xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014

2014 dccc 3

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer gweithredu mewn perthynas â cheffylau sydd mewn mannau cyhoeddus heb awdurdod cyfreithlon neu sydd ar dir arall heb ganiatâd, ac mewn cysylltiad â hynny.

[27 Ionawr 2014]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

1Trosolwg

Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol ymafael mewn ceffylau, cadw ceffylau a gwaredu ceffylau sydd—

(a)mewn mannau cyhoeddus heb awdurdod cyfreithlon, neu

(b)ar dir arall heb ganiatâd meddiannydd y tir.

2Pŵer awdurdod lleol i ymafael mewn ceffylau

(1)Caiff awdurdod lleol ymafael mewn ceffyl a chadw ceffyl sydd ar unrhyw briffordd, neu mewn unrhyw fan cyhoeddus arall, yn ardal yr awdurdod lleol os oes gan yr awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod y ceffyl yno heb awdurdod cyfreithlon.

(2)Caiff awdurdod lleol ymafael mewn ceffyl a chadw ceffyl sydd ar unrhyw dir arall yn ardal yr awdurdod lleol os oes gan yr awdurdod lleol sail resymol i gredu—

(a)yn achos tir y mae’r awdurdod lleol yn feddiannydd arno, bod y ceffyl yno heb ganiatâd yr awdurdod lleol, neu

(b)yn achos tir arall yn ardal yr awdurdod lleol, bod y ceffyl yno heb ganiatâd meddiannydd y tir a bod y meddiannydd yn caniatáu i’r awdurdod lleol ymafael ynddo a’i gadw.

3Hysbysiadau ynghylch ymafael etc.

(1)Rhaid i awdurdod lleol, o fewn 24 awr i ymafael mewn ceffyl o dan adran 2, osod mewn lle amlwg yn y man yr ymafaelwyd ynddo, neu gerllaw’r man hwnnw, hysbysiad ysgrifenedig—

(a)yn datgan yr ymafaelwyd yn y ceffyl a’r dyddiad a’r amser yr ymafaelwyd ynddo, a

(b)yn rhoi manylion ynghylch sut y gellir cysylltu â’r awdurdod lleol.

(2)Rhaid i awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ymafael mewn ceffyl o dan adran 2, gymryd camau rhesymol i ddarganfod pwy yw perchennog y ceffyl.

(3)Rhaid i awdurdod lleol, o fewn 24 awr i ymafael mewn ceffyl o dan adran 2, roi hysbysiad ysgrifenedig i—

(a)cwnstabl, a

(b)os ymddengys i’r awdurdod lleol fod person yn berchennog y ceffyl neu’n gweithredu ar ran y perchennog mewn perthynas â’r ceffyl, y person hwnnw.

(4)Pan fo awdurdod lleol yn darganfod, o fewn y cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod yr ymafaelir yn y ceffyl o dan adran 2, mai person na roddwyd hysbysiad ysgrifenedig iddo o dan is-adran (3)(b) yw perchennog y ceffyl, rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn 24 awr, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3) neu (4) fod yn ddyddiedig a chynnwys—

(a)disgrifiad byr o’r ceffyl,

(b)datganiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r man yr ymafaelwyd yn y ceffyl, a

(c)manylion ynghylch sut y gellir cysylltu â’r awdurdod lleol.

(6)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3)(b) neu (4) ddatgan hefyd—

(a)pam yr ymddengys i’r awdurdod lleol mai’r derbynnydd yw perchennog y ceffyl neu ei fod yn gweithredu ar ran y perchennog mewn perthynas â’r ceffyl, a

(b)effaith gweithredu adran 5 mewn perthynas â’r ceffyl (gan gynnwys pryd y bydd y pwerau a roddir gan is-adran (3) o’r adran honno yn dod ar gael).

(7)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3)(a) ddatgan hefyd pwy y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan is-adran (3)(b) mewn perthynas â’r ceffyl.

4Costau ymafael etc.

(1)Mae perchennog ceffyl yr ymafaelir ynddo gan awdurdod lleol o dan adran 2 yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol gostau a dynnir yn rhesymol wrth ymafael yn y ceffyl a’i gadw ac wrth ei fwydo a’i gynnal tra bo’n cael ei gadw.

(2)Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol ddychwelyd y ceffyl hyd nes y bydd y costau a dynnwyd yn y fath fodd wedi eu talu.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r perchennog sy’n datgan y swm y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod y perchennog yn atebol i’w dalu o dan is-adran (1) ac yn cynnwys esboniad o—

(a)sut y pennwyd y swm hwnnw, a

(b)yr hawl i gyfeirio anghydfod i’w ddatrys gan Weinidogion Cymru a sut i arfer yr hawl honno.

5Gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw

(1)Yn ddarostyngedig i adran 7, mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i awdurdod lleol ymafael mewn ceffyl o dan adran 2—

(a)os nad yw perchennog y ceffyl na pherson sy’n gweithredu ar ran perchennog y ceffyl wedi cysylltu â’r awdurdod lleol cyn pen y cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod perthnasol, neu

(b)os yw perchennog y ceffyl neu berson sy’n gweithredu ar ran perchennog y ceffyl wedi cysylltu â’r awdurdod lleol cyn pen y cyfnod hwnnw, er iddo gael hysbysiad o dan is-adran (3) o adran 4, wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) o’r adran honno cyn pen y cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod pan gafwyd yr hysbysiad.

