Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

153Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghoriLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu i’r awdurdod wasanaethau penodedig cynghorol eu natur.

(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

(4)Yn yr adran hon ac adran 154 ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 153 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 153 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)