xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
22(1)Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ym mharagraff (a) o adran 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc), yn lle “Deddf Tai 1996” rhodder “Deddf Tai (Cymru) 2014”.
(3)Yn y tabl yn Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)—
(a)hepgorer yr eitem ar gyfer Deddf Tai 1996;
(b)ar ôl yr eitem ar gyfer Deddf Gofal 2014 mewnosoder—
“Deddf Tai (Cymru) 2014 Adran 95(2),(3) a (4); ond dim ond pan fo’r swyddogaethau hynny’n gymwys yn rhinwedd is-adran (5)(b) o’r adran honno. | Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref.” |