xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY GWEITHLU ADDYSG

Cyngor y Gweithlu AddysgLL+C

2Cyngor y Gweithlu AddysgLL+C

(1)Mae’r corff corfforaethol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) a elwir Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru—

(a)i barhau i fodoli, ond

(b)i newid ei enw i (ac fe’i gelwir o hyn ymlaen yn) “Cyngor y Gweithlu Addysg” (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Cyngor”).

(2)Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a phwerau’r Cyngor) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 2 mewn grym ar 18.8.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/2162, ergl. 2(a)

I3A. 2 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(a)

I4A. 2 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(a)

3Nodau’r CyngorLL+C

Prif nodau’r Cyngor yw—

(a)cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru, a

(b)cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phersonau sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I6A. 3 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(b)

4Swyddogaethau’r CyngorLL+C

(1)Prif swyddogaethau’r Cyngor yw—

(a)darparu cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r personau y mae’n eu rheoleiddio ac addysgu a dysgu yn unol ag adran 7;

(b)ymgymryd â gweithgareddau i hybu gyrfaoedd mewn proffesiynau cofrestradwy yn unol ag adran 8;

(c)sefydlu a chynnal cofrestr yn unol ag adran 9;

(d)sicrhau bod ganddo’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefydlu personau yn unol ag adran 17 a gwrando apelau mewn perthynas â phenderfyniadau sefydlu yn unol ag adran 19;

(e)adolygu a diwygio’r cod sy’n pennu safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol ar gyfer personau cofrestredig yn unol ag adran 24;

(f)ymchwilio i ymddygiad proffesiynol annerbyniol ac anghymhwysedd proffesiynol a chymryd camau priodol mewn cysylltiad â phersonau cofrestredig yn unol ag adran 26;

(g)cadw unrhyw wybodaeth ynghylch personau a bennir yn unol ag adran 33 a darparu gwybodaeth i unrhyw gyrff a bennir yn unol ag adran 35.

(2)Mae gan y Cyngor hefyd y swyddogaethau ychwanegol sydd wedi eu rhoi iddo yn rhinwedd—

(a)y Ddeddf hon;

(b)gorchymyn o dan adran 5;

(c)unrhyw ddeddfiad arall.

(3)Mae’r swyddogaethau sydd wedi eu rhoi i’r Cyngor gan neu o dan y Rhan hon yn arferadwy ganddo o ran Cymru yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I8A. 4 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(c)

5Y pŵer i ychwanegu swyddogaethauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn roi neu osod ar y Cyngor unrhyw swyddogaethau ychwanegol sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I10A. 5 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(b)

6CyfarwyddiadauLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (cyffredinol neu benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)Ni chaniateir i gyfarwyddyd gael ei roi mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)cais penodol i gofrestru o dan adran 9;

(b)apêl sy’n ymwneud â chais o’r fath;

(c)achos disgyblu penodol o dan adran 26.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon mewn unrhyw ddull sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd (ac mae is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen sy’n amrywio neu’n dirymu cyfarwyddyd fel y mae’n gymwys i gyfarwyddyd).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I12A. 6 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(d)

Darparu cyngor a hybu gyrfaoeddLL+C

7Darparu cyngor gan y CyngorLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu cyngor—

(a)iddynt hwy ar—

(i)mater perthnasol, neu

(ii)unrhyw fater arall sy’n ymwneud ag addysgu neu ddysgu, a

(b)i berson arall ar fater perthnasol.

(2)At ddibenion yr adran hon, y “materion perthnasol” yw—

(a)safonau gwasanaethau a ddarperir gan bersonau cofrestredig;

(b)safonau ymddygiad ar gyfer personau cofrestredig;

(c)addasrwydd personau cofrestredig i ymarfer;

(d)rolau’r proffesiynau a gynrychiolir yn y categorïau cofrestru;

(e)statws pob un o’r proffesiynau hynny;

(f)hyfforddi, datblygu gyrfa a rheoli perfformiad personau cofrestredig;

(g)recriwtio personau cofrestredig ym mhob categori cofrestru a’u cadw;

(h)y cyflenwad o bersonau cofrestredig.

