Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Addysg (Cymru) 2014

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg

(1)Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o gynnwys y Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)diwygio Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a’i ailenwi’n Gyngor y Gweithlu Addysg;

(b)cofrestru personau penodol sy’n addysgu plant a phobl ifanc;

(c)rheoleiddio personau cofrestredig, gan gynnwys—

(i)y rhwymedigaeth ar bersonau cofrestredig i gydymffurfio â chod sy’n pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol;

(ii)y camau y gellir eu cymryd yn erbyn person cofrestredig;

(d)rhannu gwybodaeth ynghylch personau cofrestredig.

(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ar gyfer ysgolion yng Nghymru;

(b)amserau sesiynau ysgolion;

(c)penodi personau i Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

(d)swyddogaethau addysg awdurdodau lleol sydd, yn rhinwedd adran 25 neu 26 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, i’w trin yn arferadwy, at bob diben, gan bersonau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn perthynas â’r Ddeddf.

(5)Darperir mynegai o’r geiriau a’r ymadroddion sydd wedi eu diffinio a’u defnyddio yn y Ddeddf hon yn Atodlen 4.

RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Cyngor y Gweithlu Addysg

2Cyngor y Gweithlu Addysg

(1)Mae’r corff corfforaethol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) a elwir Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru—

(a)i barhau i fodoli, ond

(b)i newid ei enw i (ac fe’i gelwir o hyn ymlaen yn) “Cyngor y Gweithlu Addysg” (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Cyngor”).

(2)Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a phwerau’r Cyngor) yn cael effaith.

3Nodau’r Cyngor

Prif nodau’r Cyngor yw—

(a)cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru, a

(b)cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phersonau sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.

4Swyddogaethau’r Cyngor

(1)Prif swyddogaethau’r Cyngor yw—

(a)darparu cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r personau y mae’n eu rheoleiddio ac addysgu a dysgu yn unol ag adran 7;

(b)ymgymryd â gweithgareddau i hybu gyrfaoedd mewn proffesiynau cofrestradwy yn unol ag adran 8;

(c)sefydlu a chynnal cofrestr yn unol ag adran 9;

(d)sicrhau bod ganddo’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefydlu personau yn unol ag adran 17 a gwrando apelau mewn perthynas â phenderfyniadau sefydlu yn unol ag adran 19;

(e)adolygu a diwygio’r cod sy’n pennu safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol ar gyfer personau cofrestredig yn unol ag adran 24;

(f)ymchwilio i ymddygiad proffesiynol annerbyniol ac anghymhwysedd proffesiynol a chymryd camau priodol mewn cysylltiad â phersonau cofrestredig yn unol ag adran 26;

(g)cadw unrhyw wybodaeth ynghylch personau a bennir yn unol ag adran 33 a darparu gwybodaeth i unrhyw gyrff a bennir yn unol ag adran 35.

(2)Mae gan y Cyngor hefyd y swyddogaethau ychwanegol sydd wedi eu rhoi iddo yn rhinwedd—

(a)y Ddeddf hon;

(b)gorchymyn o dan adran 5;

(c)unrhyw ddeddfiad arall.

(3)Mae’r swyddogaethau sydd wedi eu rhoi i’r Cyngor gan neu o dan y Rhan hon yn arferadwy ganddo o ran Cymru yn unig.

5Y pŵer i ychwanegu swyddogaethau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn roi neu osod ar y Cyngor unrhyw swyddogaethau ychwanegol sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

6Cyfarwyddiadau

(1)Rhaid i’r Cyngor gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (cyffredinol neu benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)Ni chaniateir i gyfarwyddyd gael ei roi mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)cais penodol i gofrestru o dan adran 9;

(b)apêl sy’n ymwneud â chais o’r fath;

(c)achos disgyblu penodol o dan adran 26.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon mewn unrhyw ddull sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd (ac mae is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen sy’n amrywio neu’n dirymu cyfarwyddyd fel y mae’n gymwys i gyfarwyddyd).

Darparu cyngor a hybu gyrfaoedd

7Darparu cyngor gan y Cyngor

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu cyngor—

(a)iddynt hwy ar—

(i)mater perthnasol, neu

(ii)unrhyw fater arall sy’n ymwneud ag addysgu neu ddysgu, a

(b)i berson arall ar fater perthnasol.

(2)At ddibenion yr adran hon, y “materion perthnasol” yw—

(a)safonau gwasanaethau a ddarperir gan bersonau cofrestredig;

(b)safonau ymddygiad ar gyfer personau cofrestredig;

(c)addasrwydd personau cofrestredig i ymarfer;

(d)rolau’r proffesiynau a gynrychiolir yn y categorïau cofrestru;

(e)statws pob un o’r proffesiynau hynny;

(f)hyfforddi, datblygu gyrfa a rheoli perfformiad personau cofrestredig;

(g)recriwtio personau cofrestredig ym mhob categori cofrestru a’u cadw;

(h)y cyflenwad o bersonau cofrestredig.

(3)Caiff y Cyngor hefyd ddarparu unrhyw gyngor sy’n briodol yn ei farn ef ar faterion perthnasol i unrhyw bersonau y mae’n penderfynu arnynt.

(4)Rhaid i’r Cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, bob dau fis, am unrhyw gyngor sydd wedi ei roi ganddo ar faterion perthnasol yn ystod y ddau fis blaenorol, ac am y sawl a gafodd y cyngor hwnnw.

