xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn adran 19 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (pwerau atodol corfforaeth addysg bellach), hepgorer—
(a)is-adran (4A) (y pŵer yn is-adran (4)(bb) i ffurfio cwmni, i gyfranogi mewn ffurfio cwmni neu i fuddsoddi mewn cwmni i beidio â chael ei arfer gan gorfforaeth addysg bellach yng Nghymru ar gyfer cynnal sefydliad addysgol neu ar gyfer buddsoddi mewn cwmni sy’n cynnal sefydliad addysgol),
(b)is-adran (4AA) (y pŵer yn is-adran (4)(bc) i ffurfio sefydliad elusennol corfforedig, i gyfranogi mewn ffurfio sefydliad elusennol corfforedig neu fel arall i ddod yn aelod o sefydliad elusennol corfforedig i beidio â chael ei arfer gan gorfforaeth addysg bellach yng Nghymru ar gyfer cynnal sefydliad addysgol neu ar gyfer dod yn aelod o sefydliad elusennol corfforedig sy’n cynnal sefydliad addysgol),
(c)is-adran (4AB) (pŵer Gweinidogion Cymru i gydsynio i arfer pŵer nad yw’n cydymffurfio â’r cyfyngiad yn is-adran (4A) neu (4AA)),
(d)is-adran (4B) (y pwerau yn is-adran (4)(bb) a (bc) i beidio â chael eu harfer gan gorfforaeth addysg bellach yng Nghymru ar gyfer darparu addysg a gyllidir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000),
(e)is-adran (4C) (nid yw is-adran (4B) i fod yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn cydsynio i’r pwerau gael eu harfer), ac
(f)is-adran (5) (y pŵer yn is-adran (4)(c) i fenthyca i beidio â chael ei arfer gan gorfforaeth addysg bellach yng Nghymru heb gydsyniad Gweinidogion Cymru).