’n briodol).

(6)Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.

(7)Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n esbonio sut y mae CCAUC, wrth lunio’r drafft, wedi ystyried y rhesymau a nodwyd yn yr hysbysiad a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),

(b)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, ac

(c)sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (6) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(8)Mae is-adrannau (2) i (7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

30Y weithdrefn os cymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion Cymru

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29, rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod—

(a)ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft;

(b)os drafft o’r Cod cyntaf yw’r drafft, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru;

(c)os drafft o God diwygiedig yw’r drafft, caiff CCAUC gyflwyno drafft pellach o God diwygiedig i Weinidogion Cymru.

(3)Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, a

(b)sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(5)Y “cyfnod o 40 niwrnod” yw’r cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 40 niwrnod, nid yw unrhyw gyfnod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fo ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.

(7)Os na chaiff penderfyniad ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn y cyfnod o 40 niwrnod fel a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i CCAUC gyhoeddi’r Cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.

(8)Os cyflwynir drafft pellach i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon—

(a)mae is-adrannau (1) i (7) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r drafft fel y maent yn gymwys os ydynt yn cymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29;

(b)mae adran 29 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft fel y mae’n gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

Monitro cydymffurfedd â’r Cod

31Monitro cydymffurfedd â’r Cod

Rhaid i CCAUC fonitro, neu wneud trefniadau ar gyfer monitro, cydymffurfedd gan bob sefydliad rheoleiddiedig â’r gofynion a osodir gan y Cod.

Pwerau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod

32Methiant i gydymffurfio â’r Cod: cyffredinol

Mae adrannau 33 a 34 yn gymwys os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y Cod.

33Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod

(1)Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.

(2)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

34Mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod

(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i’r corff llywodraethu gyda golwg ar wella trefniadaeth neu reolaeth materion ariannol y sefydliad.

(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd y sefydliad â’r Cod.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).

Cydweithredu o ran monitro etc

35Rheolaeth ariannol: dyletswydd i gydweithredu

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 36).

(2)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn yr is-adran honno.

Pwerau atodol at y diben o fonitro etc

36Rheolaeth ariannol: pwerau mynd i mewn ac arolygu

(1)At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34(2), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig;

(b)edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(2)Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—

(a)dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(3)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.

(4)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—

(a)bod yr achos yn achos brys, neu

(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.

(7)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).

(8)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—

(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;

(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.

(9)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.

RHAN 5CYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD: TYNNU CYMERADWYAETH YN ÔL ETC

Gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd

37Hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (3) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Mae hysbysiad o dan yr adran hon yn hysbysiad na fydd CCAUC yn cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Yr amodau yw bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu â chydymffurfio—

(a)ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys),

(b)â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd,

(c)cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(d)â chyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol), neu

(e)â chyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod).

(4)Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (3)(b) fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.

(5)Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu sefydliad, ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(6)Pan fo CCAUC wedi rhoi hysbysiad o dan yr adran hon—

(a)caiff dynnu’r hysbysiad yn ôl, a

(b)os gwna hynny, mae’r cyfyngiad yn is-adran (5) yn peidio â bod yn gymwys.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y cyfnod y caniateir ei bennu mewn hysbysiad o dan yr adran hon;

(b)y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon neu ei dynnu’n ôl;

(c)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â thynnu hysbysiad yn ôl.

(8)Os yw corff llywodraethu sefydliad nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13, mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r sefydliad hwnnw fel y mae’n gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig.

(9)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl

38Dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3), rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud penderfyniad at ddibenion yr adran hon;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.

(3)Caiff rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth fel y’i disgrifir yn is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44.

39Pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (2) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu’n fynych â chydymffurfio ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys) neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,

(b)bod y corff llywodraethu wedi methu’n fynych â chydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun y sefydliad a gymeradwywyd neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(c)bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad yn ddifrifol o annigonol, neu

(d)bod methiant difrifol wedi bod gan gorff llywodraethu’r sefydliad i gydymffurfio â’r Cod.

(3)Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (2)(b) fel be bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon.

(5)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Cyhoeddi etc hysbysiad o dan y Rhan hon

40Cyhoeddi etc hysbysiad o dan y Rhan hon

(1)Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39, rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru, a

(b)cyhoeddi’r hysbysiad.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (1).

