xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1(1)Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 2 yn gymwys i bob cytundeb ac eithrio cytundeb sy’n ymwneud â llain ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.LL+C
(2)Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 3 yn gymwys i gytundeb sy’n ymwneud â llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.
(3)Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 4 yn gymwys i gytundeb sy’n ymwneud â llain barhaol ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.
(4)Yn y Rhan hon—
ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig y mae’n ofynnol i berchennog y safle gwarchodedig ei roi i feddiannydd y cartref symudol gan adran 49(1);
ystyr “dyddiad yr adolygiad” (“review date”), mewn perthynas â chytundeb, yw’r dyddiad a bennir yn y datganiad ysgrifenedig fel y dyddiad y caiff y ffi am y llain ei hadolygu bob blwyddyn, neu os nad oes dyddiad o’r fath wedi ei bennu, pen blwydd dyddiad cychwyn y cytundeb;
ystyr “mynegai prisiau defnyddwyr” (“consumer price index”) yw’r mynegai cyffredinol o eitemau defnyddwyr (o bob eitem) a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau neu, os na chyhoeddir y mynegai hwnnw am fis perthnasol, unrhyw fynegai neu ffigurau o fynegai amgen a gyhoeddir gan y Bwrdd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)