Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

134Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i reoliadau nodi’r ardaloedd hynny yng Nghymru (“ardaloedd Byrddau Diogelu”) y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer.

(2)Mae pob un o’r canlynol yn bartner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal Bwrdd Diogelu—

(a)yr awdurdod lleol dros ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(b)prif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(d)ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(e)yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru;

(f)unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae’n ofynnol iddo gan drefniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas â’r ardal Bwrdd Diogelu.

(3)Ar ôl ymgynghori â’r partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer ardal, rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu—

(a)partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas â phlant, a

(b)partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas ag oedolion.

(4)Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas â phlant sefydlu Bwrdd Diogelu Plant ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

(5)Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion sefydlu Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

(6)Rhaid i Fwrdd Diogelu gynnwys—

(a)cynrychiolydd i bob partner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn is-adran (2) mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu, a

(b)cynrychiolydd unrhyw berson neu gynrychiolydd i gorff arall a bennir mewn rheoliadau fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu.

(7)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu person neu gorff fel partner Bwrdd Diogelu ond os yw’r person neu’r corff hwnnw yn arfer swyddogaethau o dan ddeddfiad mewn perthynas â phlant yng Nghymru neu, yn ôl y digwydd, oedolion yng Nghymru.

(8)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu un o Weinidogion y Goron na llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu, yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr) fel partner Bwrdd Diogelu oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(9)Caiff Bwrdd Diogelu gynnwys cynrychiolwyr unrhyw bersonau neu gyrff eraill, a’r rheini’n bersonau neu’n gyrff a grybwyllir yn is-adran (10), y mae’r Bwrdd o’r farn y dylent gael eu cynrychioli arno.

(10)Mae’r personau neu’r cyrff hynny’n bersonau ac yn gyrff o unrhyw natur sy’n arfer swyddogaethau neu sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â phlant neu oedolion (yn ôl y digwydd) yn yr ardal Bwrdd Diogelu o dan sylw.

(11)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at garchar yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc;

(b)mae i gyfeiriad at ganolfan hyfforddi ddiogel wedi ei chontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out secure training centre” gan adran 15 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994;

(c)mae i gyfeiriad at garchar sydd wedi ei gontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991.