(3)Caiff y Cyngor hefyd ddarparu unrhyw gyngor sy’n briodol yn ei farn ef ar faterion perthnasol i unrhyw bersonau y mae’n penderfynu arnynt.

(4)Rhaid i’r Cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, bob dau fis, am unrhyw gyngor sydd wedi ei roi ganddo ar faterion perthnasol yn ystod y ddau fis blaenorol, ac am y sawl a gafodd y cyngor hwnnw.

(5)Rhaid i gyngor a roddir o dan yr adran hon mewn perthynas â materion perthnasol fod o natur gyffredinol.

(6)Caiff y Cyngor, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, gyhoeddi unrhyw gyngor a roddir ganddo o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I14A. 7 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(e)

8Hybu gyrfaoeddLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru gyda’r bwriad o hybu gyrfaoedd, a datblygiad gyrfaoedd, yn y proffesiynau cofrestradwy yng Nghymru.

(2)Caiff y gweithgareddau gofynnol hynny gynnwys, yn benodol—

(a)rhoi cyngor;

(b)trefnu cynadleddau a darlithoedd;

(c)cyhoeddi deunyddiau hybu.

(3)At ddibenion adran 4(1)(b) a’r adran hon, mae’r cyfeiriad at yrfaoedd yn y proffesiynau cofrestradwy yn gyfeiriad at yrfaoedd sy’n darparu’r gwasanaethau a ddisgrifir mewn perthynas â chategori cofrestru (er enghraifft, addysgu).

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I16A. 8 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(e)

Cofrestru’r gweithlu addysgLL+C

9CofrestrLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor sefydlu a chynnal cofrestr at ddibenion y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r gofrestr gynnwys enw pob person sy’n gymwys i’w gofrestru o dan adran 10 ac sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru.

(3)Rhaid i’r gofrestr gynnwys y categorïau a nodir ac a ddisgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 (y “categorïau cofrestru”).

(4)Rhaid i bob person cofrestredig fod wedi ei gofrestru mewn o leiaf un categori cofrestru.

(5)Caniateir i berson gael ei gofrestru ar sail dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I18A. 9(1)(3) mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(c)

I19A. 9(1)(3) mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(f)

I20A. 9(2)(4)(5) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(f)

10Cymhwystra ar gyfer cofrestruLL+C

(1)Mae person yn gymwys i’w gofrestru os yw’r person yn bodloni’r amodau yn yr adran hon.

(2)Yr amod cyntaf yw bod y person—

(a)yn bodloni’r disgrifiad o gategori cofrestru ac wedi cwblhau’n foddhaol unrhyw gyfnod sefydlu sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 17, neu

(b)yn bodloni unrhyw ofynion ar gyfer cofrestru dros dro a bennir drwy reoliadau gan Weinidogion Cymru.

(3)Yr ail amod yw nad yw’r person—

(a)wedi ei wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47)),

(b)yn ddarostyngedig i orchymyn disgyblu a wneir o dan y Ddeddf hon ac yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw mae’r person yn anghymwys i gofrestru, neu

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio mewn swydd sy’n cyfateb i’r categori cofrestru y mae’n ceisio cofrestru ar ei gyfer mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

(4)Y trydydd amod yw bod y Cyngor, ar adeg cofrestru, yn fodlon bod y ceisydd yn berson addas i’w gofrestru yn y categori cofrestru y mae’n ceisio cofrestru ar ei gyfer.

(5)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio is-adran (3) i bennu unrhyw seiliau ychwanegol o ran anghymhwystra sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy.

(7)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (6) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff sy’n briodol yn eu barn hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I22A. 10 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(d)

11Apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestruLL+C

(1)Caiff person y mae ei gais i gofrestru wedi ei wrthod gan y Cyngor ar y sail nad oedd y Cyngor wedi ei fodloni o ran addasrwydd y ceisydd o dan adran 10(4) apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Uchel Lys.

(2)Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad am y penderfyniad i’r ceisydd.

(3)Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I24A. 11 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(g)

12Ffioedd cofrestruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y ffioedd y caniateir iddynt fod yn daladwy mewn cysylltiad â chofrestru (gan gynnwys ffioedd er mwyn ailosod enw ar y gofrestr neu er mwyn cadw enw arni).