(5)Rhaid i gyngor a roddir o dan yr adran hon mewn perthynas â materion perthnasol fod o natur gyffredinol.

(6)Caiff y Cyngor, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, gyhoeddi unrhyw gyngor a roddir ganddo o dan yr adran hon.

8Hybu gyrfaoedd

(1)Rhaid i’r Cyngor ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru gyda’r bwriad o hybu gyrfaoedd, a datblygiad gyrfaoedd, yn y proffesiynau cofrestradwy yng Nghymru.

(2)Caiff y gweithgareddau gofynnol hynny gynnwys, yn benodol—

(a)rhoi cyngor;

(b)trefnu cynadleddau a darlithoedd;

(c)cyhoeddi deunyddiau hybu.

(3)At ddibenion adran 4(1)(b) a’r adran hon, mae’r cyfeiriad at yrfaoedd yn y proffesiynau cofrestradwy yn gyfeiriad at yrfaoedd sy’n darparu’r gwasanaethau a ddisgrifir mewn perthynas â chategori cofrestru (er enghraifft, addysgu).

Cofrestru’r gweithlu addysg

9Cofrestr

(1)Rhaid i’r Cyngor sefydlu a chynnal cofrestr at ddibenion y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r gofrestr gynnwys enw pob person sy’n gymwys i’w gofrestru o dan adran 10 ac sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru.

(3)Rhaid i’r gofrestr gynnwys y categorïau a nodir ac a ddisgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 (y “categorïau cofrestru”).

(4)Rhaid i bob person cofrestredig fod wedi ei gofrestru mewn o leiaf un categori cofrestru.

(5)Caniateir i berson gael ei gofrestru ar sail dros dro.

10Cymhwystra ar gyfer cofrestru

(1)Mae person yn gymwys i’w gofrestru os yw’r person yn bodloni’r amodau yn yr adran hon.

(2)Yr amod cyntaf yw bod y person—

(a)yn bodloni’r disgrifiad o gategori cofrestru ac wedi cwblhau’n foddhaol unrhyw gyfnod sefydlu sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 17, neu

(b)yn bodloni unrhyw ofynion ar gyfer cofrestru dros dro a bennir drwy reoliadau gan Weinidogion Cymru.

(3)Yr ail amod yw nad yw’r person—

(a)wedi ei wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47)),

(b)yn ddarostyngedig i orchymyn disgyblu a wneir o dan y Ddeddf hon ac yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw mae’r person yn anghymwys i gofrestru, neu

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio mewn swydd sy’n cyfateb i’r categori cofrestru y mae’n ceisio cofrestru ar ei gyfer mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

(4)Y trydydd amod yw bod y Cyngor, ar adeg cofrestru, yn fodlon bod y ceisydd yn berson addas i’w gofrestru yn y categori cofrestru y mae’n ceisio cofrestru ar ei gyfer.

(5)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio is-adran (3) i bennu unrhyw seiliau ychwanegol o ran anghymhwystra sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy.

(7)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (6) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff sy’n briodol yn eu barn hwy.

11Apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru

(1)Caiff person y mae ei gais i gofrestru wedi ei wrthod gan y Cyngor ar y sail nad oedd y Cyngor wedi ei fodloni o ran addasrwydd y ceisydd o dan adran 10(4) apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Uchel Lys.

(2)Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad am y penderfyniad i’r ceisydd.

(3)Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

12Ffioedd cofrestru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y ffioedd y caniateir iddynt fod yn daladwy mewn cysylltiad â chofrestru (gan gynnwys ffioedd er mwyn ailosod enw ar y gofrestr neu er mwyn cadw enw arni).

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)yn awdurdodi’r Cyngor i godi ffioedd a’u hadennill;

(b)ynghylch swm y ffioedd (a phwy sydd i benderfynu’r swm hwnnw);

(c)ynghylch unrhyw eithriadau neu esemptiadau y caniateir iddynt fod yn gymwys neu y mae rhaid iddynt fod yn gymwys;

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr personau cofrestredig—

(i)didynnu (neu drefnu didyniad) o gyflog person cofrestredig unrhyw ffi sy’n daladwy, a

(ii)talu’r ffi honno i’r Cyngor;

(e)ynghylch y trefniadau sydd i’w mabwysiadu gan gyflogwyr yn unol â pharagraff (d);

(f)ynghylch y taliadau gweinyddu y caiff cyflogwyr eu didynnu o unrhyw ffioedd a delir i’r Cyngor;

(g)ynghylch canlyniadau methu â thalu ffioedd (a gaiff gynnwys gwrthod cofrestru neu ddileu enw o’r gofrestr).

(3)Yn yr adran hon, mae “cyflog” yn cynnwys unrhyw dâl sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir gan berson cofrestredig.

