xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau i’r Comisiwn o symiau a benderfynir ganddynt.
(2)Gwneir grant yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau ynghylch ad-dalu).
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;
(c)cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;
(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—
(a)adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,
(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,
(c)adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a
(d)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).
(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.
(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(1)Mae aelodau’r pwyllgor archwilio i fod fel a ganlyn—
(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn, a
(b)o leiaf un aelod lleyg.
(2)Ni chaiff aelod cadeirio’r Comisiwn fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.
(3)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.
(4)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—
(a)un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu
(b)arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).
(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn—
(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a
(b)llunio datganiad o gyfrifon.
(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—
(a)yr wybodaeth i’w chynnwys ynddo,
(b)y modd y mae’r wybodaeth i gael ei chyflwyno,
(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.
(3)Heb fod yn hwyrach nag 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—
(a)Gweinidogion Cymru, a
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio ac ardystio’r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno, a
(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y broses o gyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Yn yr adran hon, mae i “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag yn adran 19.