xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

2013 dccc 7

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer mapio llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig ac ar gyfer mapiau rhwydwaith integredig ac mewn cysylltiad â’r mapiau hynny; ar gyfer sicrhau bod llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell; ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i wella’r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a rhoi sylw i’w hanghenion; ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i swyddogaethau o dan y Ddeddf gael eu harfer er mwyn hyrwyddo teithiau teithio llesol a sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell; ac at ddibenion cysylltiedig.

[4 Tachwedd 2013]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chael cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Cyflwyniad

1Trosolwg

Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth—

(a)ar gyfer mapiau a gymeradwyir o lwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,

(b)ar gyfer mapiau rhwydwaith integredig a gymeradwyir o’r llwybrau teithio llesol newydd a gwell a’r cyfleusterau cysylltiedig y mae eu hangen i greu rhwydweithiau integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i fapiau rhwydwaith integredig wrth lunio polisïau trafnidiaeth ac i sicrhau bod llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell,

(d)sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar deithio llesol yng Nghymru,

(e)sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, wrth gyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, gymryd camau rhesymol i wella’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer cerddwyr a beicwyr a rhoi sylw i anghenion cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol eraill, ac

(f)sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf er mwyn hyrwyddo teithiau teithio llesol a sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell.

2Ystyr “llwybr teithio llesol” a “cyfleusterau cysylltiedig” etc.

(1)At ddibenion y Ddeddf hon mae llwybr mewn ardal awdurdod lleol yn llwybr teithio llesol—

(a)os yw’r llwybr mewn man ddynodedig yn yr ardal, a

(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn briodol iddo gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol.

(2)Yn yr adran hon ystyr “llwybr” yw priffordd, neu unrhyw lwybr arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, (gan gynnwys croesfan priffordd neu unrhyw lwybr o’r fath) ac y caiff cerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, ei ddefnyddio’n gyfreithlon.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “cerddwyr a beicwyr” yw—

(a)pobl sy’n cerdded,

(b)pobl sy’n defnyddio beiciau pedal, ac eithrio beiciau pedal sy’n gerbydau modur at ddibenion Deddf Traffig Ffyrdd 1988, ac

(c)pobl anabl nad ydynt o fewn paragraff (a) na (b) sy’n defnyddio cadeiriau olwyn modur, sgwteri symudedd neu gymhorthion symudedd eraill.

(4)Yn y Ddeddf hon ystyr “dynodedig”, mewn perthynas â man, yw wedi ei phennu, neu o ddisgrifiad sydd wedi ei bennu, mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu man, neu ddisgrifiad o fan, drwy gyfeirio at—

(a)dwysedd ei phoblogaeth,

(b)ei maint,

(c)ei hagosrwydd at fannau dwys eu poblogaeth sy’n fwy na maint penodol,

(d)ei safle rhwng y cyfryw fannau,

(e)ei hagosrwydd at wasanaethau a chyfleusterau cymunedol, neu

(f)y potensial, am resymau eraill, i fod yn fan, neu’n ddisgrifiad o fan, lle y mae cerddwyr a beicwyr yn gwneud mwy o deithio a hynny trwy deithiau teithio llesol.

(6)Wrth ystyried a yw’n briodol i lwybr gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol, rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth i’r canlynol—

(a)a yw’r llwybr yn hwyluso gwneud teithiau teithio llesol gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, a

(b)a yw lleoliad, natur a chyflwr y llwybr yn ei wneud yn addas i’w ddefnyddio yn ddiogel gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad ar gyfer gwneud y teithiau hynny,

a rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(7)Yn y Ddeddf hon ystyr “taith teithio llesol” yw taith a wneir i weithle neu sefydliad addysgol neu oddi yno neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd neu hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill.

(8)At ddibenion y Ddeddf hon ystyr “cyfleusterau cysylltiedig”, mewn perthynas â llwybr teithio llesol, yw—

(a)cyfleusterau sy’n rhoi lloches, cyfleusterau gorffwys neu gyfleusterau storio,

(b)toiledau neu gyfleusterau ymolchi,

(c)arwyddion, neu

(d)cyfleusterau eraill,

sydd ar gael i’w defnyddio gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, sy’n defnyddio’r llwybr teithio llesol.

(9)Wrth benderfynu a yw unrhyw beth yn gyfleusterau cysylltiedig at ddibenion y Ddeddf hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Mapiau

3Mapiau llwybrau presennol

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)llunio map llwybrau presennol, a

(b)ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “map llwybrau presennol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw map sy’n dangos y llwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol.

