Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyol

8Prif weithredwr

(1)Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.

(2)Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

(3)Cyn penodi prif weithredwr, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

9Staff eraill

(1)Caiff y Comisiwn gyflogi staff.

(2)Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

(3)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.

10Arbenigwyr

(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.

(2)Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.

(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.

(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.

11Comisiynwyr cynorthwyol

(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“comisiynydd cynorthwyol”) y caiff, at ddibenion adran 13, ddirprwyo swyddogaethau iddo.

(2)Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn—

(a)aelod Seneddol;

(b)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)aelod o awdurdod lleol yng Nghymru;

(d)swyddog i awdurdod lleol yng Nghymru;

(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu

(g)aelod o staff y Comisiwn.

(3)Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.

(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.