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)yn awdurdodi’r Cyngor i godi ffioedd a’u hadennill;

(b)ynghylch swm y ffioedd (a phwy sydd i benderfynu’r swm hwnnw);

(c)ynghylch unrhyw eithriadau neu esemptiadau y caniateir iddynt fod yn gymwys neu y mae rhaid iddynt fod yn gymwys;

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr personau cofrestredig—

(i)didynnu (neu drefnu didyniad) o gyflog person cofrestredig unrhyw ffi sy’n daladwy, a

(ii)talu’r ffi honno i’r Cyngor;

(e)ynghylch y trefniadau sydd i’w mabwysiadu gan gyflogwyr yn unol â pharagraff (d);

(f)ynghylch y taliadau gweinyddu y caiff cyflogwyr eu didynnu o unrhyw ffioedd a delir i’r Cyngor;

(g)ynghylch canlyniadau methu â thalu ffioedd (a gaiff gynnwys gwrthod cofrestru neu ddileu enw o’r gofrestr).

(3)Yn yr adran hon, mae “cyflog” yn cynnwys unrhyw dâl sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir gan berson cofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I26A. 12 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(e)

13Cofrestru: darpariaeth bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth bellach ynghylch y gofrestr a chofrestru sy’n briodol neu’n hwylus yn eu barn hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y gofrestr;

(b)y ffurf a’r dull ar gyfer gwneud cais i gofrestru;

(c)y ddogfennaeth a thystiolaeth arall sydd i fynd gyda cheisiadau;

(d)sut i roi gwybod i geisydd am—

(i)y penderfyniad o ran p’un ai i gymeradwyo neu i wrthod cais i gofrestru, a

(ii)yn achos gwrthod cofrestru, y sail ar gyfer gwrthod y cais a hawl y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad;

(e)y materion sydd i’w cofnodi yn y gofrestr yn erbyn enwau’r rhai hynny sydd wedi eu cofrestru ynddi;

(f)ailosod cofnodion a’u newid;

(g)dileu cofnodion o’r gofrestr o dan yr amgylchiadau hynny a bennir yn y rheoliadau;

(h)dyroddi tystysgrifau cofrestru a ffurf y tystysgrifau hynny;

(i)yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr y caniateir iddi fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni a’r amgylchiadau hynny pan ganiateir i’r wybodaeth honno fod ar gael a’r amodau hynny y caniateir i’r wybodaeth honno fod ar gael yn ddarostyngedig iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I28A. 13 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(f)

Y gofynion sydd i’w bodloni er mwyn darparu gwasanaethauLL+C

14Athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolionLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu na chaiff person ddarparu gwasanaethau penodedig mewn ysgol oni bai—

(a)bod y person—

(i)yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig (gweler adran 132 o Ddeddf 2002), neu

(ii)yn bodloni gofynion penodedig, a

(b)bod y person wedi ei gofrestru mewn categori cofrestru penodedig.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n pennu gwasanaethau at ddiben yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—

(a)un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu

(b)yr amgylchiadau ar gyfer cynnal gweithgareddau.

(3)Caniateir i ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd is-adran (2) gael ei wneud, yn benodol, drwy gyfeirio at weithgaredd a bennir mewn dogfen o’r math a grybwyllir yn adran 124(3) o Ddeddf 2002.

(4)Caniateir i ofyniad yn y rheoliadau o dan is-adran (1) ymwneud, yn benodol, â—

(a)meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

(b)cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

(c)cydymffurfedd ag amod penodedig;

(d)arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gyfyngu ar y cyfnod amser a ganiateir er mwyn i waith gael ei ddarparu gan berson yn ddibynnol ar is-adran (1)(a)(ii).

