xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CASESU ANGHENION UNIGOLION

Asesu gofalwyrLL+C

25Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr sy’n oedolynLL+C

(1)Os yw gofalwr sy’n oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(2)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

(3)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r gofalwr (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(4)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y gofalwr neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 25 cyfyngedig (dd.) (1.4.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 21 (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 23, 24, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan Rheoliadau (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 25 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)