(2)Ystyr y “diwrnod perthnasol”—

(a)os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad o dan adran 3(4), yw’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad hwnnw, a

(b)fel arall, y dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn gosod yr hysbysiad o dan adran 3(1).

(3)Caiff yr awdurdod lleol werthu’r ceffyl neu ei waredu fel arall (gan gynnwys drwy drefnu i’w ddifa).

(4)Pan nad oes unrhyw enillion yn codi o’r gwarediad, neu pan fo swm y costau a dynnir mewn cysylltiad â’r gwarediad yn fwy na swm y cyfryw enillion, mae perchennog y ceffyl yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm unrhyw gostau a dynnwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, neu’r swm hwnnw sydd dros ben.

(5)Pan fo swm unrhyw enillion sy’n codi o’r gwarediad yn fwy na swm y costau a dynnwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, mae’r awdurdod lleol yn atebol i dalu’r swm sydd dros ben i berchennog y ceffyl.

(6)Ond nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol talu unrhyw swm i berson os yw’r awdurdod lleol wedi talu’r swm hwnnw yn flaenorol i berson yr oedd yn credu’n rhesymol mai hwnnw oedd perchennog y ceffyl.

(7)Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r perchennog sy’n datgan y swm y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod y perchennog yn atebol i’w dalu o dan is-adran (4) neu y mae’r awdurdod lleol yn atebol i’w dalu o dan is-adran (5) ac yn cynnwys esboniad o—

(a)sut y pennwyd y swm hwnnw, a

(b)yr hawl i gyfeirio anghydfod i’w ddatrys gan Weinidogion Cymru a sut i arfer yr hawl honno.

6Cofnod o’r ceffylau yr ymdriniwyd â hwy

(1)Rhaid i awdurdod lleol gadw cofrestr o’r holl geffylau y mae wedi ymafael ynddynt o dan adran 2.

(2)Rhaid i’r gofrestr gynnwys, mewn perthynas â phob ceffyl—

(a)disgrifiad byr o’r ceffyl,

(b)datganiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r man yr ymafaelwyd ynddo,

(c)datganiad ynghylch pryd y cafodd ei gadw, a

(d)manylion y camau a gymerwyd i ddarganfod pwy yw ei berchennog,

ac, os yw’r ceffyl wedi ei waredu o dan adran 5, manylion y modd y’i gwaredwyd.

(3)Rhaid i’r gofrestr fod yn agored i’r cyhoedd ei gweld (p’un ai yn bersonol neu ar y rhyngrwyd) ar bob adeg resymol.

7Datrys anghydfodau am symiau taladwy

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo anghydfod yn codi rhwng perchennog ceffyl ac awdurdod lleol o ran—

(a)y swm y mae perchennog y ceffyl yn atebol i’w dalu i’r awdurdod lleol o dan adran 4(1) neu 5(4), neu

(b)y swm y mae’r awdurdod lleol yn atebol i’w dalu i berchennog y ceffyl o dan adran 5(5).

(2)Caiff perchennog y ceffyl, o fewn cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod y mae’r perchennog yn cael hysbysiad o dan adran 4(3) neu 5(7), gyfeirio’r anghydfod i’w ddatrys gan Weinidogion Cymru drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru sy’n cynnwys datganiad o’r rhesymau dros godi anghydfod am y swm.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan is-adran (2) rhaid iddynt anfon yr hysbysiad ymlaen i’r awdurdod lleol.

(4)Caiff yr awdurdod lleol gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau gyda’r diwrnod y caiff yr hysbysiad a anfonwyd ymlaen iddo o dan is-adran (3).

(5)Caniateir i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu unrhyw wybodaeth a all yn eu barn hwy eu cynorthwyo wrth iddynt ddatrys yr anghydfod.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ddatrys yr anghydfod drwy benderfynu ar swm yr atebolrwydd cyn gynted ag y bo’n ymarferol o dan yr holl amgylchiadau.

(7)Pan fo’r anghydfod yn ymwneud ag atebolrwydd o dan adran 4(1), ni chaiff yr awdurdod waredu’r ceffyl tra bo’r anghydfod yn aros iddo gael ei ddatrys gan Weinidogion Cymru.

8Diddymiadau canlyniadol

Mae’r canlynol yn peidio â chael effaith—

(a)adran 29 o Ddeddf Cyngor Dinas Caerdydd 1984 (p. xv);

(b)yn adran 15(8) o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987 (p. vii), y geiriau “horses (including ponies, mules, jennets),”; ac

(c)yn adran 35(7) o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 (p. viii), y gair “horses,”.

9Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

10Cychwyn ac enw byr

(1)Daw’r Ddeddf hon i rym y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff Gydsyniad Brenhinol.

(2)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014.