Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

62Rheoliadau yn datgymhwyso pŵer i osod ffiLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

Caiff rheoliadau ddatgymhwyso pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan adran 59(1) neu (3) (ac felly cânt ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45 yn rhad ac am ddim); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud hynny, er enghraifft, pan fo’r gofal a’r cymorth, neu (yn achos gofalwyr) y cymorth—

(a)o fath penodedig;

(b)yn cael ei ddarparu neu ei drefnu o dan amgylchiadau penodedig;

(c)yn cael ei ddarparu i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu’n cael ei drefnu ar eu cyfer;

(d)yn cael ei ddarparu neu ei drefnu am gyfnod penodedig yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 62 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)