(6)Yn yr adran hon, ystyr “ysgol” yw—

(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, a

(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I30A. 14 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(g)

I31A. 14 mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1688, ergl. 2(a)

15Athrawon addysg bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)ddarparu na chaniateir i addysg gael ei darparu gan berson mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai—

(i)bod gan y person hwnnw gymhwyster penodedig, a

(ii)bod y person hwnnw wedi ei gofrestru yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach;

(b)pennu amodau y mae rhaid i berson sy’n darparu addysg mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru gydymffurfio â hwy neu y mae rhaid cydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu nad yw darpariaeth benodedig yn y rheoliadau i fod yn gymwys pan fo amod penodedig (a gaiff gyfeirio at farn person penodedig) wedi ei fodloni.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod swyddogaeth ar—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)corff llywodraethu (o fewn ystyr “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)) sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

(4)At ddibenion yr adran hon, mae i “addysg” yr ystyr a roddir i “education” gan adran 140(3) o Ddeddf 2002.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I33A. 15 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(h)

16Gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu na chaiff person (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) ddarparu’r gwasanaethau a ddisgrifir yn is-adran (2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw—

(a)yn bodloni unrhyw ofynion penodedig, a

(b)wedi ei gofrestru yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach.

(2)Y gwasanaethau yw—

(a)galluogi neu helpu dysgwr i gymryd rhan mewn addysg,

(b)cefnogi annibyniaeth, cyflawniad neu ddilyniant y dysgwr, neu

(c)cefnogi person sy’n darparu addysg mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach.

(3)Caiff gofyniad yn y rheoliadau o dan is-adran (1) ymwneud, yn benodol, â—

(a)meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

(b)cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

(c)cydymffurfedd ag amod penodedig;

(d)arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

(4)At ddibenion yr adran hon, mae i “addysg” yr ystyr a roddir i “education” gan adran 140(3) o Ddeddf 2002.

Sefydlu a gwerthuso personau cofrestredigLL+C

17Gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydluLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol, neu mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol, fod person wedi cwblhau unrhyw gyfnod sefydlu yn foddhaol mewn man neu leoliad o unrhyw ddisgrifiad a bennir cyn y caniateir i’r person hwnnw gofrestru (ac eithrio ar sail dros dro).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth—

(a)ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i berson gael ei esemptio o’r gofyniad ei fod wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol;

(b)ynghylch y cyfnod a’r broses sefydlu gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—

(i)y cyfnodau o gyflogaeth y caniateir iddynt gael eu cyfrif fel rhan o’r cyfnod sefydlu;

(ii)y cymeradwyaethau y caniateir iddynt fod yn ofynnol cyn y caiff person ymgymryd â chyfnod sefydlu;

(iii)yr amgylchiadau pan nad yw’r sefydlu i ddigwydd mewn man neu leoliad o ddisgrifiad penodedig;

(iv)yr amgylchiadau pan gaiff person ymgymryd â mwy nag un cyfnod sefydlu;

(c)ynghylch hyfforddi a goruchwylio person yn ystod cyfnod sefydlu;

(d)ynghylch asesu personau sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu, gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(i)sy’n pennu’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am benderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol (“y corff priodol”);

(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth perthnasol wneud argymhelliad i’r corff priodol o ran a yw’r person wedi bodloni’r safonau gofynnol y penderfynir arnynt o dan adran 18;

(iii)sy’n pennu amgylchiadau pan gaiff y corff priodol benderfynu y dylid estyn cyfnod sefydlu person neu pan fo rhaid i’r corff priodol benderfynu estyn y cyfnod hwnnw;

(e)ynghylch y canlyniadau yn sgil cwblhau cyfnod sefydlu gan berson (p’un ai yn foddhaol ai peidio), gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff priodol hysbysu Gweinidogion Cymru a’r Cyngor pan fydd person wedi cwblhau cyfnod sefydlu neu fod y cyfnod hwnnw wedi ei estyn;

(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr person nad yw wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol derfynu cyflogaeth y person neu fel arall sicrhau bod y person yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau perthnasol ar gyfer y cyflogwr;

(iii)sy’n ei gwneud yn ofynnol mai dim ond y gwasanaethau perthnasol hynny y penderfynir arnynt yn unol â’r rheoliadau y caiff y person eu darparu ar gyfer ei gyflogwr;

(f)ynghylch unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chyfnodau sefydlu sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru, gan gynnwys (er enghraifft) ddarpariaeth—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff priodol nad yw’n awdurdod lleol gynnwys cynrychiolydd o awdurdod o’r fath,

(ii)sy’n rhoi swyddogaethau pellach ar y corff priodol, a

(iii)sy’n awdurdodi’r corff priodol, mewn unrhyw amgylchiadau a bennir, i godi unrhyw daliadau mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau y mae’n penderfynu arnynt.