13Cofrestru: darpariaeth bellach

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth bellach ynghylch y gofrestr a chofrestru sy’n briodol neu’n hwylus yn eu barn hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y gofrestr;

(b)y ffurf a’r dull ar gyfer gwneud cais i gofrestru;

(c)y ddogfennaeth a thystiolaeth arall sydd i fynd gyda cheisiadau;

(d)sut i roi gwybod i geisydd am—

(i)y penderfyniad o ran p’un ai i gymeradwyo neu i wrthod cais i gofrestru, a

(ii)yn achos gwrthod cofrestru, y sail ar gyfer gwrthod y cais a hawl y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad;

(e)y materion sydd i’w cofnodi yn y gofrestr yn erbyn enwau’r rhai hynny sydd wedi eu cofrestru ynddi;

(f)ailosod cofnodion a’u newid;

(g)dileu cofnodion o’r gofrestr o dan yr amgylchiadau hynny a bennir yn y rheoliadau;

(h)dyroddi tystysgrifau cofrestru a ffurf y tystysgrifau hynny;

(i)yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr y caniateir iddi fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni a’r amgylchiadau hynny pan ganiateir i’r wybodaeth honno fod ar gael a’r amodau hynny y caniateir i’r wybodaeth honno fod ar gael yn ddarostyngedig iddynt.

Y gofynion sydd i’w bodloni er mwyn darparu gwasanaethau

14Athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu na chaiff person ddarparu gwasanaethau penodedig mewn ysgol oni bai—

(a)bod y person—

(i)yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig (gweler adran 132 o Ddeddf 2002), neu

(ii)yn bodloni gofynion penodedig, a

(b)bod y person wedi ei gofrestru mewn categori cofrestru penodedig.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n pennu gwasanaethau at ddiben yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—

(a)un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu

(b)yr amgylchiadau ar gyfer cynnal gweithgareddau.

(3)Caniateir i ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd is-adran (2) gael ei wneud, yn benodol, drwy gyfeirio at weithgaredd a bennir mewn dogfen o’r math a grybwyllir yn adran 124(3) o Ddeddf 2002.

(4)Caniateir i ofyniad yn y rheoliadau o dan is-adran (1) ymwneud, yn benodol, â—

(a)meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

(b)cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

(c)cydymffurfedd ag amod penodedig;

(d)arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gyfyngu ar y cyfnod amser a ganiateir er mwyn i waith gael ei ddarparu gan berson yn ddibynnol ar is-adran (1)(a)(ii).

(6)Yn yr adran hon, ystyr “ysgol” yw—

(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, a

(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.

15Athrawon addysg bellach

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)ddarparu na chaniateir i addysg gael ei darparu gan berson mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai—

(i)bod gan y person hwnnw gymhwyster penodedig, a

(ii)bod y person hwnnw wedi ei gofrestru yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach;

(b)pennu amodau y mae rhaid i berson sy’n darparu addysg mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru gydymffurfio â hwy neu y mae rhaid cydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu nad yw darpariaeth benodedig yn y rheoliadau i fod yn gymwys pan fo amod penodedig (a gaiff gyfeirio at farn person penodedig) wedi ei fodloni.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod swyddogaeth ar—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)corff llywodraethu (o fewn ystyr “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)) sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

(4)At ddibenion yr adran hon, mae i “addysg” yr ystyr a roddir i “education” gan adran 140(3) o Ddeddf 2002.

16Gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu na chaiff person (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) ddarparu’r gwasanaethau a ddisgrifir yn is-adran (2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw—

(a)yn bodloni unrhyw ofynion penodedig, a

(b)wedi ei gofrestru yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach.

(2)Y gwasanaethau yw—

(a)galluogi neu helpu dysgwr i gymryd rhan mewn addysg,

(b)cefnogi annibyniaeth, cyflawniad neu ddilyniant y dysgwr, neu

(c)cefnogi person sy’n darparu addysg mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach.

(3)Caiff gofyniad yn y rheoliadau o dan is-adran (1) ymwneud, yn benodol, â—

(a)meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

(b)cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

(c)cydymffurfedd ag amod penodedig;

(d)arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

(4)At ddibenion yr adran hon, mae i “addysg” yr ystyr a roddir i “education” gan adran 140(3) o Ddeddf 2002.

Sefydlu a gwerthuso personau cofrestredig

17Gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol, neu mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol, fod person wedi cwblhau unrhyw gyfnod sefydlu yn foddhaol mewn man neu leoliad o unrhyw ddisgrifiad a bennir cyn y caniateir i’r person hwnnw gofrestru (ac eithrio ar sail dros dro).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth—

(a)ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i berson gael ei esemptio o’r gofyniad ei fod wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol;

(b)ynghylch y cyfnod a’r broses sefydlu gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—

(i)y cyfnodau o gyflogaeth y caniateir iddynt gael eu cyfrif fel rhan o’r cyfnod sefydlu;

(ii)y cymeradwyaethau y caniateir iddynt fod yn ofynnol cyn y caiff person ymgymryd â chyfnod sefydlu;

(iii)yr amgylchiadau pan nad yw’r sefydlu i ddigwydd mewn man neu leoliad o ddisgrifiad penodedig;

(iv)yr amgylchiadau pan gaiff person ymgymryd â mwy nag un cyfnod sefydlu;

(c)ynghylch hyfforddi a goruchwylio person yn ystod cyfnod sefydlu;

(d)ynghylch asesu personau sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu, gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(i)sy’n pennu’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am benderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol (“y corff priodol”);

(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth perthnasol wneud argymhelliad i’r corff priodol o ran a yw’r person wedi bodloni’r safonau gofynnol y penderfynir arnynt o dan adran 18;

