Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

2Rhaglen arolygiadau hylendid bwydLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i awdurdod bwyd lunio, ac adolygu, rhaglen sy’n pennu—

(a)a oes rhaid i sefydliad busnes bwyd yn ei ardal gael ei arolygu, a

(b)os oes angen arolygiad, mynychder yr arolygiadau.

(2)Rhaid i awdurdod bwyd arolygu sefydliadau busnes bwyd yn ei ardal yn unol â’r rhaglen.

(3)Wrth lunio ac adolygu ei raglen, rhaid i awdurdod bwyd roi sylw i faterion a bennir gan yr ASB ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i’r materion a bennir gan yr ASB gynnwys asesiad o’r risg i iechyd y cyhoedd—

(a)sy’n gysylltiedig â’r math o fwyd a drafodir gan sefydliad,

(b)sy’n gysylltiedig â’r dull o drafod y bwyd, ac

(c)sy’n codi o record y sefydliad o gydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd.

(5)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yr ardal yng Nghymru lle y mae’r sefydliad (neu awdurdod iechyd porthladd o dan yr amgylchiadau a ragnodir gan adran 5(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990);

  • ystyr “gweithredwr” (“operator”) sefydliad busnes bwyd yw person sy’n ymwneud â rheoli’r sefydliad;

  • ystyr “sefydliad busnes bwyd” (“food business establishment”) yw unrhyw uned o fusnes sydd wedi ei gofrestru gydag awdurdod bwyd drwy rinwedd Erthygl 6 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 neu sydd wedi ei gymeradwyo o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 (neu sydd wedi ei gofrestru neu ei gymeradwyo o dan ddarpariaethau cyfatebol yn lle hynny ar gyfer cofrestru neu cymeradwyo sefydliadau busnes bwyd) ac—

    (a)

    sy’n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, neu

    (b)

    sy’n cyflenwi bwyd i fusnes arall.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio’r diffiniad o sefydliad busnes bwyd, gan gynnwys ehangu’r categori o sefydliad a fydd yn ddarostyngedig i raglen arolygiadau;

(b)diwygio’r diffiniad o awdurdod bwyd (er enghraifft, i gynnwys cyrff eraill).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I2A. 2(1)-(4)(6) mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(b)

I3A. 2(5) mewn grym ar 28.11.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(b)

I4A. 2(5) mewn grym ar 28.11.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/3089, ergl. 2