xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CNEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 3LL+CYSGOLION CYMUNEDOL, YSGOLION SEFYDLEDIG AC YSGOLION GWIRFODDOL

9LL+CMae paragraffau 10 i 17 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Newidiadau i fangreoeddLL+C

10(1)Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol gan o leiaf 25% neu 200 o ddisgyblion o’i gymharu â chapasiti’r ysgol ar y dyddiad priodol.

(2)Wrth benderfynu cynnydd mewn capasiti at ddibenion is-baragraff (1), mae pob ehangiad a wnaed ar ôl y dyddiad priodol i’w cymryd i ystyriaeth ynghyd â’r ehangiad arfaethedig.

(3)Y “dyddiad priodol” yw’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y dyddiad sy’n dod bum mlynedd cyn y dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad;

(b)y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

(c)dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud unrhyw newid i’r ysgol a oedd yn golygu ehangu ei mangre ac y cyhoeddwyd y cynigon hynny o dan—

(i)adran 48, 59, 68 neu 72, neu

(ii)adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(4)Nid yw cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ehangu yn cynnwys ehangu dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

11(1)Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol os yw’r dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad yn dod o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn isbaragraff (2).

(2)Pum mlynedd yw’r cyfnod ac mae’n dechrau ar ddyddiad gweithredu’r cynigion (neu’r dyddiad diweddaraf) sy’n dod o fewn paragraff 13 (lleihau capasiti ysgol).

(3)Nid yw “ehangu” yn y paragraff hwn yn cynnwys ehangu dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

12Gwneud ehangu dros dro, a fyddai ar yr adeg y’i gwnaed wedi dod o fewn paragraff 10 (heblaw am y ffaith ei fod dros dro), yn ehangu parhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

13Newid a wneir i fangre’r ysgol a fyddai’n lleihau capasiti’r ysgol, lle y byddai’r capasiti arfaethedig yn is na’r nifer uchaf o ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn y dyddiad y lluniodd y cynigydd ei gynnig i wneud y newid arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I10Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

14At ddibenion paragraffau 10 i 13—

(a)mae cyfeiriadau at gapasiti ysgol yn gyfeiriadau at nifer y disgyblion y gall yr ysgol drefnu lle ar eu cyfer fel a ddyfernir yn unol â chanllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, a

(b)“ehangu dros dro” yw ehangu mangre ysgol y rhagwelir y bydd yr ehangiad, ar yr adeg y’i gwneir, yn ei le am lai na thair blynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I12Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Anghenion [F1addysgol arbennig] [F1dysgu ychwanegol] LL+C

15(1)Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion [F2addysgol arbennig] [F2dysgu ychwanegol].

(2)Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion [F3addysgol arbennig] [F3dysgu ychwanegol], newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn mhennawd Atod. 2 para. 15 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(a)(i); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

F2Geiriau yn Atod. 2 para. 15(1) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(a)(ii); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

F3Geiriau yn Atod. 2 para. 15(2) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(6)(a)(iii); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I14Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Trefniadau derbynLL+C

16Cyflwyno trefniadau derbyn y mae adran 101(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (bandio disgyblion) yn gymwys iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Darpariaeth fyrddioLL+C

17(1)Cyflwyno darpariaeth ar gyfer llety byrddio neu ei dirwyn i ben.

(2)Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 50 o ddisgyblion neu ragor neu gan 50% neu ragor.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I18Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)