xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CCYRFF LLYWODRAETHU SYDD WEDI EU FFURFIO O AELODAU GWEITHREDIAETH INTERIM

Dyletswydd yr awdurdod priodol i hysbysu personau eraillLL+C

6(1)Rhaid i’r awdurdod priodol roi copi o’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ac o bob offeryn penodi aelod gweithrediaeth interim—

(a)i bob aelod gweithrediaeth interim,

(b)i bob llywodraethwr presennol yr ysgol,

(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, i Weinidogion Cymru,

(d)os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, i’r awdurdod lleol, ac

(e)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)i’r person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, i’r corff crefyddol priodol.

(2)Nid yw methiant â chydymffurfio ag is-baragraff (1) yn annilysu’r hysbysiad na’r penodiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)