(3)Rhaid i berson neu gorff sy’n arfer swyddogaeth o dan yr adran hon neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tani roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I36A. 17 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(i)

18Safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydluLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y safonau y mae person i’w asesu yn unol â hwy at y diben o benderfynu p’un a yw’r person hwnnw wedi cwblhau cyfnod sefydlu o dan adran 17 yn foddhaol ai peidio.

(2)Caniateir i safonau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Cyngor cyn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I38A. 18 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(j)

I39A. 18 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(h)

19Apelau yn erbyn penderfyniadau sefydluLL+C

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad y corff priodol o dan adran 17(2)(d) apelio i’r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

(2)Mae unrhyw benderfyniad a wneir ar apêl o’r fath yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag apelau o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I41A. 19 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(k)

I42A. 19 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(i)

20Sefydlu: pwerau ymyrrydLL+C

(1)Mae Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol) yn cael effaith mewn perthynas â dyletswyddau a osodir a phwerau a roddir yn rhinwedd adran 17 fel pe bai cyfeiriadau at yr awdurdod lleol yn cynnwys—

(a)corff llywodraethu (o fewn yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) sefydliad addysg bellach, a

(b)corff priodol ac eithrio corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol arbennig nas cynhelir felly neu awdurdod lleol.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 yn orfodadwy drwy waharddeb (yn hytrach na gorchymyn gorfodol) ar gais gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.

(3)Nid yw’r adran hon yn rhagfarnu Rhan 2 o Ddeddf 2013 fel y mae’n gymwys i—

(a)cyrff llywodraethu—

(i)ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru,

(ii)ysgolion arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly, a

(b)awdurdodau lleol yng Nghymru,

mewn cysylltiad ag unrhyw ddyletswyddau a osodir arnynt neu unrhyw bwerau a roddir iddynt yn rhinwedd adran 17.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I44A. 20 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(j)

21Sefydlu: dehongliLL+C

At ddibenion adrannau 17 i 20—

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I46A. 21 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(l)

22Darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person—

(a)wedi ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn ysgol berthnasol a gynhelir gyda’r bwriad o ddod yn athro neu athrawes ysgol neu’n weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol,

(b)heb gwblhau’n foddhaol y cyfnod sefydlu hwnnw, ac

(c)yn unol â gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 17(2)(e)(iii), dim ond yn darparu’r gwasanaethau perthnasol hynny yn yr ysgol y penderfynwyd arnynt yn unol â’r rheoliadau.

(2)Nid yw unrhyw gostau yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â thâl y person i gael eu talu o gyfran yr ysgol o’r gyllideb ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ac eithrio i’r graddau y mae gan yr awdurdod reswm da dros ddidynnu’r costau hynny, neu unrhyw ran o’r costau hynny, o’r gyfran honno.

(3)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “cyfnod sefydlu” yw cyfnod sefydlu sy’n ofynnol o dan reoliadau o dan adran 17(1);

(b)ystyr “ysgol berthnasol a gynhelir” yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru sydd â chyllideb ddirprwyedig;

(c)mae i gyfeiriad at gyfran yr ysgol o’r gyllideb neu at y ffaith bod gan ysgol gyllideb ddirprwyedig yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I48A. 22 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(k)

Rhagolygol

23Gwerthuso personau cofrestredigLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berfformiad personau cofrestredig gael ei werthuso—

(a)mewn dull a bennir gan y rheoliadau, a

(b)ar adegau a bennir gan y rheoliadau neu y penderfynir arnynt yn unol â hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod dyletswydd ar—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach;

(c)unrhyw gyflogwr arall personau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol;

(d)pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad addysg bellach;

(e)unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb gyffredinol dros bersonau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i werthusiad gael ei gynnal mewn dull sy’n rhoi disgresiwn ar berson a bennir gan y rheoliadau neu a ddewisir neu y penderfynir arno yn unol â hwy;

(b)caniatáu i berson y mae dyletswydd wedi ei gosod arno o dan is-adran (2) ddirprwyo’r ddyletswydd honno yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i berson a restrir yn is-adran (2) roi sylw i ganlyniadau gwerthusiad wrth gyflawni swyddogaeth a bennir gan y rheoliadau.

