Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

RHAN 4LL+CATODOL

Llywodraethu ysgolLL+C

38(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweithredu cynigion i newid categori ysgol o ran llywodraethu’r ysgol.

(2)Caiff y rheoliadau hynny (ymysg pethau eraill) wneud darpariaeth—

(a)ynghylch adolygu a disodli offeryn llywodraethu’r ysgol,

(b)ynghylch ailgyfansoddi ei chorff llywodraethu,

(c)sy’n cymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, darpariaeth a wnaed gan neu o dan Bennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Addysg 2002 (llywodraethu ysgolion a gynhelir), a

(d)ynghylch materion trosiannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 38 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)

Darpariaethau trosiannol - derbyniadauLL+C

39(1)Pan fo ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod lleol fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (trefniadau derbyn) yn cael effaith, o’r dyddiad gweithredu ymlaen, fel pe bai wedi ei wneud gan y corff llywodraethu.

(2)Pan fo ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn dod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a reolir mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith, o’r dyddiad gweithredu ymlaen, fel pe bai wedi ei wneud gan yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 4 para. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4Atod. 4 para. 39 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)