Deddf Tai (Cymru) 2014

121Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i bersonau eraill gyflawni swyddogaethau ar ran yr awdurdodLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi’r cyfryw gyfarwyddiadau i’r awdurdod tai lleol neu unrhyw un o’i swyddogion fel y credant sy’n briodol er mwyn sicrhau y caiff y swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn berthnasol iddynt eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod â’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 121 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1