RHAN 6HYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC

Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol

41Cymhwyso adrannau 42 i 44

(1)Mae adrannau 42 i 44 yn gymwys i—

(a)hysbysiad o dan adran 7(1)(b) (gwrthod cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig),

(b)cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,

(c)cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(d)cyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol),

(e)cyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod),

(f)hysbysiad o dan adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd), ac

(g)hysbysiad o dan adran 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl).

(2)Ond nid yw’r adrannau hynny yn gymwys i gyfarwyddyd nad yw’n darparu ond ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach (gweler adran 46).

42Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio

(1)Os yw CCAUC yn bwriadu rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i CCAUC roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.

(2)Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—

(a)nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(b)datgan rhesymau CCAUC dros fwriadu ei roi;

(c)hysbysu’r corff llywodraethu y caiff gyflwyno sylwadau am yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(d)pennu, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau, y cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio.

(4)Os yw CCAUC, ar ôl ystyried y sylwadau hynny, yn penderfynu peidio â rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid iddo roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i’r corff llywodraethu.

43Gwybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau

Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid iddo ar yr un pryd roi i’r corff llywodraethu ddatganiad—

(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd,

(b)sy’n hysbysu’r corff llywodraethu y caiff wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd o dan adran 44, ac

(c)sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth ragnodedig arall.

44Adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau

(1)Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir fel y’i disgrifir yn is-adran (4)(a)) wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.

(2)Mae adolygiad i’w gynnal gan berson, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru; a chaiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan yr is-adran hon.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan yr adran hon.

(4)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch y seiliau y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud arnynt;

(b)ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny;

(c)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan berson neu banel sy’n cynnal adolygiad;

(d)ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan CCAUC yn dilyn adolygiad;

(e)i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi hyd nes bod unrhyw gamau a bennir yn y rheoliadau wedi eu cymryd, neu hyd nes bod unrhyw gyfnod a bennir yn y rheoliadau wedi dod i ben.

Darpariaethau cyffredinol ynghylch cyfarwyddydau a roddir gan CCAUC

45Cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodi

(1)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Ddeddf hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(2)Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan CCAUC.

(3)Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i CCAUC roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw wedi ei fodloni ei fod wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).

46Cyfarwyddydau: cyffredinol

O ran cyfarwyddyd a roddir gan CCAUC o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

RHAN 7DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC

Arfer swyddogaethau gan CCAUC

47Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu sefydliadau

(1)Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon yn rhoi pŵer i CCAUC i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—

(a)ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y sefydliad yn elusen, neu

(b)â dogfennau llywodraethu’r sefydliad.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b), dogfennau llywodraethu sefydliad yw—

(a)yn achos sefydliad a sefydlwyd drwy siarter Frenhinol—

(i)siarter y sefydliad, a

(ii)unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliad, y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor er mwyn gwneud neu ddiwygio’r offeryn hwnnw;

(b)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth ac erthyglau llywodraethu’r sefydliad;

(c)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth a’i herthyglau llywodraethu;

(d)yn achos sefydliad a ddynodwyd o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu’r sefydliad a’i erthyglau llywodraethu;

(e)yn achos sefydliad nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d) sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm y cwmni a’i erthyglau cymdeithasu.

48Dyletswydd i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd gan gynnwys, yn benodol, rhyddid sefydliadau—

(a)i benderfynu ar gynnwys cyrsiau penodol a’r dull o’u haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,

(b)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, ac

(c)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol.

49Dyletswydd i ystyried canllawiau Gweinidogion Cymru

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Adroddiadau sydd i’w llunio gan CCAUC

50Adroddiadau blynyddol

(1)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i CCAUC gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar sut, yn ystod y cyfnod, y mae CCAUC wedi arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon.

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl cael adroddiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Rhaid i’r adroddiad gydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddyd i CCAUC.

(4)Caiff y gofynion hynny gynnwys gofynion o ran ffurf a chynnwys yr adroddiad.

(5)At ddibenion yr adran hon y cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a

(b)sy’n dod i ben ar ba ddiwrnod bynnag yw’r cynharach o flwyddyn ar ôl y diwrnod hwnnw, a diwrnod a bennir gan CCAUC mewn hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru.

(6)Y cyfnodau adrodd dilynol yw pob cyfnod olynol o 12 mis.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu gofynion y mae hysbysiad a roddir fel y’i disgrifir yn is-adran (5) i gydymffurfio â hwy (gan gynnwys o ran ffurf a chynnwys, a’r adeg y mae i’w roi); ac nid yw’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei roi at ddibenion is-adran (5) oni bai ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.

