18.Mae’r adran hon yn creu’r drefn orfodi ar gyfer y darpariaethau sydd mewn gorchmynion cyflogau amaethyddol sy’n ymwneud â’r cyfraddau isaf o dâl y mae rhaid i weithwyr amaethyddol eu cael. Mae’n gwneud hyn, yn bennaf, drwy gymhwyso (gyda rhai addasiadau) y drefn a sefydlwyd gan Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 (“Deddf 1998”) ar gyfer gorfodi cydymffurfiaeth â’r isafswm cyflog cenedlaethol.
19.Mae sawl agwedd ar y drefn orfodi hon.
20.Mae cymhwyso adrannau 10 ac 11 o Ddeddf 1998> yn rhoi’r hawl i weithwyr amaethyddol weld cofnodion eu cyflogwyr i sicrhau eu bod yn cael eu talu o leiaf y gyfradd isaf sy’n gymwys iddynt hwy yn rhinwedd gorchymyn cyflogau amaethyddol. Dim ond os oes gan y gweithiwr sail resymol dros amau nad yw’n cael ei dalu’r swm cywir y caiff wneud hyn. Rhaid i’r gweithiwr ddilyn y weithdrefn a nodir yn adran 10 o Ddeddf 1998> (fel y’i cymhwysir gan y Ddeddf hon) i gael gweld y cofnodion.
21.Pan nad yw cyflogwr yn caniatáu i’r gweithiwr weld y cofnodion, caiff y gweithiwr gwyno i dribiwnlys cyflogaeth. Os yw’r tribiwnlys cyflogaeth yn penderfynu bod sail i’r gŵyn, rhaid iddo wneud datganiad i’r perwyl hwnnw a dyfarnu swm ariannol i’r gweithiwr.
22.Mae cymhwyso adran 14 o Ddeddf 1998> yn rhoi pwerau i’r swyddogion a benodir gan Weinidogion Cymru (gweler adran 8 o’r Ddeddf hon isod) i sicrhau cydymffurfedd â’r drefn orfodi. Yn benodol, mae gan y swyddogion ystod o bwerau ymchwilio i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth a chofnodion gael eu rhoi.
23.Mae’n drosedd (yn rhinwedd cymhwyso adran 31(5) o Ddeddf 1998>), i berson rwystro swyddog rhag cyflawni ei ddyletswyddau neu ei ddal yn ôl rhag eu cyflawni. Mae hefyd yn drosedd i berson wrthod ateb cwestiynau swyddog neu wrthod rhoi’r wybodaeth y mae gan y swyddog hawl i’w gwneud yn ofynnol i berson ei darparu.
24.Mae cymhwyso adran 17 o Ddeddf 1998> yn golygu, pan fo gweithiwr amaethyddol yn cael ei dalu llai na’r gyfradd isaf y mae ganddo hawl i’w chael yn rhinwedd y Ddeddf, fod ganddo’r hawl i gael tâl ychwanegol ar gyfer y cyfnod pan gafodd y gweithiwr ei dandalu.
25.Cyfrifir y tâl ychwanegol y mae gan y gweithiwr yr hawl i’w gael ar sail wahanol i’r sail yn Neddf 1998 yn rhinwedd yr addasiadau yn adran 5(6) o’r Ddeddf hon. Mae gan y gweithiwr yr hawl i gael yr uchaf o naill ai:
y gwahaniaeth rhwng yr hyn a dalwyd i’r gweithiwr a’r hyn y dylid bod wedi ei dalu i’r gweithiwr, neu
y swm a gyfrifir yn unol â’r fformiwla a nodir yn adran 5(6)(b) o’r Ddeddf hon sy’n disodli adran 17(4) o Ddeddf 1998>.
26.Mae cymhwyso adrannau 19, 19C, 19D, 19F, 19G a 19H o Ddeddf 1998> yn darparu’r mecanwaith i swyddogion gorfodi gyflwyno hysbysiadau i gyflogwyr sydd, ym marn y swyddog, o bosibl wedi tandalu gweithiwr neu weithwyr. Mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr dalu’r swm sy’n ddyledus i’r gweithiwr (a gyfrifir yn unol ag adran 17 o Ddeddf 1998>, fel y’i cymhwysir gan y Ddeddf hon) o fewn 28 niwrnod ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno iddo.
