xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CDIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion plant am ofal a chymorthLL+C

39Dyletswydd i gadw cyswllt â’r teuluLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn—

(a)sydd o fewn ardal awdurdod lleol,

(b)y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod ganddo anghenion am ofal a chymorth yn ychwanegol at y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn,

(c)sy’n byw ar wahân i’w deulu, a

(d)nad yw’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

(2)Os yw’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn hyrwyddo llesiant y plentyn, rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn—

(a)galluogi’r plentyn i fyw gyda’i deulu, neu

(b)hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a’i deulu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 39 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)