195Anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorthLL+C
(1)Mae anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf hon, neu anghydfod rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn o dan adran 56 ynghylch cymhwyso’r adran honno mewn perthynas â pherson, i’w ddyfarnu arno gan—
(a)Gweinidogion Cymru, neu
(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru at y ddiben hwnnw (“person penodedig”).
[F1(1A)Pan fo anghydfod yn un y mae adran 30(2C) o Ddeddf Plant 1989 yn gymwys iddo (cwestiynau ynghylch pa un a yw plentyn yn preswylio fel arfer yng Nghymru neu Loegr), yna nid yw is-adran (1) yn gymwys.]
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch datrys anghydfodau o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (1); caiff y rheoliadau wneud, er enghraifft—
(a)darpariaeth i sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu i berson tra bo anghydfod heb ei ddatrys;
(b)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol mewn anghydfod gymryd camau penodedig cyn cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;
(c)darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;
(d)darpariaeth ynghylch adolygu dyfarniad a wneir o dan is-adran (1).
Diwygiadau Testunol
F1A. 195(1A) wedi ei fewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 317
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)