27.Gall cyflogwr y cyflwynwyd hysbysiad tandalu iddo apelio i dribiwnlys cyflogaeth.
28.Os na chydymffurfir â hysbysiad (yn gyfan gwbl neu fel arall), gall swyddog wneud cwyn ar ran y gweithiwr i dribiwnlys hawliau cyflogaeth.
29.Yn wahanol i Ddeddf 1998>, nid yw’r Ddeddf hon yn darparu ar gyfer gosod cosbau ariannol (y tu hwnt i’r tâl ychwanegol sy’n ddyledus) ar gyflogwyr.
30.Mae cymhwyso adrannau 23 a 24 o Ddeddf 1998> yn rhoi’r hawl i weithiwr i beidio â dioddef niwed gan ei gyflogwr o ran:
y gweithiwr yn gorfodi hawliau o dan y Ddeddf hon (neu’n cael yr hawliau hynny wedi eu gorfodi ar ei ran),
cyflogwr y gweithiwr yn cael ei erlyn o dan y Ddeddf hon, neu
y gweithiwr â’r hawl neu’n mynd i gael yr hawl (neu â’r potensial i fod â’r hawl) i gael y gyfradd isaf o dâl yn unol â’r Ddeddf hon.
31.Pan fo cyflogwr yn peri niwed i’r gweithwyr o ganlyniad i orfodi hawliau’r gweithiwr, gall y gweithiwr wneud cwyn i dribiwnlys cyflogaeth.
32.Mae cymhwyso adrannau 31 i 33 o Ddeddf 1998> yn darparu ar gyfer y troseddau mewn perthynas â:
methiant i dalu i weithiwr amaethyddol y gyfradd isaf y mae gan y gweithiwr hwnnw hawl iddi;
methiant i gadw a diogelu’r cofnodion y mae’n ofynnol i gyflogwr eu cadw yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 7 o’r Ddeddf hon;
gwneud cofnodion anwir, cael rhywun i wneud hynny, neu ganiatáu i rywun wneud hynny;
cynhyrchu gwybodaeth neu gofnodion y mae’r person sy’n eu cynhyrchu yn gwybod eu bod yn cynnwys gwybodaeth anwir o ran manylyn o bwys;
rhwystro swyddogion wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau neu eu dal yn ôl rhag eu cyflawni neu wrthod ateb cwestiynau swyddogion neu wrthod rhoi gwybodaeth neu gofnodion perthnasol i swyddogion.
Y cosbau am y troseddau hyn yw dirwy ddiderfyn.
33.Caiff swyddog gorfodi, gydag awdurdodiad gan Weinidogion Cymru, gynnal achos ar gyfer trosedd gerbron llys ynadon.
34.Mae cymhwyso adran 49 o Ddeddf 1998> yn atal gweithwyr amaethyddol a’u cyflogwyr rhag cytuno ar gontract a fyddai’n osgoi’r telerau ac amodau isaf a gynhwysir mewn gorchymyn cyflogau amaethyddol.
35.Nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â chytundebau yr ymrwymwyd iddynt mewn perthynas â chytundebau penodol a luniwyd er mwyn datrys neu osgoi achos tribiwnlys cyflogaeth.
36.Mae adran 5(8) o’r Ddeddf hon yn darparu yr ystyrir bod gweithiwr amaethyddol wedi ei ddiswyddo’n annheg os yw’r rheswm (neu’r prif reswm) dros ddiswyddo’r gweithiwr yn ymwneud â:
y gweithiwr yn gorfodi ei hawliau o dan y Ddeddf hon,
cyflogwr y gweithiwr yn cael ei erlyn o dan y Ddeddf hon, neu
y gweithiwr â’r hawl neu’n mynd i gael yr hawl (neu â’r potensial i fod â’r hawl) i gael y gyfradd isaf o dâl yn unol â’r Ddeddf hon.