Deddf Tai (Cymru) 2014

11Gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddoLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Ni chaniateir i berson sy’n gweithredu ar ran landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig ymgymryd â gwaith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd oni bai bod y person yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi.

(2)Ni chaniatieir i berson sy’n gweithredu ar ran landlord annedd a oedd yn ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, ond nad yw bellach yn ddarostyngedig i’r denantiaeth ddomestig honno, gadarnhau cyflwr neu gynnwys yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau, at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r denantiaeth oni bai—

(a)bod y person yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)bod y person yn ymatal rhag gwneud unrhyw beth arall mewn perthynas â’r annedd sy’n dod o fewn—

(i)adran 10(1), ac eithrio paratoi, neu drefnu i baratoi, unrhyw stocrestr neu restr o gyflwr, neu

(ii)adran 12(1), neu

(c)na fyddai’r gweithgaredd, yn rhinwedd adran 12(3), yn waith rheoli eiddo.

(3)Mae person sy’n torri is-adran (1) neu (2) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 11 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(h)

I3A. 11 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1066, ergl. 2