Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

25Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr sy’n oedolynLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os yw gofalwr sy’n oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(2)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr—

    (a)

    nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, ond

    (b)

    bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr—

    (a)

    nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad,

    (b)

    nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr, ac

    (c)

    y byddai cael yr asesiad er lles pennaf y gofalwr.

(3)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r gofalwr (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(4)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y gofalwr neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 25 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)