xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY GWEITHLU ADDYSG

Darpariaeth drosiannol a darfodolLL+C

39Trosglwyddo cofrestriadau personau sydd eisoes wedi eu cofrestruLL+C

(1)Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, a

(b)fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9 o’r Ddeddf hon.

(2)Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, ond

(b)na fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru ar sail dros dro yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 39 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(s)

40Materion darfodol sy’n ymwneud â chymhwystra i gofrestruLL+C

At ddibenion adran 10(3)—

(a)mae person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 142(1)(a) o Ddeddf 2002 (gwahardd rhag addysgu etc.) yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru, a

(b)mae cyfeiriad at orchymyn disgyblu o dan y Ddeddf hon yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn disgyblu cyfatebol a wnaed o dan Ddeddf 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I4A. 40 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(s)