Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

3Perchnogion safleoeddLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

Yn y Ddeddf hon ystyr “perchennog”, o ran unrhyw dir, yw’r person—

(a)y mae ganddo hawl i feddiannu’r tir, neu

(b)y byddai ganddo hawl i feddiannu’r tir heblaw am hawliau unrhyw berson arall o dan unrhyw drwydded neu gontract a roddwyd ar gyfer y tir (gan gynnwys trwydded neu gontract i osod neu i feddiannu cartref symudol yno),

yn rhinwedd ystâd neu fuddiant yn y tir, ond gweler hefyd adrannau 39(2), 42(7) a 55(2)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 3 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)