Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

63Dyletswydd i gynnal asesiad ariannolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â pherson y mae awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno o dan adran 59, pe bai’n diwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol asesu lefel adnoddau ariannol y person er mwyn dyfarnu a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person dalu’r ffi safonol (ond mae hynny’n ddarostyngedig i adran 65).

(3)Yn y Rhan hon ystyr “ffi safonol” yw’r swm y byddai awdurdod lleol yn ei godi o dan adran 59 pe na châi unrhyw ddyfarniad ei wneud o dan adran 66 ynghylch gallu person i dalu’r swm hwnnw.

(4)Cyfeirir at asesiad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “asesiad ariannol”.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1 A. 63(2) cyfyngedig (dd.) (1.4.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 25(1) (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 30, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 63 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)