xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys lle bo’n ofynnol o dan adran 87 of Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i awdurdod tai lleol fod â strategaeth mewn perthynas â chwrdd ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.
(2)Rhaid i’r awdurdod tai lleol—
(a)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth baratoi ei strategaeth;
(b)ystyried y strategaeth wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy heblaw fel awdurdod tai lleol).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 107 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(e)