58Darpariaeth bellach am gynigion a wneir ar ôl cyfarwyddyd o dan adran 57(2)LL+C
(1)Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2) gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.
(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2).
(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2) a rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 58 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(b)