(3)Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo ymgynghori â’r canlynol—

(a)pob person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol ymgynghori ag ef am ei fap llwybrau presennol, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

(4)Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr ymgynghoriad a’r camau eraill sydd i’w cymryd wrth ei lunio,

(b)y materion sydd i’w dangos arno, ac

(c)ei ffurf.

(5)Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—

(a)cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol yn pennu dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw fel y dyddiad y mae rhaid ei gyflwyno iddynt, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwnnw.

(6)Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol gyflwyno iddynt hefyd—

(a)datganiad ynghylch i ba raddau (os o gwbl) y mae unrhyw un neu ragor o’r llwybrau teithio llesol a ddangosir arno yn peidio â chydymffurfio â’r safonau a bennir yn y canllawiau a roddir o dan adran 2(6), a

(b)esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu, er hynny, ei bod yn briodol iddynt gael eu hystyried yn llwybrau teithio llesol.

(7)Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon ar unrhyw achlysur ac eithrio’r achlysur cyntaf, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad iddynt hefyd yn pennu sut y mae lefel y defnydd o lwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol wedi newid ers yr achlysur blaenorol pan gyflwynodd yr awdurdod lleol fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(8)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon, cânt drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—

(a)ei ddiwygio (neu ei ddiwygio ymhellach), a

(b)ei gyflwyno iddynt i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(9)Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylent gymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon rhaid iddynt—

(a)ystyried a yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag is-adrannau (3) a (4) wrth ei lunio, a

(b)ystyried cynnwys y datganiad a’r esboniad a gyflwynwyd o dan is-adran (6).

(10)Unwaith y bydd map llwybrau presennol a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,

(b)caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, ac

(c)rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ar bob achlysur y caiff map rhwydwaith integredig yr awdurdod lleol ei gyflwyno i’w gymeradwyo o dan adran 4.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i awdurdod lleol bennu achlysur sy’n wahanol i’r hyn a bennir yn is-adran (10)(c) fel yr achlysur y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

4Mapiau rhwydwaith integredig

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)llunio map rhwydwaith integredig, a

(b)ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “map rhwydwaith integredig”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw map sy’n dangos—

(a)y llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig, a

(b)y gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig,

y mae eu hangen ym marn yr awdurdod lleol i ddatblygu neu wella rhwydwaith integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig mewn mannau dynodedig yn ei ardal.

(3)Wrth i awdurdod lleol baratoi ei fap rhwydwaith integredig rhaid iddo ymgynghori â’r canlynol—

(a)pob person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol ymgynghori ag ef am ei fap llwybrau presennol, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

(4)Wrth baratoi ei fap rhwydwaith integredig rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ddymunoldeb—

(a)hyrwyddo teithiau teithio llesol, a

(b)sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.

(5)Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap rhwydwaith integredig rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr ymgynghoriad a’r camau eraill sydd i’w cymryd wrth ei lunio,

(b)y cyfnod y mae i ymwneud ag ef,

(c)y materion sydd i’w dangos arno, a

(d)ei ffurf.

(6)Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei fap rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—

(a)cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol yn pennu dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw fel y dyddiad y mae rhaid ei gyflwyno iddynt, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwnnw.

(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo map rhwydwaith integredig a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon, cânt drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—

(a)ei ddiwygio (neu ei ddiwygio ymhellach), a

(b)ei gyflwyno iddynt i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(8)Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylent gymeradwyo map rhwydwaith integredig a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon rhaid iddynt ystyried a yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag is-adrannau (3) a (5) wrth ei lunio.

(9)Unwaith y bydd map rhwydwaith integredig a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,

(b)caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, ac

(c)rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn diwedd pob cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y’i cymeradwywyd ganddynt ddiwethaf.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i awdurdod lleol bennu cyfnod sy’n wahanol i’r cyfnod yn is-adran (9)(c) fel y cyfnod y mae rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno map rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn ei ddiwedd.

5Cyhoeddi etc. mapiau

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i fap llwybrau presennol neu fap rhwydwaith integredig a lunnir gan awdurdod lleol gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ei gyhoeddi yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,

(b)anfon copi yn rhad ac am ddim i’r personau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,

(c)darparu copi ohono, neu ran ohono, i unrhyw berson ar gais naill ai yn rhad ac am ddim neu am ddim mwy na’r gost o ddarparu’r copi,

(d)peri i gopi fod ar gael i edrych arno (ar bob adeg resymol) yn y mannau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, ac

(e)rhoi hysbysiad, yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, i ddwyn y mannau hynny lle y mae copi ohono ar gael i edrych arno i sylw’r cyhoedd.

