Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 18

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, Adran 18. Help about Changes to Legislation

18DehongliLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

Yn y Ddeddf hon, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • mae “addasu” (“modify”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio neu ddiddymu;

  • mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys—

    (a)

    ffermio gwartheg godro;

    (b)

    cynhyrchu unrhyw gynnyrch defnyddiadwy at ddibenion masnach neu fusnes neu unrhyw fenter arall (p’un a wneir hynny i wneud elw ai peidio);

    (c)

    defnyddio tir fel tir pori, gweirglodd neu ddoldir;

    (d)

    defnyddio tir fel perllan, tir helyg gwiail neu goetir;

    (e)

    defnyddio tir fel gerddi marchnad neu blanhigfa;

  • ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw bod yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth a dylid dehongli “a gyflogir” (“employed”) a “cyflogwr” (“employer”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cynnyrch defnyddiadwy” (“consumable produce”) yw cynnyrch a dyfir i’w fwyta ac i’w yfed neu i’w ddefnyddio fel arall ar ôl iddo adael y tir lle cafodd ei dyfu;

  • ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 (p. 39);

  • mae “gorchymyn cyflogau amaethyddol (“agricultural wages order”) i’w ddehongli yn unol ag adran 3 (ond gweler hefyd adran 12(3));

  • ystyr “gweithiwr amaethyddol” (“agricultural worker”) yw person a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, p’un a yw’r holl waith yr ymgymerir ag ef yn rhinwedd y gyflogaeth honno yn cael ei gwneud yng Nghymru ai peidio;

  • mae i’r “isafswm cyflog cenedlaethol” (“the national minimum wage”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth