10Adolygu gweithrediad y Ddeddf
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
Rhaid i Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2016, adolygu gweithrediad y Ddeddf hon gyda’r bwriad yn benodol o asesu ei heffaith ar—
(a)ariannu addysg a ddarperir mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond sydd heb gyrraedd 19 oed,
(b)y ddarpariaeth Gymraeg mewn sefydliadau o’r fath, ac
(c)y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliadau o’r fath.