9CofrestrLL+C
(1)Rhaid i’r Cyngor sefydlu a chynnal cofrestr at ddibenion y Rhan hon.
(2)Rhaid i’r gofrestr gynnwys enw pob person sy’n gymwys i’w gofrestru o dan adran 10 ac sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru.
(3)Rhaid i’r gofrestr gynnwys y categorïau a nodir ac a ddisgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 (y “categorïau cofrestru”).
(4)Rhaid i bob person cofrestredig fod wedi ei gofrestru mewn o leiaf un categori cofrestru.
(5)Caniateir i berson gael ei gofrestru ar sail dros dro.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2A. 9(1)(3) mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(c)
I3A. 9(1)(3) mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(f)
I4A. 9(2)(4)(5) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(f)