(2)Wrth i awdurdod lleol benderfynu ar yr hyn sy’n briodol at ddibenion is-adran (1) rhaid i’r awdurdod lleol hwnnw roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Pan fo awdurdod lleol, mewn perthynas â map llwybrau presennol a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, wedi cyflwyno datganiad ac esboniad iddynt o dan adran 3(6) neu adroddiad o dan adran 3(7), rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ei gyhoeddi yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,

(b)anfon copi yn rhad ac am ddim i’r personau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,

(c)darparu copi ohono, neu ran ohono, i unrhyw berson naill ai yn rhad ac am ddim neu am ddim mwy na’r pris o ddarparu’r copi,

(d)peri i gopi fod ar gael i edrych arno (ar bob adeg resymol) yn y mannau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, ac

(e)rhoi hysbysiad, yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, i ddwyn y mannau hynny y mae copi ohono ar gael i edrych arno i sylw’r cyhoedd.

6Datblygu polisïau trafnidiaeth gan roi sylw i fap rhwydwaith integredig

Rhaid i bob awdurdod lleol, wrth ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) neu (2A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (polisïau sy’n sail i gynlluniau trafnidiaeth lleol), roi sylw i’r map rhwydwaith integredig ar gyfer ei ardal.

Darpariaethau eraill

7Sicrhau gwelliant parhaus i lwybrau teithio llesol

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bob blwyddyn fod—

(a)llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd, a

(b)gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig presennol,

yn ei ardal.

(2)Rhaid i awdurdod lleol, wrth gyflawni’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1), roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i bob awdurdod lleol roi adroddiad i Weinidogion Cymru yn pennu’r costau a dynnwyd ganddo ym mhob blwyddyn ariannol wrth gyflawni’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1).

8Adroddiadau gan Weinidogion Cymru ar deithio llesol

Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ynghylch i ba raddau y mae cerddwyr a beicwyr yn gwneud teithiau teithio llesol yng Nghymru.

9Darparu ar gyfer cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru a phob awdurdod lleol, wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan Rannau 3, 4, 5, 9 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (creu, cynnal a chadw a gwella priffyrdd, ymyrryd â phriffyrdd a chaffael etc. tir), i’r graddau y bo’n ymarferol gwneud hynny, gymryd camau rhesymol i wella’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru a phob awdurdod lleol roi sylw i anghenion cerddwyr a beicwyr wrth arfer eu swyddogaethau o dan—

(a)Rhannau 1, 2, 4 a 7 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (rheoleiddio traffig cyffredinol ac arbennig, mannau parcio a rhwystrau),

(b)Rhan 3 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (gwaith stryd), ac

(c)Rhan 2 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (rheoli’r rhwydwaith gan awdurdodau traffig lleol).

10Dyletswydd i arfer swyddogaethau i hyrwyddo teithio llesol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn modd sydd wedi ei ddylunio i—

(a)hyrwyddo teithiau teithio llesol, a

(b)sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.

(2)Rhaid i bob awdurdod lleol roi adroddiad i Weinidogion Cymru yn pennu’r hyn y mae wedi ei wneud ym mhob blwyddyn ariannol wrth gyflawni’r ddyletswydd a osodir arno gan is-adran (1).

Atodol

11Adolygu gweithrediad y Ddeddf

Rhaid i Weinidogion Cymru, dim hwyrach na’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau yn union ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn adran 4(6)(a), gynnal adolygiad o weithrediad y Ddeddf hon, gyda’r nod penodol o asesu pa mor llwyddiannus y bu wrth sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwella’r llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig presennol.

12Cyfarwyddiadau a chanllawiau

(1)Caniateir i unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddir o dan y Ddeddf hon gan Weinidogion Cymru gael eu hamrywio neu eu dirymu ganddynt.

(2)Wrth roi (neu amrywio neu ddirymu) cyfarwyddiadau neu ganllawiau o dan y Ddeddf hon rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb—

(a)hyrwyddo teithiau teithio llesol, a

(b)sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.

13Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

14Cychwyn

(1)Daw adrannau 3 i 11 i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael Cydsyniad Brenhinol.

15Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.