Deddf Addysg (Cymru) 2014

Tâl, lwfansau a threuliau aelodauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

7(1)Caiff y Cyngor—

(a)talu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau y mae’n penderfynu arnynt i’w aelodau, a

(b)talu, neu wneud darpariaeth ar gyfer talu, unrhyw symiau fel pensiwn, lwfans ac arian rhodd i aelod, neu mewn cysylltiad ag aelod, y mae’n penderfynu arnynt.

(2)Os yw person yn peidio â bod yn aelod o’r Cyngor a’i bod yn ymddangos i’r Cyngor bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn briodol i’r person hwnnw dderbyn digollediad, caiff y Cyngor wneud taliad o unrhyw swm y mae’n penderfynu arno i’r person hwnnw.

(3)Caiff y Cyngor dalu unrhyw dreuliau a lwfansau y mae’n penderfynu arnynt i aelodau unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau nad ydynt yn aelodau o’r Cyngor.

(4)Caiff y Cyngor dalu i gyflogwr person sy’n aelod o’r Cyngor (neu berson nad yw’n aelod o’r Cyngor ond sy’n aelod o unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau) unrhyw ddigollediad y mae’n penderfynu arno mewn cysylltiad â cholli gwasanaethau’r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 18.8.2014 gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(b)(v)