Nodyn Esboniadol

Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

6

30 Gorffennaf 2014

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 12 - Darpariaeth drosiannol

50.Mae’r adran hon yn darparu bod darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 (fel yr oeddent pan wnaed y Gorchymyn hwnnw ar 20 Gorffennaf 2012) i gael effaith mewn perthynas â gweithwyr amaethyddol yng Nghymru o 1 Hydref 2013 ymlaen. Bydd y darpariaethau hynny yn peidio â chael effaith pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn cyflogau amaethyddol newydd o dan adran 4 o’r Ddeddf.

51.At ddibenion gorfodi darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012 o 1 Hydref 2013 ymlaen, bernir ei fod yn orchymyn a wnaed o dan adran 4 o’r Ddeddf. Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau a gronnir cyn 1 Hydref 2013 i gael eu gorfodi o dan Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 1948: gweler erthygl 4 o Orchymyn Menter a Diwygio Rheoleiddio (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013 (O.S. 2013/1455).

52.Os bydd yr isafswm cyflog cenedlaethol, ar unrhyw adeg, yn uwch nag unrhyw gyfradd isaf yng Ngorchymyn Cyflogau 2012, bernir bod y gyfradd isaf o dan sylw yr un fath â’r isafswm cyflog cenedlaethol.

53.Er hwylustod cyfeirio, atodir copi o Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 i’r Nodiadau hyn.