Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014

(a gyflwynwyd gan adran 8)

ATODLEN 2MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992

1Yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992—

(a)yn adran 30 (darpariaeth arbennig ar gyfer sefydliadau penodol), yn is-adran (1), yn lle “29C” rhodder “29B”;

(b)yn adran 33I(2)(a) (offeryn ac erthyglau llywodraethu corfforaethau colegau chweched dosbarth), hepgorer “Part 2 of”;

(c)yn adran 61 (dehongli Rhan 1), yn is-adran (1), yn y diffiniad o “regulations” ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(d)yn adran 89 (gorchmynion, rheoliadau a chyfarwyddiadau)—

(i)yn is-adran (1), hepgorer “of the Secretary of State”;

(ii)yn is-adran (2), hepgorer “22ZA(1) and (4),” a “29C(4),”;

(iii)yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “a resolution” hyd at y diwedd rhodder

(a)in the case of an order or regulations made by the Secretary of State, a resolution of either House of Parliament;

(b)in the case of an order or regulations made by the Welsh Ministers, a resolution of the National Assembly for Wales.

Deddf Dysgu a Sgiliau 2000

2Yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000, hepgorer—

(a)adran 39 (pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr sefydliad sy’n dod o fewn y sector addysg bellach ac sy’n bennaf yn gwasanaethu poblogaeth Cymru), a

(b)yn Atodlen 9, paragraffau 22(4) a 25 (sy’n diwygio adrannau 19 ac 31 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992).

Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Cyngor) 2005

3Yng Ngorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Cyngor) 2005, yn Atodlen 1, hepgorer paragraffau 14 i 16, 18 a 59 (sy’n diwygio adrannau 19, 22, 27 ac 31 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac adran 39 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000).

Deddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007

4Yn Neddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007, hepgorer—

(a)adran 18(5) (sy’n mewnosod adran 57A yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992),

(b)adran 21(3) i (5) (sy’n diwygio adran 19 o’r Ddeddf honno), ac

(c)adran 22 (a fyddai, pe bai mewn grym, yn mewnosod adran 49A yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru ynghylch ymgynghori).

Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009

5Yn Neddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, yn Atodlen 6, hepgorer paragraffau 3(1), (3) a (4) a 5(b) (sy’n diwygio adrannau 19(4A) a (4B) ac 31(2A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992).

Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

6Ym Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, yn yr Atodlen, ym mharagraff 3 (sy’n diwygio adran 39 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000), hepgorer “39(1)”.

Deddf Addysg 2011

7Yn Neddf Addysg 2011, yn Atodlen 12, hepgorer paragraffau 3(3) i (5) a (7)(a) a (9), 5, 6, 7, 16(a), 43 a 45 (sy’n diwygio adrannau 19 ac 20, yn mewnosod adrannau 22 a 22ZA, ac yn disodli adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac Atodlen 4 iddi ac yn diwygio adran 22 o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007).