(iii)sy’n pennu amgylchiadau pan gaiff y corff priodol benderfynu y dylid estyn cyfnod sefydlu person neu pan fo rhaid i’r corff priodol benderfynu estyn y cyfnod hwnnw;

(e)ynghylch y canlyniadau yn sgil cwblhau cyfnod sefydlu gan berson (p’un ai yn foddhaol ai peidio), gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff priodol hysbysu Gweinidogion Cymru a’r Cyngor pan fydd person wedi cwblhau cyfnod sefydlu neu fod y cyfnod hwnnw wedi ei estyn;

(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr person nad yw wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol derfynu cyflogaeth y person neu fel arall sicrhau bod y person yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau perthnasol ar gyfer y cyflogwr;

(iii)sy’n ei gwneud yn ofynnol mai dim ond y gwasanaethau perthnasol hynny y penderfynir arnynt yn unol â’r rheoliadau y caiff y person eu darparu ar gyfer ei gyflogwr;

(f)ynghylch unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chyfnodau sefydlu sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru, gan gynnwys (er enghraifft) ddarpariaeth—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff priodol nad yw’n awdurdod lleol gynnwys cynrychiolydd o awdurdod o’r fath,

(ii)sy’n rhoi swyddogaethau pellach ar y corff priodol, a

(iii)sy’n awdurdodi’r corff priodol, mewn unrhyw amgylchiadau a bennir, i godi unrhyw daliadau mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau y mae’n penderfynu arnynt.

(3)Rhaid i berson neu gorff sy’n arfer swyddogaeth o dan yr adran hon neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tani roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

18Safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y safonau y mae person i’w asesu yn unol â hwy at y diben o benderfynu p’un a yw’r person hwnnw wedi cwblhau cyfnod sefydlu o dan adran 17 yn foddhaol ai peidio.

(2)Caniateir i safonau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Cyngor cyn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon.

19Apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad y corff priodol o dan adran 17(2)(d) apelio i’r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

(2)Mae unrhyw benderfyniad a wneir ar apêl o’r fath yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag apelau o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

20Sefydlu: pwerau ymyrryd

(1)Mae Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol) yn cael effaith mewn perthynas â dyletswyddau a osodir a phwerau a roddir yn rhinwedd adran 17 fel pe bai cyfeiriadau at yr awdurdod lleol yn cynnwys—

(a)corff llywodraethu (o fewn yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) sefydliad addysg bellach, a

(b)corff priodol ac eithrio corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol arbennig nas cynhelir felly neu awdurdod lleol.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 yn orfodadwy drwy waharddeb (yn hytrach na gorchymyn gorfodol) ar gais gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.

(3)Nid yw’r adran hon yn rhagfarnu Rhan 2 o Ddeddf 2013 fel y mae’n gymwys i—

(a)cyrff llywodraethu—

(i)ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru,

(ii)ysgolion arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly, a

(b)awdurdodau lleol yng Nghymru,

mewn cysylltiad ag unrhyw ddyletswyddau a osodir arnynt neu unrhyw bwerau a roddir iddynt yn rhinwedd adran 17.

21Sefydlu: dehongli

At ddibenion adrannau 17 i 20—

  • mae “corff priodol” i’w ddehongli yn unol ag adran 17(2)(d);

  • ystyr “pennaeth perthnasol” yw—

    (a)

    pennaeth ysgol,

    (b)

    pennaeth sefydliad addysg bellach, ac

    (c)

    unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros bersonau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol.

22Darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person—

(a)wedi ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn ysgol berthnasol a gynhelir gyda’r bwriad o ddod yn athro neu athrawes ysgol neu’n weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol,

(b)heb gwblhau’n foddhaol y cyfnod sefydlu hwnnw, ac

(c)yn unol â gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 17(2)(e)(iii), dim ond yn darparu’r gwasanaethau perthnasol hynny yn yr ysgol y penderfynwyd arnynt yn unol â’r rheoliadau.

(2)Nid yw unrhyw gostau yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â thâl y person i gael eu talu o gyfran yr ysgol o’r gyllideb ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ac eithrio i’r graddau y mae gan yr awdurdod reswm da dros ddidynnu’r costau hynny, neu unrhyw ran o’r costau hynny, o’r gyfran honno.

(3)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “cyfnod sefydlu” yw cyfnod sefydlu sy’n ofynnol o dan reoliadau o dan adran 17(1);

(b)ystyr “ysgol berthnasol a gynhelir” yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru sydd â chyllideb ddirprwyedig;

(c)mae i gyfeiriad at gyfran yr ysgol o’r gyllideb neu at y ffaith bod gan ysgol gyllideb ddirprwyedig yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

23Gwerthuso personau cofrestredig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berfformiad personau cofrestredig gael ei werthuso—

(a)mewn dull a bennir gan y rheoliadau, a

(b)ar adegau a bennir gan y rheoliadau neu y penderfynir arnynt yn unol â hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod dyletswydd ar—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach;

(c)unrhyw gyflogwr arall personau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol;

(d)pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad addysg bellach;

(e)unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb gyffredinol dros bersonau cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau perthnasol.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i werthusiad gael ei gynnal mewn dull sy’n rhoi disgresiwn ar berson a bennir gan y rheoliadau neu a ddewisir neu y penderfynir arno yn unol â hwy;

(b)caniatáu i berson y mae dyletswydd wedi ei gosod arno o dan is-adran (2) ddirprwyo’r ddyletswydd honno yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i berson a restrir yn is-adran (2) roi sylw i ganlyniadau gwerthusiad wrth gyflawni swyddogaeth a bennir gan y rheoliadau.