(5)Caniateir i ganlyniadau gwerthusiad gael eu defnyddio i benderfynu ar dâl athro neu athrawes ysgol.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weindiogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “ysgol” yw—

(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, a

(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

Cod ymddygiad ac ymarfer ar gyfer personau cofrestredigLL+C

24Cod ymddygiad ac ymarferLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod sy’n pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan bersonau cofrestredig.

(2)Caiff y cod ddarparu ar gyfer safonau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o berson cofrestredig.

(3)Wrth lunio’r cod, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn eu barn hwy.

(4)Rhaid i’r Cyngor adolygu’r cod a gwneud unrhyw ddiwygiadau iddo sy’n briodol yn ei farn ef—

(a)cyn pen 3 blynedd ar ôl pob dyddiad cyhoeddi (o dan is-adran (1) neu (5)), a

(b)pan fydd categori cofrestru newydd yn cael ei ychwanegu.

(5)Ar ôl pob adolygiad o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor gyhoeddi’r cod mewn dull sydd, ym marn y Cyngor, yn debygol o’i ddwyn i sylw’r personau cofrestredig ac unrhyw un arall a all fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.

(6)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I51A. 24 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(m)

I52A. 24 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(l)

25Cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cod a ddisgrifir yn adran 24 ac mewn cysylltiad â’r cod hwnnw.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y cod, a

(b)canlyniadau unrhyw fethiant gan berson cofrestredig i gydymffurfio â’r cod, a gaiff gynnwys trafodion disgyblu o dan adran 26.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I54A. 25 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(n)

Swyddogaethau disgyblu’r CyngorLL+C

26Swyddogaethau disgybluLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor gynnal unrhyw ymchwiliadau sy’n briodol yn ei farn ef mewn achosion—

(a)pan honnir bod person cofrestredig—

(i)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(ii)wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) o drosedd berthnasol, neu

(b)pan ymddengys i’r Cyngor y gall person cofrestredig fod yn euog yn y fath fodd neu ei fod wedi ei gollfarnu yn y fath fodd.

(2)Rhaid i’r Cyngor benderfynu, ar ôl cynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), pa gamau pellach i’w cymryd mewn cysylltiad â’r achos.

(3)Y camau y caiff y Cyngor eu cymryd yw—

(a)os yw o’r farn nad oes achos i’w ateb, peidio â pharhau â’r achos;

(b)os yw o’r farn bod (neu y gall fod) achos i’w ateb—

(i)cynnal gwrandawiad mewn cysylltiad â’r achos, neu

(ii)gyda chydsyniad y person y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef, penderfynu’r achos heb wrandawiad;

(c)peidio â pharhau â’r achos ar ryw sail arall.

(4)Pan fo’r Cyngor yn cynnal gwrandawiad neu fod y person wedi cydsynio i’r achos gael ei benderfynu heb wrandawiad, caiff y Cyngor benderfynu—

(a)nad oes achos i’w ateb;

(b)bod y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu ei fod wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol.

(5)Pan fo’r Cyngor yn penderfynu bod person—

(a)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(b)wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol,

caiff y Cyngor wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â’r person hwnnw.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan yr adran hon neu gyfyngu arnynt mewn unrhyw ddull a bennir yn y rheoliadau neu y penderfynir arno oddi tanynt.

(7)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (6) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru neu gyfyngu arnynt gyda’r bwriad o roi ystyriaeth i’r pwerau sy’n arferadwy gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47).

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I56A. 26 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(o)

27Swyddogaethau disgyblu: dehongliLL+C

(1)At ddibenion adran 26—

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “gorchymyn disgyblu” yw—

(a)cerydd;

(b)gorchymyn cofrestru amodol;

(c)gorchymyn atal dros dro;

(d)gorchymyn gwahardd.

