Deddf Addysg (Cymru) 2014 Nodiadau Esboniadol

Adrannau 17 i 22 – Sefydlu personau cofrestredig

32.Mae adran 17 yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i berson gwblhau cyfnod sefydlu cyn y gellir ei gofrestru’n llawn.

33.Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon nodi’r manylion o ran yr hyn y bydd ei angen o safbwynt sefydlu ym mhob un o’r categorïau cofrestru. Caiff hyn gynnwys pa mor hir y dylai’r cyfnod sefydlu bara; ei leoliad a phwy a ddylai asesu a yw’r cyfnod sefydlu wedi ei gwblhau’n foddhaol. Caiff y rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer y canlyniadau pan na fo person yn cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol (er enghraifft, efallai na fydd person yn gallu cael ei gyflogi’n athro neu’n athrawes mewn ysgol a gynhelir).

34.Mae adran 18 yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu’r safonau y mae rhaid asesu person sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu yn unol â hwy. Wrth bennu’r safonau hynny rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Cyngor.

35.Mae adran 19 yn darparu bod gan berson y bernir nad yw wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol yr hawl i apelio i’r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

36.Mae adran 20 yn gwneud darpariaeth i ymdrin ag achosion pan fo person neu gorff sydd â swyddogaethau mewn cysylltiad â chyfnodau sefydlu yn methu â chyflawni’r swyddogaethau hynny, neu’n eu cyflawni mewn modd annigonol.

37.Mae’n gwneud hynny drwy gymhwyso’r darpariaethau perthnasol o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i’r swyddogaethau hyn. Mae hyn yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ymyrryd ac i ddyroddi cyfarwyddiadau yn unol â’r Ddeddf honno mewn perthynas â chorff llywodraethu sefydliad addysg bellach ac mewn perthynas â chyrff priodol (ac eithrio awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir).

38.Gan fod y Ddeddf hon wedi ei dosbarthu yn un o’r “Deddfau Addysg” (gweler adran 45 o’r Ddeddf) mae Deddf Safonau a Threftadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 eisoes yn gymwys i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir neu ysgolion arbennig. Mae is-adran (3) yn cadarnhau nad oes bwriad i effeithio ar weithrediad y Ddeddf honno yn y cyswllt hwn.

39.Mae adran 22 yn ymwneud â chyllido mewn sefyllfaoedd pan fo person wedi methu â chwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol ond ei fod yn parhau yn gyflogedig (â dyletswyddau cyfyngedig) mewn ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig. O dan yr amgylchiadau hyn, dim ond os oes rhesymau da dros wneud hynny y caiff awdurdod lleol wneud didyniadau o’r costau sy’n ymwneud â thâl y person o gyfran yr ysgol o’r gyllideb.

Back to top