(5)Caniateir i ganlyniadau gwerthusiad gael eu defnyddio i benderfynu ar dâl athro neu athrawes ysgol.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weindiogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “ysgol” yw—

(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, a

(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.

Cod ymddygiad ac ymarfer ar gyfer personau cofrestredig

24Cod ymddygiad ac ymarfer

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod sy’n pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan bersonau cofrestredig.

(2)Caiff y cod ddarparu ar gyfer safonau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o berson cofrestredig.

(3)Wrth lunio’r cod, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn eu barn hwy.

(4)Rhaid i’r Cyngor adolygu’r cod a gwneud unrhyw ddiwygiadau iddo sy’n briodol yn ei farn ef—

(a)cyn pen 3 blynedd ar ôl pob dyddiad cyhoeddi (o dan is-adran (1) neu (5)), a

(b)pan fydd categori cofrestru newydd yn cael ei ychwanegu.

(5)Ar ôl pob adolygiad o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor gyhoeddi’r cod mewn dull sydd, ym marn y Cyngor, yn debygol o’i ddwyn i sylw’r personau cofrestredig ac unrhyw un arall a all fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.

(6)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.

25Cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cod a ddisgrifir yn adran 24 ac mewn cysylltiad â’r cod hwnnw.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys y cod, a

(b)canlyniadau unrhyw fethiant gan berson cofrestredig i gydymffurfio â’r cod, a gaiff gynnwys trafodion disgyblu o dan adran 26.

Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor

26Swyddogaethau disgyblu

(1)Rhaid i’r Cyngor gynnal unrhyw ymchwiliadau sy’n briodol yn ei farn ef mewn achosion—

(a)pan honnir bod person cofrestredig—

(i)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(ii)wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) o drosedd berthnasol, neu

(b)pan ymddengys i’r Cyngor y gall person cofrestredig fod yn euog yn y fath fodd neu ei fod wedi ei gollfarnu yn y fath fodd.

(2)Rhaid i’r Cyngor benderfynu, ar ôl cynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), pa gamau pellach i’w cymryd mewn cysylltiad â’r achos.

(3)Y camau y caiff y Cyngor eu cymryd yw—

(a)os yw o’r farn nad oes achos i’w ateb, peidio â pharhau â’r achos;

(b)os yw o’r farn bod (neu y gall fod) achos i’w ateb—

(i)cynnal gwrandawiad mewn cysylltiad â’r achos, neu

(ii)gyda chydsyniad y person y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef, penderfynu’r achos heb wrandawiad;

(c)peidio â pharhau â’r achos ar ryw sail arall.

(4)Pan fo’r Cyngor yn cynnal gwrandawiad neu fod y person wedi cydsynio i’r achos gael ei benderfynu heb wrandawiad, caiff y Cyngor benderfynu—

(a)nad oes achos i’w ateb;

(b)bod y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu ei fod wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol.

(5)Pan fo’r Cyngor yn penderfynu bod person—

(a)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(b)wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol,

caiff y Cyngor wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â’r person hwnnw.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan yr adran hon neu gyfyngu arnynt mewn unrhyw ddull a bennir yn y rheoliadau neu y penderfynir arno oddi tanynt.

(7)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (6) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru neu gyfyngu arnynt gyda’r bwriad o roi ystyriaeth i’r pwerau sy’n arferadwy gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47).

27Swyddogaethau disgyblu: dehongli

(1)At ddibenion adran 26—

  • mae “person cofrestredig” yn cynnwys—

    (a)

    person a oedd wedi ei gofrestru ar adeg unrhyw ymddygiad neu drosedd honedig (p’un ai o dan adran 9 neu o dan adran 3 o Ddeddf 1998), a

    (b)

    person sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru felly;

  • ystyr “trosedd berthnasol”, mewn perthynas â pherson cofrestredig, yw—

    (a)

    mewn achos o gollfarn yn y Deyrnas Unedig, trosedd ac eithrio un nad oes ganddi berthnasedd o bwys i addasrwydd y person i fod yn berson cofrestredig yn y categori cofrestru perthnasol;

    (b)

    mewn achos o gollfarn yn rhywle arall, trosedd a fyddai, pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn drosedd fel y’i crybwyllir ym mharagraff (a).

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “gorchymyn disgyblu” yw—

(a)cerydd;

(b)gorchymyn cofrestru amodol;

(c)gorchymyn atal dros dro;

(d)gorchymyn gwahardd.

(3)Pan fo rheoliadau o dan baragraff 12(1)(b) o Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor sefydlu pwyllgor at y diben o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan adran 26, mae cyfeiriadau yn yr adran honno at y Cyngor i’w dehongli yn gyfeiriadau at y pwyllgor hwnnw.

28Swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellach

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau’r Cyngor neu mewn cysylltiad â hwy o dan adran 26.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth, yn benodol, ynghylch—

(a)y weithdrefn sy’n ymwneud ag unrhyw ymchwiliad neu drafodion (gan gynnwys gofynion hysbysu, gorfodi presenoldeb, derbynioldeb tystiolaeth a gweinyddu llwon);

(b)gorchmynion disgyblu (gan gynnwys gofynion cyflwyno, pan fydd gorchmynion yn cymryd effaith ac adolygu gorchmynion);

(c)y camau y caniateir iddi fod yn ofynnol i gyflogwr person sy’n cael gorchymyn disgyblu eu cymryd ac y caniateir iddynt fod yn ofynnol mewn perthynas â’r cyflogwr hwnnw (gan gynnwys diswyddo’r sawl sy’n cael y gorchymyn).

(3)Nid yw i fod yn ofynnol i unrhyw berson yn rhinwedd y rheoliadau o dan yr adran hon roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu unrhyw beth arall na ellid gorfodi’r person hwnnw i’w rhoi neu i’w dangos mewn trafodion sifil mewn unrhyw lys yng Nghymru a Lloegr.

29Gorchmynion cofrestru amodol

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)O ran y person—

(a)mae’n parhau yn gymwys i’w gofrestru o dan adran 9, ond

(b)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau sy’n berthnasol i gyflogaeth y person fel person cofrestredig a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff yr amodau a bennir (ymhlith pethau eraill)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd unrhyw gamau penodedig a fydd, ym marn y Cyngor, yn helpu’r person i ddod yn berson cofrestredig medrus;

(b)ymwneud â gwariant ar ran y person.

(4)Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn cofrestru amodol i gael effaith—

(a)am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)heb derfyn amser.

(5)Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn cofrestru amodol, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(6)Rhaid i gais o dan is-adran (5) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

30Gorchmynion atal dros dro

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn atal dros dro wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).

(3)Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9 am y cyfnod a bennir yn y gorchymyn (nad yw’n fwy na dwy flynedd).

(4)Caiff gorchymyn atal dros dro bennu amodau i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy ac, yn yr achos hwnnw—

(a)mae’r person i ddod yn gymwys unwaith eto i’w gofrestru o dan adran 9 ar ddiwedd y cyfnod a bennir o dan is-adran (3) os yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, a

(b)os nad yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, mae’r person yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru hyd nes y bydd wedi cydymffurfio â’r amodau.

(5)Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn atal dros dro i gael effaith—

(a)am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)heb derfyn amser.

(6)Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn atal dros dro, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(7)Rhaid i gais o dan is-adran (6) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

31Gorchmynion gwahardd

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn gwahardd wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).

(3)Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9.

(4)Caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn gwahardd, benderfynu bod person yn gymwys i’w gofrestru unwaith eto.

(5)Rhaid i gais o dan is-adran (4) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.

(6)Ni chaniateir i gais o’r fath gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gorchymyn gwahardd yn cymryd effaith neu unrhyw gyfnod hwy a bennir yn y gorchymyn.

32Apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu

(1)Caiff person y mae gorchymyn disgyblu wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef apelio yn erbyn y gorchymyn i’r Uchel Lys.

(2)Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad am y penderfyniad i’r person.

(3)Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys wneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

Dyletswyddau o ran gwybodaeth

33Y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol

(1)At ddibenion y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal unrhyw gofnodion am unrhyw bersonau a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), yn benodol—

(a)wneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys y cofnodion, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal cofnodion ynghylch personau nad ydynt yn gymwys i’w cofrestru.

34Rhoi gwybodaeth: Gweinidogion

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â phersonau cofrestredig unigol—

(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu

(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn Gweinidogion Cymru i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.

(2)Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag athrawon unigol mewn ysgolion—

(a)y caiff y Cyngor ofyn amdani at ddibenion cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Rhan hon, neu

(b)y mae’n angenrheidiol neu’n ddymunol ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Cyngor ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaethau o’r fath.

35Rhoi gwybodaeth: y Cyngor

(1)Rhaid i’r Cyngor ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol ganddynt.

(2)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson cofrestredig, ddarparu i’r person hwnnw gopi o’r wybodaeth a roddwyd yn y gofrestr wrth enw’r person hwnnw.

(3)Rhaid i’r Cyngor, yn dilyn cais gan berson (ac eithrio person cofrestredig) y mae’n cynnal cofnodion mewn cysylltiad ag ef yn unol ag adran 33, ddarparu i’r person hwnnw gopi o unrhyw gofnodion y mae’n eu cadw amdano.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth—

(a)i unrhyw berson neu gorff arall a bennir, a

(b)at unrhyw ddibenion ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir.

36Rhoi gwybodaeth: cyflogwyr

(1)Rhaid i gyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor—

(a)enw unrhyw berson cofrestredig y mae’n ei gyflogi neu y mae’n ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru, a

(b)unrhyw wybodaeth arall am unrhyw berson cofrestredig sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Cyngor mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau.

(2)Pan fo cyflogwr perthnasol—

(a)yn peidio â defnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3), neu

(b)wedi gallu peidio â defnyddio gwasanaethau’r person cofrestredig yng Nghymru ar sail a grybwyllir yn is-adran (3) pe na bai’r person hwnnw wedi rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

rhaid i’r cyflogwr perthnasol ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Y seiliau yw—

(a)ymddygiad proffesiynol annerbyniol;

(b)anghymhwysedd proffesiynol;

(c)collfarn am drosedd berthnasol.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyflogwr perthnasol” yw person sy’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen bersonau cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol yng Nghymru;

  • mae i “trosedd berthnasol” yr un ystyr ag yn adran 27(1).

37Rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i drefniadau a wneir gan un person (yr “asiant”) i berson cofrestredig ddarparu gwasanaethau perthnasol ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (p’un ai o dan gontract ai peidio).

(2)Pan fo asiant—

(a)wedi terfynu’r trefniadau ar sail a grybwyllir yn adran 36(3),

(b)wedi gallu terfynu’r trefniadau ar sail a grybwyllir yn adran 36(3) pe na bai’r person cofrestredig wedi eu terfynu, neu

(c)wedi gallu atal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer y person cofrestredig ar sail a grybwyllir yn adran 36(3) pe na bai’r person cofrestredig wedi peidio â chynnig darparu’r gwasanaethau,

rhaid i’r asiant ddarparu i’r Cyngor unrhyw wybodaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn yr adran hon, mae i “cyflogwr perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 36 (4) .

38Cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn—

(a)bod cyflogwr perthnasol wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 36, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno, neu

(b)bod asiant wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 37, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r cyflogwr neu (yn ôl y digwydd) yr asiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd.

(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan adran (2), ar gais Gweinidogion Cymru, gael ei orfodi drwy waharddeb.

(4)Yn yr adran hon—

  • mae “asiant” i’w ddehongli yn unol ag adran 37;

  • mae i “cyflogwr perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 36 (4) .

Darpariaeth drosiannol a darfodol

39Trosglwyddo cofrestriadau personau sydd eisoes wedi eu cofrestru

(1)Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, a

(b)fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9 o’r Ddeddf hon.

(2)Pan, yn union cyn y dyddiad y daw’r adran hon i rym—

(a)fo person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 3 o Ddeddf 1998, ond

(b)na fo’r person wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion adran 19 o’r Ddeddf honno,

tybir bod y person wedi ei gofrestru ar sail dros dro yn y categori athro neu athrawes ysgol ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl hynny yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 9.

40Materion darfodol sy’n ymwneud â chymhwystra i gofrestru

At ddibenion adran 10(3)—

(a)mae person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 142(1)(a) o Ddeddf 2002 (gwahardd rhag addysgu etc.) yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru, a

(b)mae cyfeiriad at orchymyn disgyblu o dan y Ddeddf hon yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn disgyblu cyfatebol a wnaed o dan Ddeddf 1998.

Dehongli Rhan 2

41Dehongli Rhan 2

(1)Yn y Rhan hon, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • mae “categori cofrestru” (“category of registration”) i’w ddehongli yn unol ag adran 9(3);

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9(1);

  • “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw’r gwasanaethau y caniateir iddynt gael eu darparu gan berson cofrestredig yn unig;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw (yn ddarostyngedig i adran 27) person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a sefydlir o dan adran 9 (gan gynnwys y rhai sydd wedi eu cofrestru ar sail dros dro);

  • mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140 o Ddeddf 2002.

(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson yn cael ei gofrestru dros dro (sut bynnag y’i mynegir) yn gyfeiriad at berson sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro.

RHAN 3DARPARIAETH AMRYWIOL

Dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol

42Dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol

Ar ôl adran 32 o Ddeddf 2002, mewnosoder—

32AResponsibility for fixing term and holiday dates in Wales

(1)A local authority in Wales must determine the term dates for each community, voluntary controlled or community special school or maintained nursery school in its area.

(2)A governing body of a foundation or voluntary aided school in Wales (a “relevant governing body”) must determine the term dates for its school.

(3)In exercising its functions under subsection (1), a local authority must co-operate and co-ordinate with—

(a)each relevant governing body in its area, and

(b)every other local authority in Wales,

to ensure that the term dates determined are the same (or as similar as can be) for every maintained school in Wales.

(4)In exercising its functions under subsection (2), a relevant governing body must co-operate and co-ordinate with—

(a)the local authority, and

(b)every other relevant governing body in the local authority’s area,

to ensure that the term dates determined are the same (or as similar as can be) for every maintained school in Wales.

(5)Each local authority in Wales must notify the Welsh Ministers of the term dates which have been determined for a school year in respect of all the maintained schools in its area.

(6)The Welsh Ministers may by regulations make provision about the requirements of notification under subsection (5) including, in particular, provision about—

(a)the form and content of notifications;

(b)the period in which notification must be given;

(c)the procedure for notification.

(7)A local authority or a relevant governing body may alter the term dates which have been notified to the Welsh Ministers only if all the parties mentioned in subsection (8) agree to the alteration.

(8)The parties are—

(a)the local authority,

(b)each relevant governing body in the local authority’s area, and

(c)the Welsh Ministers.

(9)In this section—

  • “maintained school” means a school in Wales which is a community, foundation or voluntary school, a community special school or a maintained nursery school;

  • “term dates” means the dates on which the school terms and holidays are to begin and end.

32BWelsh Ministers’ power to direct determination of term dates

(1)The Welsh Ministers may direct a local authority in Wales or a relevant governing body to determine such term dates for a maintained school in Wales as may be specified in the direction.

(2)A direction under subsection (1) may, in particular—

(a)require different dates to be determined for different schools;

(b)be made in respect of such descriptions of schools as may be specified in the direction (for example, all community schools or all schools within a specified area);

(c)require the determination of different dates from those already determined or altered under section 32A.

(3)Before making a direction under subsection (1) the Welsh Ministers must carry out such consultation as they consider appropriate.