(3)Pan fo rheoliadau o dan baragraff 12(1)(b) o Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor sefydlu pwyllgor at y diben o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan adran 26, mae cyfeiriadau yn yr adran honno at y Cyngor i’w dehongli yn gyfeiriadau at y pwyllgor hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I58A. 27 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(p)

28Swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau’r Cyngor neu mewn cysylltiad â hwy o dan adran 26.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth, yn benodol, ynghylch—

(a)y weithdrefn sy’n ymwneud ag unrhyw ymchwiliad neu drafodion (gan gynnwys gofynion hysbysu, gorfodi presenoldeb, derbynioldeb tystiolaeth a gweinyddu llwon);

(b)gorchmynion disgyblu (gan gynnwys gofynion cyflwyno, pan fydd gorchmynion yn cymryd effaith ac adolygu gorchmynion);

(c)y camau y caniateir iddi fod yn ofynnol i gyflogwr person sy’n cael gorchymyn disgyblu eu cymryd ac y caniateir iddynt fod yn ofynnol mewn perthynas â’r cyflogwr hwnnw (gan gynnwys diswyddo’r sawl sy’n cael y gorchymyn).

(3)Nid yw i fod yn ofynnol i unrhyw berson yn rhinwedd y rheoliadau o dan yr adran hon roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu unrhyw beth arall na ellid gorfodi’r person hwnnw i’w rhoi neu i’w dangos mewn trafodion sifil mewn unrhyw lys yng Nghymru a Lloegr.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I60A. 28 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(q)

29Gorchmynion cofrestru amodolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)O ran y person—

(a)mae’n parhau yn gymwys i’w gofrestru o dan adran 9, ond

(b)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau sy’n berthnasol i gyflogaeth y person fel person cofrestredig a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff yr amodau a bennir (ymhlith pethau eraill)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd unrhyw gamau penodedig a fydd, ym marn y Cyngor, yn helpu’r person i ddod yn berson cofrestredig medrus;

(b)ymwneud â gwariant ar ran y person.

(4)Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn cofrestru amodol i gael effaith—

(a)am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)heb derfyn amser.

(5)Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn cofrestru amodol, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(6)Rhaid i gais o dan is-adran (5) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I62A. 29 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(r)

I63A. 29 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(m)

30Gorchmynion atal dros droLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn atal dros dro wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).

(3)Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9 am y cyfnod a bennir yn y gorchymyn (nad yw’n fwy na dwy flynedd).

(4)Caiff gorchymyn atal dros dro bennu amodau i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy ac, yn yr achos hwnnw—

(a)mae’r person i ddod yn gymwys unwaith eto i’w gofrestru o dan adran 9 ar ddiwedd y cyfnod a bennir o dan is-adran (3) os yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, a

(b)os nad yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, mae’r person yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru hyd nes y bydd wedi cydymffurfio â’r amodau.

(5)Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn atal dros dro i gael effaith—

(a)am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)heb derfyn amser.

(6)Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn atal dros dro, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(7)Rhaid i gais o dan is-adran (6) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I65A. 30 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(s)

I66A. 30 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(n)

31Gorchmynion gwaharddLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn gwahardd wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).

(3)Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9.

(4)Caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn gwahardd, benderfynu bod person yn gymwys i’w gofrestru unwaith eto.

(5)Rhaid i gais o dan is-adran (4) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

(6)Ni chaniateir i gais o’r fath gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gorchymyn gwahardd yn cymryd effaith neu unrhyw gyfnod hwy a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I68A. 31 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(t)

I69A. 31 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(o)

32Apelau yn erbyn gorchmynion disgybluLL+C

(1)Caiff person y mae gorchymyn disgyblu wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef apelio yn erbyn y gorchymyn i’r Uchel Lys.

(2)Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad am y penderfyniad i’r person.

(3)Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I70A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I71A. 32 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(p)

Dyletswyddau o ran gwybodaethLL+C

33Y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodolLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal unrhyw gofnodion am unrhyw bersonau a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), yn benodol—

(a)wneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys y cofnodion, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal cofnodion ynghylch personau nad ydynt yn gymwys i’w cofrestru.

