Deddf Addysg (Cymru) 2014

PwerauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

2(1)Caiff y Cyngor wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â hynny neu’n ffafriol i hynny.

(2)Yn benodol, caiff y Cyngor—

(a)caffael a gwaredu tir neu eiddo arall;

(b)ymrwymo i gontractau;

(c)buddsoddi symiau nad oes eu hangen ar unwaith at ddiben cyflawni ei swyddogaethau;

(d)derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall;

(e)ffurfio cyrff corfforaethol neu gysylltiedig neu gyrff eraill nad ydynt yn gyrff corfforaethol;

(f)ymrwymo i fentrau ar y cyd â phersonau eraill;

(g)tanysgrifio am gyfranddaliadau a stoc;

(h)cael benthyg arian.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)