Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

128Dyletswydd i hysbysu am oedolion sy’n wynebu risgLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person yn oedolyn sy’n wynebu risg, a’i bod yn ymddangos bod y person hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol am y ffaith honno.

(2)Os yw’n ymddangos bod y person, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y person hwnnw yn oedolyn sy’n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae’n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol arall hwnnw.

(3)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn oedolyn sy’n wynebu risg a’i fod yn byw neu’n bwriadu byw yn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.

(4)At ddiben yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn berson sy’n bartner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adran 162.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 128 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)