Deddf Addysg (Cymru) 2014 Nodiadau Esboniadol

Adrannau 9 i 13 (ac Atodlen 2) – Cofrestru’r gweithlu addysg

19.Mae adrannau 9 i 13 yn ymwneud â chofrestru’r gweithlu addysg. Mae angen eu darllen ar y cyd ag Atodlen 2, a gyflwynir gan adran 9.

20.Yn rhinwedd adran 9, mae’n ofynnol i’r Cyngor gadw cofrestr o bob person sy’n gymwys i’w gofrestru ac sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru.

21.Mae Atodlen 2 yn nodi’r union ddisgrifiadau o’r rhai y caiff fod yn ofynnol iddynt gofrestru ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru (yn rhinwedd paragraff 2 o’r Atodlen) ychwanegu categorïau newydd o bersonau y caiff fod yn ofynnol iddynt gofrestru drwy orchymyn. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gweithwyr ieuenctid neu bersonau sy’n gysylltiedig â chynlluniau dysgu seiliedig ar waith a sefydlwyd o dan adran 31 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, a phersonau sy’n gweithio mewn ysgolion annibynnol.

22.Rhaid i berson sy’n dymuno cael ei gofrestru wneud cais i’r Cyngor, a rhaid iddo fodloni’r amodau cymhwystra a nodir yn adran 10. Os yw’r person yn bodloni’r amodau hynny, rhaid i’r Cyngor ei gofrestru.

23.Caiff person gofrestru yn llawn neu ar sail dros dro. Mae amrywiaeth o amgylchiadau pryd y gall fod yn briodol i berson gofrestru dros dro gan gynnwys tra bo’r person:

  • yn ymgymryd â chyfnod sefydlu;

  • yn dechrau hyfforddiant athrawon; neu

  • yn gweithio tuag at ennill cymhwyster gofynnol.

Fodd bynnag, dim ond unwaith y mae cymhwystra person i gael ei gofrestru yn cael ei asesu.

24.Mae angen darllen yr amodau y mae rhaid i berson eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael ei gofrestru ar y cyd ag adran 40. Mae’r amodau yn cynnwys gofyniad bod y Cyngor wedi ei fodloni bod y ceisydd yn addas i gael ei gofrestru.

25.Mae adran 11 yn darparu hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor ynghylch addasrwydd ceisydd i gael ei gofrestru.

26.Mae adran 12 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y ffioedd y caiff y Cyngor eu codi mewn cysylltiad â chofrestru. Mae hyn yn cynnwys swm y ffioedd y caniateir iddo eu codi a hefyd y dulliau y caniateir iddynt gael eu defnyddio i gasglu’r ffioedd hynny. Er enghraifft, gallai fod yn ofynnol i gyflogwyr personau cofrestredig ddidynnu’r ffioedd o gyflog y person ac anfon y swm hwnnw i’r Cyngor.

27.Mae adran 13 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cofrestru yn gyffredinol. Mae is-adran (2) yn darparu rhai enghreifftiau o sut y caniateir i’r pŵer gael ei arfer. Mae hyn yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud ar ystod eang o bynciau sy’n amrywio o’r agweddau gweinyddol a gweithdrefnol ar gofrestru i’r canlyniadau ar ôl i berson roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Cyngor fel rhan o’r broses gofrestru, a sut y gall y cyhoedd weld yr wybodaeth y mae’r Cyngor yn ei chadw.

Back to top