xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2Y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC

RHAN 3PERSON ARALL, DROS DRO, YN ARFER SWYDDOGAETHAU’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

5Caiff SAC, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, ddynodi person i arfer swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol dros dro yn lle’r Archwilydd Cyffredinol (“dynodiad dros dro”).

6Ni chaniateir gwneud dynodiad dros dro ond o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)bod swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn wag,

(b)nad yw’r Archwilydd Cyffredinol yn fodlon cyflawni swyddogaethau’r swydd,

(c)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod yr Archwilydd Cyffredinol yn methu â chyflawni swyddogaethau’r swydd, neu

(d)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod seiliau i ddiswyddo’r Archwilydd Cyffredinol oherwydd camymddygiad.

7Mae swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

(a)swyddogaethau fel prif weithredwr SAC (gweler adran 16);

(b)os yn berthnasol, swyddogaethau fel swyddog cyfrifyddu SAC (gweler paragraff 33(1) o Ran 8 o Atodlen 1);

(c)y pŵer i ddirprwyo o dan adran 18.

8Rhaid i berson sydd wedi ei ddynodi i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol fod yn gyflogai i SAC.

9Bydd person sydd wedi ei ddynodi i arfer y swyddogaethau hynny yn parhau’n gyflogedig gan SAC ar yr un telerau.

10Ond bydd y person hwnnw yn cael ei ddynodi i arfer swyddogaethau ar y telerau ychwanegol hynny (gan gynnwys telerau talu cydnabyddiaeth) y cytunir arnynt gan SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol.

11Caiff telerau talu cydnabyddiaeth—

(a)darparu ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person wrth arfer y swyddogaethau, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

12Ond ni chaiff y telerau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog ychwanegol neu bensiwn.

13Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r person fel y darperir ar ei gyfer gan unrhyw delerau ychwanegol o ran talu cydnabyddiaeth y cytunir arnynt, neu o dan y telerau hynny.

14O ran hyd dynodiad dros dro mewn perthynas ag amgylchiad y cyfeirir ato ym mharagraff 6—

(a)ni chaiff fod yn fwy na 6 mis, ond

(b)caniateir i SAC ei estyn unwaith mewn perthynas â’r amgylchiad hwnnw, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, am hyd at 6 mis arall.