51Adroddiadau arbennig

(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, adrodd i Weinidogion Cymru ar unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)cydymffurfedd ag adran 10(1) gan sefydliadau o fewn adran 10(2) yn gyffredinol neu gan sefydliad penodol;

(b)cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu â gofynion cyffredinol cynllun penodol a gymeradwywyd;

(c)effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu effeithiolrwydd cynllun penodol a gymeradwywyd, wrth hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(d)unrhyw faterion eraill a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch;

(e)ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig penodol;

(f)cydymffurfedd gan sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu gan sefydliad rheoleiddiedig penodol, â gofynion y Cod.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu—

(a)ffurf a chynnwys adroddiad a wneir at ddibenion yr adran hon;

(b)pryd y mae’r adroddiad i’w wneud.

Gwybodaeth arall etc sydd i’w rhoi gan CCAUC

52Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd

(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.

(2)O ran CCAUC—

(a)rhaid iddo adolygu’r datganiad yn gyson;

(b)caiff ei ddiwygio.

(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)llunio’r datganiad (gan gynnwys o ran ei ffurf a’i gynnwys);

(b)ei gyhoeddi;

(c)yr ymgynghoriad sydd i’w gynnal o dan is-adran (3).

(5)Swyddogaethau ymyrryd CCAUC yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn⁠—

(a)adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);

(b)adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);

(c)adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(d)adran 20(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(e)adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(f)adran 34(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(g)adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);

(h)adrannau 38 a 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl).

53Gwybodaeth a chyngor sydd i’w rhoi gan CCAUC i Weinidogion Cymru

(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff CCAUC roi i Weinidogion Cymru wybodaeth a chyngor arall sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch.

54Gwybodaeth a chyngor arall

(1)Caiff CCAUC—

(a)adnabod arfer da sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch, a

(b)rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch yr arfer hwnnw i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig, neu i gyrff llywodraethu sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol.

(2)Wrth arfer ei swyddogaethau, mae corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig i ystyried unrhyw wybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC iddo ef, neu i gyrff llywodraethu yn gyffredinol, o dan is-adran (1)(b).

(3)Caiff CCAUC ddarparu unrhyw wybodaeth a chyngor arall sy’n briodol yn ei farn ef gan roi sylw i’w swyddogaethau a swyddogaethau sefydliadau rheoleiddiedig (ymhlith pethau eraill).

(4)Caiff yr wybodaeth a’r cyngor hynny (ymhlith pethau eraill) ymwneud â’r canlynol—

(a)pwerau a dyletswyddau sefydliadau rheoleiddiedig;

(b)trefnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig;

(c)effaith cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad.

RHAN 8CYFFREDINOL

55Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) reoliadau o fewn is-adran (4) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Y rheoliadau o fewn yr is-adran hon yw—

(a)y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 2(4);

(b)rheoliadau o dan adran 3(4);

(c)rheoliadau o dan adran 4(3);

(d)y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 5(3);

(e)rheoliadau o dan adran 6(1);

(f)rheoliadau o dan adran 7(3);

(g)rheoliadau o dan adran 13;

(h)rheoliadau o dan adran 38(2) sy’n diwygio darpariaeth yn y Ddeddf hon;

(i)rheoliadau o dan adran 58 sy’n diwygio neu’n diddymu darpariaeth mewn—

(i)Deddf Seneddol, neu

(ii)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

56Cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru

O ran cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

57Dehongli

(1)Yn y Ddeddf hon—

(2)Yn is-adran (1), ystyr “darparwr hyfforddiant” yw person sy’n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005).

(3)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at sefydliad yng Nghymru—

(a)yn gyfeiriadau at sefydliad y mae ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, a

(b)yn cynnwys y Brifysgol Agored.

58Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc

(1)Am fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, gweler Rhan 1 o’r Atodlen.

(2)Am ddarpariaethau trosiannol, gweler Rhan 2 o’r Atodlen.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol neu ganlyniadol, neu

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed,

sy’n briodol yn eu barn hwy o ganlyniad i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu er mwyn rhoi effaith lawn i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

59Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adran 55;

(c)adran 56;

(d)adran 57;

(e)adran 58(3) a (4);

(f)yr adran hon;

(g)adran 60.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol; a

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

60Enw byr etc

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

(2)Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.