xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
[F1(1)] Nid yw’r gofynion yn adrannau 6(1), 7(1) a 7(3) yn gymwys—
(a)os yw’r landlord wedi gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu i fod yn drwyddedig, am y cyfnod o ddyddiad y cais hyd nes y bydd yr awdurdod yn penderfynu arno neu (os yw’r awdurdod yn gwrthod y cais) hyd nes y bydd pob dull o apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod y cais wedi ei ddisbyddu a’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau;
(b)am gyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord;
(c)os yw’r landlord yn cymryd camau i adennill meddiant o’r eiddo o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord, am ba hyd bynnag ag y bydd y landlord yn parhau yn ddiwyd i geisio adennill meddiant;
[F2(d)i landlord sy’n dod o fewn y diffiniad o landlord cymunedol (pa un ai’r landlord yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth ai peidio);]
(e)i landlord sy’n gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol;
(f)mewn achosion a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
Diwygiadau Testunol
F1A. 8 wedi ei ailrifo fel a. 8(1) (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(4)(a)
F2A. 8(1)(d) wedi ei amnewid (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 34(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 8 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 8 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2
I4A. 8 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(e)