(4)The Welsh Ministers may, by regulations, make such further provision about such consultation as they consider necessary or expedient.

(5)The Welsh Ministers must publish a direction under subsection (1) electronically.

(6)In this section—

  • “maintained school” has the same meaning as in section 32A(9);

  • “relevant governing body” means the governing body of a foundation or voluntary aided school in Wales;

  • “term dates” means the dates on which the school terms and holidays are to begin and end.

32CResponsibility for fixing times of school sessions in Wales

(1)Except in the circumstances described in subsection (2), a governing body of a maintained school must determine the times of the school sessions for the school.

(2)The circumstances are—

(a)that the local authority in whose area the school is situated have given notice to the governing body that the times of the school sessions are to be determined in accordance with subsection (4), and

(b)that the notice has not been withdrawn by the local authority.

(3)A local authority must not give a notice under this section unless they consider that a change in the times of the school sessions is necessary or expedient in order to—

(a)promote the use of sustainable modes of travel within the meaning of section 11 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008 (nawm 2), or

(b)improve the effectiveness or efficiency of travel arrangements made, or to be made, by the authority under that Measure.

(4)In the circumstances described in subsection (2)—

(a)where there are 2 sessions on the relevant school day—

(i)the local authority must determine the time each day at which the first school session starts and the second school session ends, and

(ii)the governing body must determine the time each day at which the first school session ends and the second school session starts,

(b)where there is one school session on the relevant school day the local authority must determine the time each day at which the school session starts and ends.

(5)The Welsh Ministers may by regulations make provision—

(a)as to the procedure to be followed where the governing body of a community, voluntary controlled or community special school or maintained nursery school proposes to make any change in the time of the school sessions;

(b)as to the implementation of any such proposal;

(c)for enabling the local authority to determine, for any purposes of the regulations, whether any person is to be treated as a parent of a registered pupil at the school;

(d)as to the procedure to be followed where the local authority propose to give a notice under this section;

(e)as to the form and content of such a notice;

(f)as to the implementation of a determination made under subsection (4).

(6)A local authority must have regard to any guidance given by the Welsh Ministers when giving a notice under subsection (2) or discharging any function conferred by this section or regulations made under it.

(7)In this section—

  • “maintained school” means a school in Wales which is a community, foundation or voluntary school, a community special school or a maintained nursery school;

  • “the times of the school sessions” means the times at which each of the school sessions or, if there is only one, the school session, is to begin and end on any day..

Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

43Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Yn adran 19 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru), hepgorer is-adran (6) (Gweinidogion Cymru i gynghori’r Ysgrifennydd Gwladol ar argymhellion i’w Mawrhydi ar arfer pwerau penodi a diswyddo o dan is-adrannau (1), (2) a (4)(c)).

Swyddogaethau addysg awdurdodau lleol - ymyrryd

44Swyddogaethau addysg awdurdodau lleol yn arferadwy gan y personau a gyfarwyddir

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 25 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod), ar ôl is-adran (3), mewnosoder—

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan y person penodedig..

(3)Yn adran 26 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai), ar ôl is-adran (3), mewnosoder—

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai..

RHAN 4DARPARIAETH GYFFREDINOL

45Statws fel Deddf Addysg

Mae’r Ddeddf hon i gael ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf 1996.

46Darpariaeth ategol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.

47Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 50) yn arferadwy drwy offeryn statudol ac mae’n cynnwys y pŵer i—

(a)gwneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi, a

(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol gan gynnwys, yn benodol, gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall)—

(a)gorchymyn o dan adran 5;

(b)gorchymyn o dan adran 10(6);

(c)rheoliadau o dan adran 12;

(d)gorchymyn o dan adran 46 sy’n cynnwys darpariaeth sy’n ychwanegu at destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn diwygio’r testun neu’n ei hepgor;

(e)gorchymyn o dan baragraff 3 o Atodlen 1 neu baragraff 2 o Atodlen 2,

gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 50) i fod yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

48Mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol

Mae Atodlen 3 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) yn cael effaith.

49Dehongli cyffredinol

(1)Yn y Ddeddf hon, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • mae “addasu“ (“modify”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio neu ddiddymu;

  • ystyr “Deddf 1996” (“1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996 (p. 56);

  • ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30);

  • ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002 (p. 32);

  • ystyr “Deddf 2013” (“2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol (pa bryd bynnag y cawsant eu deddfu neu eu gwneud)—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (c)

    is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol neu o dan un o Fesurau neu Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru);

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon.

(2)Mae i ymadroddion eraill, os defnyddir hwy yn y Ddeddf hon ac yn Neddf 1996, yr un ystyr yn y Ddeddf hon ag yn Neddf 1996.

(3)Ond pan roddir i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon ystyr sy’n wahanol i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf 1996, mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r un a roddwyd at ddibenion Deddf 1996.

50Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 1;

(b)adran 45;

(c)adran 46;

(d)adran 47;

(e)adran 49;

(f)yr adran hon;

(g)adran 51.

(2)Daw adran 42 i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol ond dim ond i’r graddau y mae ei hangen er mwyn i reoliadau gael eu gwneud o dan adran 32A(6) neu 32B(4) o Ddeddf 2002.

(3)Daw paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 3 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(4)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, a

(b)cynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

51Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg (Cymru) 2014.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill