xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CDIOGELU

CanllawiauLL+C

131Canllawiau ynghylch oedolion sy’n wynebu risg a phlant sy’n wynebu risgLL+C

(1)Rhaid i’r canlynol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan adrannau 126 i 128 a 130, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt at y diben gan Weinidogion Cymru—

(a)awdurdod lleol;

(b)person sy’n swyddog awdurdodedig at ddibenion adran 127;

(c)cwnstabl neu berson penodedig arall sydd gyda swyddog awdurdodedig yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn a wneir o dan adran 127;

(d)person sy’n bartner perthnasol at ddibenion adran 128 neu 130.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 131 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)