Gwybodaeth Cychwyn

I72A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I73A. 33 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(u)

34Rhoi gwybodaeth: GweinidogionLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â phersonau cofrestredig unigol—

(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu

(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn Gweinidogion Cymru i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.

(2)Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag athrawon unigol mewn ysgolion—

(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu

(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I74A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I75A. 34 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(q)

35Rhoi gwybodaeth: y CyngorLL+C

(1)Rhaid i’r Cyngor ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol ganddynt.

(2)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson cofrestredig, ddarparu i’r person hwnnw gopi o’r wybodaeth a roddwyd yn y gofrestr wrth enw’r person hwnnw.

(3)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson (ac eithrio person cofrestredig) y mae’n cynnal cofnodion mewn cysylltiad ag ef yn unol ag adran 33, ddarparu i’r person hwnnw gopi o unrhyw gofnodion y mae’n eu cadw amdano.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth—

(a)i unrhyw berson neu gorff arall a bennir, a

(b)at unrhyw ddibenion ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir.

Gwybodaeth Cychwyn

I76A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I77A. 35 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(v)

36Rhoi gwybodaeth: cyflogwyrLL+C

(1)Rhaid i gyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor—

(a)enw unrhyw berson cofrestredig y mae’n ei gyflogi neu y mae’n ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru, a

(b)unrhyw wybodaeth arall am unrhyw berson cofrestredig sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Cyngor mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau.

(2)Pan fo cyflogwr perthnasol—

(a)yn peidio â defnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3), neu

(b)wedi gallu peidio â defnyddio gwasanaethau’r person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3) pe na bai’r person hwnnw wedi rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

rhaid i’r cyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Y seiliau yw—

(a)ymddygiad proffesiynol annerbyniol;

(b)anghymhwysedd proffesiynol;

(c)collfarn am drosedd berthnasol.

(4)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I78A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I79A. 36 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(w)

37Rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i drefniadau a wneir gan un person (yr “asiant”) i berson cofrestredig ddarparu gwasanaethau perthnasol ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (p’un ai o dan gontract ai peidio).

(2)Pan fo asiant—

(a)wedi terfynu’r trefniadau ar sail a grybwyllir yn adran 36(3),

(b)wedi gallu terfynu’r trefniadau ar sail a grybwyllir yn adran 36(3) pe na bai’r person cofrestredig wedi eu terfynu, neu

(c)wedi gallu atal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer y person cofrestredig ar sail a grybwyllir yn adran 36(3) pe na bai’r person cofrestredig wedi peidio â chynnig darparu’r gwasanaethau,

rhaid i’r asiant ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn yr adran hon, mae i “cyflogwr perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 36 (4) .

Gwybodaeth Cychwyn

I80A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I81A. 37 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(x)

38Cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn—

(a)bod cyflogwr perthnasol wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 36, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno, neu

(b)bod asiant wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 37, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r cyflogwr neu (yn ôl y digwydd) yr asiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd.

(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan adran (2), ar gais Gweinidogion Cymru, gael ei orfodi drwy waharddeb.

(4)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I82A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I83A. 38 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(r)

Darpariaeth drosiannol a darfodolLL+C

39Trosglwyddo cofrestriadau personau sydd eisoes wedi eu cofrestruLL+C

(1)Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, a

(b)fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9 o’r Ddeddf hon.

(2)Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, ond

(b)na fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru ar sail dros dro yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I84A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I85A. 39 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(s)

40Materion darfodol sy’n ymwneud â chymhwystra i gofrestruLL+C

At ddibenion adran 10(3)—

(a)mae person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 142(1)(a) o Ddeddf 2002 (gwahardd rhag addysgu etc.) yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru, a

(b)mae cyfeiriad at orchymyn disgyblu o dan y Ddeddf hon yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn disgyblu cyfatebol a wnaed o dan Ddeddf 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I86A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I87A. 40 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(s)

Dehongli Rhan 2LL+C

41Dehongli Rhan 2LL+C

(1)Yn y Rhan hon, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson yn cael ei gofrestru dros dro (sut bynnag y’i mynegir) yn gyfeiriad at berson sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I88A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I89A. 41 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(y)